Lansio Seilwaith Cyfathrebu Cymraeg yn yr Eisteddfod
Fel rhan o’u sesiwn ar Arloesi ar gyfer Technolegau Iaith a’r Cyfryngau Digidol brynhawn dydd Llun yn yr Eisteddfod, bydd Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr yn lansio eu project newydd, Seilwaith Cyfathrebu Cymraeg.
Bydd y project yn gosod y sylfeini ar gyfer amrediad o dechnolegau cyfathrebu yn Gymraeg, gan gynnwys trawsgrifio, rheoli teclynnau, a chyfieithu lleferydd i leferydd. Bydd hyn yn ysgogi datblygiad pecynnau meddalwedd a gwasanaethau Cymraeg newydd, ac yn prif-ffrydio’r Gymraeg mewn pecynnau cyfathrebu “ y rhyngrwyd pethau”, meddalwedd cwestiwn ac ateb, ac amgylcheddau amlieithog.
Cyn bo hir felly, bydd hi’n bosib i chi siarad Cymraeg gyda’ch set deledu ac offer eraill sy’n ymateb i lais, a bydd modd i chi ofyn cwestiynau i’ch ffôn clyfar, a chael yr ateb ar lafar hefyd. Ariannwyd y project gan Lywodraeth Cymru drwy eu Cronfa Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg.
Bydd y sesiwn yn yr Eisteddfod hefyd yn rhoi cyfle i bobl glywed am y datblygiadau diweddar gyda thechnoleg a’r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Yn eu plith mae ychwanegu Geiriadur Termau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol at yr Ap Geiriaduron poblogaidd. Mae lluniau, diagramau a diffiniadau ar gael yn hwn, ac mae ynddo bellach dros 100,000 o gofnodion.
Un o gynnyrch eraill arloesol yr Uned fydd yn cael ei ddangos fydd y system gyfieithu CyfieithuCymru. Hon yw’r unig system sydd ar gael sy’n delio’n benodol gyda’r Gymraeg. Mae’n cynnwys Cysill fel rhan annatod ohoni, elfen o fras-gyfieithu awtomatig, a chof cyfieithu parod. Mae’n dod yn fwyfwy poblogaidd gan sefydliadau cyhoeddus sydd eisiau gwneud y defnydd gorau o’r dechnoleg ddiweddaraf.
Bydd y sesiwn hefyd yn gyfle i ddathlu llwyddiant y 31 cyfieithydd proffesiynol sydd wedi astudio modiwlau cyfieithu ôl-radd yn rhan amser ym Mangor y llynedd ac eleni dan y cynllun TILT. Enillodd 18 ohonynt Dystysgrif Ôl-radd Astudiaethau a Thechnoleg Cyfieithu, ac mae’r gweddill hanner ffordd yno. Mae hwn yn gymhwyster sydd wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer cyfieithwyr sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant, ac wedi’i deilwra’n benodol ar gyfer anghenion gweinyddiaeth ddwyieithog Cymru.
Mae croeso mawr i bawb ddod i’r sesiwn hon ar stondin Prifysgol Bangor, am 4 brynhawn Llun y 3ydd o Awst ar stondin Prifysgol Bangor ar faes yr Eisteddfod, ac i’r derbyniad wedyn.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Gorffennaf 2015