Leah yn ennill gwobr
Pan darodd Leah Jones o’r Rhyl ar draws wefan Llyfrgell Farddoniaeth y DU, sylweddolodd ei bod yn cynnig y cyfle perffaith i gyflwyno cerdd yr oedd hi’n arbennig o falch ohoni.
“Roedd teulu a ffrindiau y darllenais fy ngherdd wrthynt o’r farn ei bod yn dda iawn, felly roedd y ffaith imi gael i’r wefan fel pe bai ffawd wedi gwneud tro da arnaf,” meddai Leah, myfyriwr blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Bangor.
Dewiswyd cerdd Leah yn fuddugol yng Nghystadleuaeth Llyfrgell Farddoniaeth y DU ar gyfer Penillion Odledig. Roedd darn Leah yn un o gannoedd a yrrwyd o bob cwr o’r DU a thramor.
Ysbrydolwyd cerdd fuddugol Leah gan y straen yr oedd yn ei deimlo yn ystod ei arholiadau Lefel A, a eisteddodd yn Ysgol Glan Clwyd.
“Dywedais wrth fy athrawes Saesneg am fy nheimladau ac awgrymodd hi y dylwn ysgrifennu barddoniaeth i helpu i ddelio â’r straen,” esboniodd Leah (19).
“Yn ogystal â'r ysbrydoliaeth a gefais gan fy mam a’m tad wrth iddynt fy annog i ysgrifennu, rwyf hefyd yn ddiolchgar i’m hathrawes Saesneg, Melanie Henderson, am hyn.”
Mae Leah yn awr yn ei blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Bangor, yn astudio’r Gyfraith a Throseddeg, a’i bryd ar fod yn fargyfreithiwr. Mae hi’n treulio llawer o’i hamser rhydd yn cymdeithasu a chymryd rhan mewn cystadlaethau ‘Ffug Lys’ Ysgol y Gyfraith ar gyfer Myfyrwyr y Gyfraith ac yng ngweithgareddau’r ‘Gymdeithas Cyfreithwyr Stryd’, sy’n cynnig cyngor a chymorth i’r cyhoedd ar faterion cyfreithiol.
Pan fydd ganddi amser rhydd, bydd Leah yn troi at ei hochr greadigol ac yn ystyried pynciau y gall hi eu trafod yn ei barddoniaeth.
Meddai Leah, “Mae ysgrifennu barddoniaeth wedi dod yn dechneg rhyddhau straen yn ddefnyddiol iawn i mi.”
Yn wreiddiol, roedd Leah yn awyddus i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd ond, wedi iddi ymweld â’r Brifysgol ar Ddiwrnod Agored, a gweld y cyflwyniadau ar y cyrsiau a gweithgareddau’r Wythnos Croeso, roedd hi’n gyffro i gyd a trodd at ei mam a dweud mai Bangor oedd ei dewis cyntaf o Brifysgol.
“Erbyn hyn, ni allaf ddychmygu astudio yn unlle arall ac rwyf wrth fy modd ym Mangor,” meddai.
Enillodd Leah ddeg copi o’r llyfr oedd yn cynnwys ei cherdd ‘She’s Here’. Gellwch ddarllen cerdd fuddugol Leah yma.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ebrill 2014