Law School staff sweep Student Led Teaching Awards nominations
Mae Ysgol y Gyfraith Bangor wedi derbyn 14 enwebiad yn y Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr, sy'n adlewyrchiad o ymrwymiad yr ysgol i ofal bugeiliol.
Mae staff academaidd a staff cefnogi wedi cael eu henwebu mewn saith categori, tra bod yr ysgol wedi ei henwebu hefyd yn Ysgol y Flwyddyn.
Caiff y Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr eu trefnu gan Undeb y Myfyrwyr sydd yn gwahodd y myfyrwyr i roi cydnabyddiaeth ffurfiol i aelodau staff unigol ac i adrannau sydd wedi darparu addysgu a gofal bugeiliol eithriadol.
Dyma'r enwebiadau eleni:
- Ysgol y Flwyddyn
- Goruchwyliwr Thesis y Flwyddyn - Yr Athro Dermot Cahill; Yr Athro Zhen Jing; Dr Mark Hyland
- Athro/Athrawes y Flwyddyn - Yr Athro Dermot Cahill; Dr Mark Hyland
- Athro/Athrawes Ôl-radd y Flwyddyn - Miriam Mbah
- Gofal Bugeiliol Eithriadol - Stephen Clear; Ceri Evans
- Aelod Staff Cefnogi'r Flwyddyn - Helen Albert; Bethan Hamilton Hine
- Gwobr Ryngwladol - Miriam Mbah; Li Tang
- Gwobr Addysg Cyfrwng Cymraeg - Sarah Thomas Morgan
Dywedodd Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Dermot Cahill: "Dyna fraint bod Ysgol y Gyfraith Bangor wedi cael ei henwebu gan ein myfyrwyr mewn cynifer o gategorïau yng Ngwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr 2017. Mae hyn yn cydnabod ymrwymiad diflino staff Ysgol y Gyfraith i gefnogi ein myfyrwyr ar draws sbectrwm cyfan o weithgareddau myfyrwyr.”
“Mae’n enwedig o braf gweld myfyrwyr y gyfraith yn cydnabod darlithio, cefnogaeth lles a goruchwyliaeth ymchwil eithriadol. Rydym yn falch iawn hefyd o gael ein henwebu yn 'Ysgol y Flwyddyn'. Mae cael ein henwebu fel hyn yn destament i'r profiad gwych y mae Ysgol y Gyfraith Bangor yn ei gynnig i fyfyrwyr ar bob lefel o astudio, o'r lefel israddedig i LLM ac i ymchwil PhD ôl-raddedig."
Ychwanegodd: "Rydym hefyd ar ben ein digon wrth weld nifer o aelodau staff unigol sydd wedi cael eu henwebu unwaith eto eleni, gan gynnwys yr Uwch Diwtor, Stephen Clear a'r Swyddog Cefnogi a Derbyniadau Rhyngwladol, Li Tang - dwy enghraifft o gysondeb a rhagoriaeth ein gwasanaethau i fyfyrwyr drwy iddynt gael cydnabyddiaeth gan y myfyrwyr dros sawl blwyddyn o'r bron. Mae'n rhaid i mi ddiolch i fyfyrwyr LLM a PhD am fy enwebu i yng nghategori Goruchwyliwr y Flwyddyn ynghyd â'r Athro Zhen Jing."
Cynhelir y seremoni dydd Gwener 28 Ebrill. Pob lwc i bawb!
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mawrth 2017