Lauren Court-Dobson yw Brenhines Gomedi Bangor!
Nos Lun ddiwethaf, coronwyd, Lauren Court-Dobson, sydd â gradd mewn seicoleg, yn enillydd Cystadleuaeth Flynyddol Prifysgol Bangor ar gyfer Digrifwyr.
“Rwy’n methu credu’r peth”, meddai Lauren, “roeddwn mor nerfus yng nghefn y llwyfan. Roeddwn yn sicr na fyddwn i ddim yn ennill.”
Ar bapur, gellid dadlau bod Lauren yn llygaid ei lle yn credu na fyddai ganddi obaith yn y byd o ennill. Dim ond ei phedwerydd cynnig oedd hwn ar ddigrifwch wrth sefyll.
“Roedd pawb ar bigau drain yng nghefn y llwyfan,” meddai’r fenyw 22 oed. “Ond pan es i ar y llwyfan, roedd y dorf mor gefnogol”.
Y gefnogaeth honno a fu’n gymorth i Lauren oresgyn ei nerfau wrth iddi fynd ymlaen i roi perfformiad anfarwol o gomedi cymeriad a chomedi plaen.
“Pan gamais i oddi ar y llwyfan, roeddwn wrth fy modd,” meddai Lauren, “Roeddwn yn teimlo’n wych fy mod yn gallu gwneud i gymaint o bobl chwerthin.”
Panel o dri beirniad a ddewisodd enillydd y gystadleuaeth; Cydlynydd Celfyddydau Pontio, Dyfan Roberts; Llywydd Undeb Myfyrwyr Bangor a chyn-Lywydd Comedi Bangor, Antony Butcher; a Chyfarwyddwr Comedi Bangor ar gyfer Sgetshis a Digrifwyr 2012-2013 a chyn-enillydd y Gystadleuaeth i Ddigrifwyr, Joshua Fenby-Taylor.
Fel gwobr am ennill y gystadleuaeth, bydd Lauren yn perfformio fel act ategol ar gyfer y digrifwr a’r perfformiwr teledu proffesiynol, Sean Walsh, mewn gig sydd i’w gynnal gan Pontio ym Mhrifysgol Bangor.
“Rwy wedi cynhyrfu’n lân ac yn nerfus,” meddai Lauren, “mae Sean Walsh yn ddyn gwirioneddol ddoniol.”
Mae Lauren yn cymryd rhan mewn comedi ers rhyw dair blynedd, a hithau wedi ymuno â chymdeithas gomedi’r Brifysgol yn ei blwyddyn gyntaf o astudiaeth. Oddi ar hynny, mae hi wedi perfformio mewn amryw o ffurfiau ar gomedi, yn amrywio rhwng sgetshis, comedi cymeriad a chomedi byrfyfyr, gan berfformio hyd yn oed wrth ochr y digrifwr Phil Jupitus, fel rhan o Ŵyl Gomedi’r Giddy Goat yn Venue Cymru.
Pan ofynnwyd iddi pa gyngor a roddai i unrhyw un sy’n awyddus i roi cynnig ar ddigrifwch, dywedodd Lauren, “Dylen nhw chwilio am bobl o gyffelyb fryd a fydd yn eu cefnogi.”
Meddai Lauren hefyd, “Dylai unrhyw un sydd am wneud comedi ddechrau sylwi ar bobl, lleoedd ac unrhyw beth arall y gall ei ddefnyddio fel deunydd ar gyfer set ddigrifwch.”
Sylwadau Lauren ar ei theulu ei hun a roddodd y fantais iddi yn y gystadleuaeth. Gofynnais iddi a oedd ei theulu’n gwybod eu bod yn destun i’w jôcs.
“Maen nhw’n gwybod yn iawn,” meddai Lauren, “ond nid oedd dim yn faleisus ynglŷn â be ddywedais i!”
Meddai Patrick Pritchard, Llywydd Cymdeithas Gomedi Prifysgol Bangor, “Bu Lauren yn gyson yn un o berfformwyr gorau Comedi Bangor trwy’r flwyddyn. Rwyf wrth fy modd ei bod wedi cael y gydnabyddiaeth y mae’n ei haeddu!”
Ychwanegodd hefyd,
“Mae’r Gystadleuaeth i Ddigrifwyr wedi dod yn un o Sioeau mwyaf Comedi Bangor yn sydyn. Mae’n ysbrydoli pobl i fentro rhoi cynnig ar rywbeth newydd, a hefyd yn noson wych allan i’n cynulleidfa! Cafwyd safon wirioneddol uchel trwy gydol y noson oddi wrth ein holl berfformwyr, p’un a oeddent yn berfformwyr cyson o blith aelodau Comedi Bangor neu’n rhoi cynnig ar fod yn ddigrifwyr am y tro cyntaf, a phleser pur i mi oedd gweld yr amrywiaeth a’r dyfnder o ddigrifwch a gafwyd.”
Bydd Lauren yn perfformio wrth ochr digrifwr teledu, Sean Walsh yn Neuadd J.P. Hall, Prifysgol Bangor, Mai 6.
Mae tocynnau ar gael o Siop Pontio Shop ar Stryd Fawr, Bangor neu arlein o:
https://www.wmc.org.uk/Productions/2013-2014/Pontio/SeanWalsh/?lang=cy-GB
Am ragor o wybodaeth am Gomedi Bangor, ewch i:
neu dilynwch @BangorComedy ar Twitter!
Ysgrifennwyd gan Aelodau’r Gymdeithas: Ian Cooper, golygwyd gan Patrick Pritchard.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mai 2013