Lleisiau merched y Mabinogi: ymateb creadigol un o Gymry America
Mae chwedlau canoloesol y Mabinogi yn parhau i ennyn chwilfrydedd efrydwyr llenyddiaeth yng Nghymru a thrwy’r byd i gyd. Mae’r corff eang o ysgolheictod sy’n gysylltiedig â’r chwedlau yn parhau i dyfu a deil eu gallu i danio ymatebion creadigol ymhlith beirdd ac ysgrifenwyr i fod mor gryf ag erioed.
Yn ei chyfrol ddiweddar o gerddi, Travelling on My Own Errands: Voices of Women from the Mabinogi (Carreg Gwalch, 2017), mae’r bardd Cymreig-Americanaidd Margaret Lloyd wedi cynhyrchu un o’r ymatebion creadigol mwyaf ysgubol ac eang i gymeriadau benywaidd y Mabinogi. Yn dra phriodol, disgrifiwyd y gyfrol fel a ganlyn gan y beirniad a’r ysgolhaig Marged Haycock:
“Y mae’r casgliad hwn o safon uchel. Mae Margaret Lloyd yn feistr ar ei chyfrwng, yn gynnil ac yn gall wrth ein tywys drwy guddfeddyliau ac emosiynau’r gwahanol gymeriadau. Ni ellid gwell man cychwyn na’r Pedair Cainc ar gyfer project fel hwn, na gwell hebryngydd ar y daith.”
Gan ganolbwyntio ar ddeunydd cyfareddol y gyfrol hon, bydd Margaret Lloyd yn darllen ei cherddi ym Mhrifysgol Bangor ar ddydd Mercher 5 Gorffennaf am 6.00 p.m. Cynhelir y digwyddiad yn Ystafell Seminar y Gymraeg.
Cafodd Margaret Lloyd, sy’n Athro Emeritus yng Ngholeg Springfield, Massachusetts, ei geni yng Nghymru a’i magu yn Utica. Travelling on My Own Errands: Voices of Women from the Mabinogi (Carreg Gwalch, 2017) yw ei phedwaredd gyfrol o gerddi.
Bydd y darlleniad yn Saesneg
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mehefin 2017