Lansio Technoleg Werdd Arloesol ym Mangor
Lansiwyd safle profi newydd yng Nghanolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor yn ddiweddar. Mae'r safle newydd yn unigryw o ran ei faint ac amrywiaeth ei weithgareddau.
Bellach gall Prifysgol Bangor gynnig safle profi gwyrdd ar raddfa ddiwydiannol i fusnesau. Bu hyn yn bosib oherwydd buddsoddiad gwerth £345,000 gan raglen A4B (arbenigedd Academaidd i Fusnesau) Llywodraeth Cymru dan nawdd Ewrop.
Mae’r Labordy CO2 yn gwneud defnydd da o’r nwy tŷ gwydr carbon deuocsid (CO2) , sy’n un o sgil-gynhyrchion y diwydiant cemegol a bragu. Bellach mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor yn gallu ailgylchu’r CO2, a’i ddefnyddio yn lle toddyddion traddodiadol at nifer o ddibenion yn y diwydiant cemegol.
Eisoes cafwyd cryn lwyddiant wrth ddefnyddio CO2 fel toddydd i waredu caffein o goffi, echdynnu perlysiau a sbeisys i’w rhoi mewn bwyd a diod a chynhyrchu cwyrau ac olewau pur i’w defnyddio mewn nwyddau cosmetig a gofal personol. Mae’r dechnoleg hon yn cynhyrchu sylweddau pur iawn nad ydynt yn cynnwys gweddillion toddyddion organig, a geir wrth ddefnyddio prosesau echdynnu diwydiannol confensiynol.
Bydd y Ganolfan Biogyfansoddion yn cynnig yn dechnoleg hon at ddefnydd cwmnïau masnachol a grwpiau academaidd yn benodol i gefnogi datblygiad masnachol cynnyrch newydd ar sail technolegau proses CO2 yn cynnwys echdynnu, puro ac addasu cynhyrchion naturiol.
Bydd offer labordy unigryw'r Ganolfan Biogyfansoddion sydd yn addas ar gyfer arbrofion peilot yn cadarnhau safle Bangor fel un o ganolfannau arbenigedd blaenllaw Ewrop yn y dechnoleg hon. Bydd hyn yn galluogi’r brifysgol i ehangu ei chysylltiadau cydweithredol â diwydiant a grwpiau academaidd yn y DU, Ewrop a Gogledd America, mewn ffordd na fu'n bosib o'r blaen.
Yn y lansiad meddai'r Athro John G Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor: “rydym wrth ein bodd bod Prifysgol Bangor ar y ffordd i fod yn arweinydd yn y DU o ran hyrwyddo mabwysiadu prosesau echdynnu cemegol gwyrddach. Bydd hyn yn arwain hefyd at ddatblygu partneriaethau strategol gyda sefydliadau rhyngwladol o bwys fydd yn dod â buddsoddiad i ogledd orllewin Cymru a’r tu hwnt.”
Darparwyd yr offer yn y labordy gan SciMed, cwmni sy’n arbenigo mewn offer labordy a phroses.
Meddai Paul Vanden Branden, Rheolwr Cynnyrch yn SciMed: “Buom yn gweithio gyda Phrifysgol Bangor a'r Ganolfan Biogyfansoddion ers nifer o flynyddoedd ac roeddem ni wrth ein bodd pan ofynnwyd i ni gyflenwi’r offer ar gyfer y labordy unigryw hwn.”
Meddai Dr Adam Charlton o’r Ganolfan Biogyfansoddion “Bydd y safle unigryw hwn yn galluogi Cymru i arwain mewn sector sydd yn ehangu'n gyflym. Mae’n cadarnhau safle blaenllaw'r Ganolfan Biogyfansoddion o ran hyrwyddo'r gwaith o ddatblygu cemeg werdd a chynaliadwy a’i rhoi ar waith mewn cynhyrchion a phrosesau newydd.”
Oherwydd yr offer newydd hwn mae'r brifysgol wedi ennill grant Bwrdd Strategaeth Technoleg pellach gan Adran Arloesi a Sgiliau Llywodraeth y DU, fydd yn golygu y bydd y Ganolfan Biogyfansoddion yn cydweithio'n agos iawn ag Unilever a Croda International – arweinydd byd-eang mewn cemegolion arbenigol. Mae Croda’n cynhyrchu cynhwysion allweddol bwysig mewn llawer o nwyddau cyfarwydd. Bydd y project TSB yn defnyddio’r Labordy CO2 i edrych ar ddeunyddiau presennol a helpu i ddatblygu cynhwysion actif.
Meddai Dr Damian Kelly, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Croda : “Rydym yn gyffrous iawn o gael cydweithio â Phrifysgol Bangor ac yn gobeithio y bydd y project TSB hwn yn arwain at waith pellach. Rydym wrth ein boddau o fod yn un o’r cwmnïau cyntaf i ddefnyddio'r arbenigedd a'r offer yn y labordy ac rydym yn edrych ymlaen at broject llwyddiannus a chyffrous."
Mae'r offer newydd hwn hefyd wedi caniatáu i’r Ganolfan Biogyfansoddion i ennill contractau ymchwil contract eraill, a thrwy gyllid Y a D cydweithredol mae wedi gallu creu cysylltiadau newydd â rhai o labordai gorau’r byd gan gynnwys rhai a gyllidir trwy’r Adran Ynni yn UDA.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Ionawr 2013