Lansio Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth 2 (KESS 2) gwerth £36m yng Nghymru gyda chefnogaeth yr UE
Ym Mhrifysgol Bangor ar 26ain Gorffennaf, fe lansiodd Mark Drakeford AC, Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, brosiect gwerth £36m gyda chefnogaeth yr UE, sy’n cynnig cyfleoedd Meistr Ymchwil a PhD ar y cyd â chwmnïau lleol drwy’r wyth Brifysgol yng Nghymru.
Mae KESS 2 yn fenter sylweddol ar draws Cymru a gefnogir gyda £26m o gyllid yr UE drwy Lywodraeth Cymru sy'n cysylltu cwmnïau a sefydliadau ag arbenigedd academaidd yn y sector Addysg Uwch yng Nghymru i gyflawni prosiectau ymchwil ar y cyd.
Nod KESS 2 yw adeiladu ar lwyddiant ei ragflaenydd, KESS. Bydd y fenter ddiweddaraf yn darparu dros 600 o ysgoloriaethau dros chwe blynedd. Ar ben hynny, bydd dros 500 o fentrau'n cydweithio â gweithgareddau Ymchwil ac Arloesi ar draws wyth o Brifysgolion Cymru.
Dywedodd Mark Drakeford: “Mae gan KESS II rôl bwysig i’w chwarae yn y gwaith o annog ffyniant ledled Cymru drwy ddarparu cyfleoedd i fyfyrwyr ôl-radd ac academïau wella eu sgiliau ymchwil mewn sectorau twf allweddol, a hefyd drwy gefnogi masnacheiddio’r ymchwil hwnnw ymysg busnesau.
“Bydd dros £26m o gyllid yr UE yn cefnogi’r prosiect mawr hwn dros y blynyddoedd nesaf, sydd unwaith eto'n pwysleisio pwysigrwydd allweddol y cyllid hwn o ran cefnogi datblygiad economaidd yng Nghymru.
Nod KESS 2 yw cynyddu nifer y bobl a chanddynt sgiliau lefel uwch sy'n ymwneud â mentrau sy'n cyflawni ymchwil a gweithgareddau arloesi, gyda’r bwriad o hyrwyddo a chynyddu gweithgarwch Ymchwil ac Arloesi ym myd busnes, gan gynnwys cwmnïau micro. Bydd y cynllun yn cyflwyno ystod o gyfleoedd cydweithio ar lefel Meistr Ymchwil a Doethuriaeth mewn Prifysgolion a chwmnïau yng ngorllewin Cymru a’r Cymoedd.
Bydd KESS 2 yn cyfrannu at nod Llywodraeth Cymru i ymgorffori ymchwil ac arloesi mewn mentrau yng ngorllewin Cymru a’r Cymoedd drwy ddarparu gweithgareddau sy'n cael eu harwain gan alw ac sy'n cyd-fynd â datblygu sgiliau lefel uwch gyda manteision busnes.
Arweinir KESS 2 gan Brifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru.
Dywedodd yr Athro John Hughes (Is-ganghellor: Prifysgol Bangor):
Rwy'n hynod falch mai Bangor sydd wedi cael y fraint o arwain rhaglenni KESS, rhai 1 a 2, ar ran yr holl brifysgolion yng Nghymru. Nod y cynllun Ysgoloriaeth Sgiliau Economi Gwybodaeth, neu KESS 2, yw paru dros 500 o fusnesau ag academyddion a myfyrwyr ymchwil ôl-radd, i ddatblygu rhaglenni ymchwil arloesol er mwyn twf busnes ffyniannus. Mae’r prosiect yn werth £36m, ac mae £26m ohono wedi'i ddarparu drwy gyllid yr UE. Bydd y cyllid hwn yn caniatáu i dros 600 o fyfyrwyr ôl-radd fanteisio ar gyfleoedd i ddatblygu eu hunain fel gweithwyr ymchwil proffesiynol fel rhan o raglenni Meistr Ymchwil a PhD a gaiff eu hariannu drwy'r cynllun.
Mae’n fuddsoddiad sylweddol gan yr UE a fydd yn helpu i gyfuno gwaith ymchwil ag anghenion busnesau bach ac annog sgiliau lefel uchel yng Nghymru dros y blynyddoedd nesaf.
Ychwanegodd yr Athro Jo Rycroft-Malone (Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil ac Effaith: Prifysgol Bangor):
“Er ein bod braidd yn ansicr ynghylch beth sy’n ein hwynebu o bosibl, mae gennym rywfaint o sicrwydd bod dyfodol Cymru yn nwylo ein cynlluniau buddsoddi a datblygu’r genhedlaeth nesaf, ac mewn sicrhau ein bod yn meithrin ochr gystadleuol. Mae darparu adnoddau i gyfuno ymchwil, rhannu gwybodaeth a datblygu sgiliau lefel uwch am fod yn hollbwysig i’r tebygrwydd y byddwn yn sicrhau dyfodol cadarnhaol, ac mae hyn yn mynd at galon rhaglen KESS mewn gwirionedd, sef ei bod yn fuddsoddiad ac yn gyfle arwyddocaol i gyfrannu at ddatblygu economi gwybodaeth a ffyniant Cymru yn y dyfodol, gan gael effaith go iawn ar fywydau’r unigolion hynny sy'n cymryd rhan fel myfyrwyr ar yr un pryd.
“Mae KESS yn broses gydweithio hynod lwyddiannus sydd wedi rhoi Cymru ar y map, ac rydym yn datblygu'r dalent a’r arbenigedd yn ein Prifysgolion, busnesau, a sefydliadau eraill er mwyn bwrw ymlaen â syniadau arloesol ac ysbrydoledig.”
Gweler yma galeri lluniau KESS 2.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Awst 2016