Lleihau Llygredd Plastig
Wrth i’r gyfres ddogfen am fywyd natur Our Planet, sy’n cael ei lleisio gan David Attenborough, ei darlledu ar Netflix yr wythnos hon, mae’r fyfyrwraig Bioleg Môr o Brifysgol Bangor, Thea Moule yn rhannu ei phrofiadau am lygredd plastig.
Yn siarad mewn araith Cyflwr Ein Planed yn Llundain mewn digwyddiad y WWF y llynedd, dywedodd Sir David sydd â gradd er Anrhydedd o Brifysgol Bangor:
“Heddiw, ni yw’r bygythiad mwyaf i iechyd ein cartref, ond mae dal amser i ni fynd ati i ddatrys y problemau yr ydym wedi eu creu, os ydym yn cychwyn ar unwaith. Mae’n rhaid i ni gael y byd i gymryd sylw.”
Mae Thea Moule sydd yn fyfyrwraig israddedig yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion ym Mangor yn egluro’r niwed plastig y mae hi wedi ei brofi allan ar y môr. Dywedodd:
“Pan welais y llygredd yn uniongyrchol fel hyn, teimlais gymysgedd o emosiwn. Roeddwn yn drist dros y bywyd môr sydd yn gorfod byw gyda’r sgil effeithiau. Roeddwn wedi fy llethu gan faint o blastig oedd yn y dŵr a doeddwn i methu gwneud dim byd arwyddocaol yn y fan a’r lle. Roeddwn yn flin bod cymdeithas wedi gadael i bethau fynd mor ddrwg.”
Wrth ddeifio yn Indonesia, roedd Thea wedi dychryn efo’r effaith y mae ein gwastraff ni yn ei gael ar yr amgylchedd a’r bywyd môr. Ychwanegodd,
“Yn anffodus, mi welais faint o blastig oedd yn y môr – roedd o fel cawl o blastig. Roeddwn i eisiau treulio gymaint o amser a phosib yn y dŵr i snorclelio ac ar un achlysur fe welais Gathod Môr Eryr am y tro cyntaf a Morgathod Neidiol ac fe roedd yr holl brofiad yn anhygoel.
“Ond tra roedd hyn yn mynd ymlaen roeddwn i’n gorfod osgoi darnau o blastig yn y dŵr ac yn cael fy nghlymu mewn bagiau plastig wrth nofio, felly fe wnes fy ngorau i godi bob tamaid o blastig oni’n gallu ond mi oedd yna gymaint ohono fo.”
Mae Thea yn benderfynol o wneud gwahaniaeth ac yn hyderus y bydd ei gradd o Brifysgol Bangor yn ei helpu hi i wneud hynny yn y dyfodol. Yn y cyfamser, mae hi’n brysur yn trio gwneud gwahaniaeth drwy leihau ei defnydd o blastig gyda chymorth Plastig Free Bangor ac yn cymryd rhan mewn glanhau traethau yn lleol.
Bydd y gyfres Our Planetyn cael ei ddarlledu am y tro cyntaf ar Netflix ar Ddydd Gwener, Ebrill y 5ed.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Ebrill 2019