Llenydda ym Mhabell Bangor yn yr Eisteddfod
Ddydd Llun am 12.00 ym Mhabell Prifysgol Bangor ar faes yr Eisteddfod bydd cyfarfod lansio dwy gyfrol: cyfrol o farddoniaeth Rhwng Gwibdaith a Coldplay gan yr Athro Gerwyn Wiliams ac Ysgrifau Beirniadol XXX a olygwyd ganddo.
Rhwng Gwibdaith a Coldplay (Gwasg y Bwthyn) yw cyfrol ddiweddaraf Gerwyn Wiliams o gerddi. Mae’n cynnwys cyfres o argraffiadau o Barc Menai a Bae Caerdydd, yn gardiau post o Ground Zero a Grafton Street, yn gipluniau o Belsen a Pont Aven a chaneuon Leonard Cohen, Gwibdaith Hen Frân a Coldplay yn gyfeiliant yn y cefndir.
Bydd yr Athro a’r Prif Lenor, Jerry Hunter, yn holi Gerwyn Wiliams am ei gyfrol ddiweddaraf yn y cyfarfod. Enillodd yr Athro Gerwyn Wiliams Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1994 ac mae’n Athro yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor.
Ysgrifau Beirniadol XXX (Gwasg Gee), a olygwyd gan yr Athro Gerwyn Wiliams, yw’r ddiweddaraf yn y gyfres a lansiwyd gyntaf gan y diweddar Athro J.E. Caerwyn Williams yn 1965. Mae’r gyfrol yn cynnwys cyfweliad rhwng Alex Salmond ACA a Phrif Weinidog Yr Alban, a Dr Jason Walford Davies am ddylanwad y bardd Cymreig, R. S. Thomas ar Brif Weinidog Yr Alban; cyfweliad rhwng Guto Dafydd a’r nofelydd a’r dramodydd Wiliam Owen Roberts, ysgrifau gan Dr Simon Brooks, Dr Robin Chapman, yr Athro Peredur Lynch a Dr Pwyll ap Siôn a llyfryddiaeth y gyfres gyfan gan Hedd ap Emlyn.
Wedi’r lansiad am 1.00 cynhelir Darlith Flynyddol Canolfan Treftadaeth Kate Roberts.
Yn traddodi’r ddarlith eleni mae Mair Lloyd Davies, a fydd yn trafod 'Cae'r Gors cyn Kate'.
Mae'r ddarlith yn adrodd hanes Ann Jones, Cae'r Gors a throeon yr yrfa yn ei bywyd hi a'i theulu rhwng 1836 a 1895 pan ymfudodd rhieni Kate yno a dod yn denantiaid i ddisgynyddion Ann Jones. Mae Mair Lloyd Davies ei hun yn ddisgynnydd teulu Ann Jones.
"Ond ar yr ail o Orffennaf 1836 fyddai Ann Jones ddim wedi malio'r un botwm corn am y golygfeydd gogoneddus na dim byd arall gan fod y bleinds wedi eu tynnu i'r gwaelod yn ei hanes," meddai Mair Lloyd Davies.
A Oes Llais?
A oes llais gan y gymuned hoyw a lesbiaidd llenyddol yn y Gymraeg? Os yw’n bodoli eisoes, a ddylid ei glywed yn uwch?
Mae Prifysgol Bangor a Thŷ Newydd, Y Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol, yn ymchwilio i’r pwnc mewn trafodaeth i’w chadeirio gan Menna Machreth (11.00 Mawrth, 2 Awst). Bydd dau o fyfyrwyr ôl-radd y Brifysgol yn cymryd rhan yn y digwyddiad.
Mae Sian Cleaver yn astudio gradd Meistr mewn cyfieithu yn Ysgol Ieithoedd Modern y Brifysgol. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar gyfieithu ‘Tipping the Velvet’, llyfr gan y nofelydd o Sir Benfro, Sarah Waters, a bydd yn trafod y sialensiau’n ei hwynebu wrth ganfod a defnyddio’r geiriau Cymraeg efo’r arwyddocâd rhywiol - yn arbennig y geiriau slang a ddyfynnir yng nghyd-destun y llyfr. Mae Lloyd Harris newydd raddio o Ysgol y Gymraeg ym Mangor a bydd yn amlinellu’r deunydd sydd eisoes ar gael am y gymuned hoyw yng Nghymru, ac ar eu cyfer.
Meddai Bethan Jones Parry, Cyfarwyddwraig y Rhaglen Gymraeg yn Nhŷ Newydd:
Rydym yn bwriadu trefnu cwrs, neu hyd yn oed gyrsiau, ar gyfer y gymuned hoyw a lesbiaidd yn Nhŷ Newydd yn y dyfodol agos a bydd y sesiwn hon yn werthfawr, ac yn ein cynorthwyo i sicrhau ein bod ar y trywydd iawn.”
Ymryson Beirdd Bangor ac Aberystwyth
Pabell Bangor fydd y lle am hanner awr hwyliog ddydd Gwener am 12.30 wrth i feirdd a chynganeddwyr Prifysgol Bangor fynd i’r afael â beirdd Prifysgol Aberystwyth mewn Ymryson y Beirdd.
Yn gwarchod enw da beirdd Bangor o dan arweinyddiaeth yr Athro Peredur Lynch fydd Dr Llion Jones, Nia Watcyn Powell a Guto Dafydd, sydd newydd raddio o Fangor. Yn cystadlu dros Brifysgol Aberystwyth fydd Hywel Griffiths (darlithydd), Iwan Rhys (cyn-fyfyriwr) a Gruffudd Antur (myfyriwr sy newydd orffen ei flwyddyn gyntaf) a'r capten; Dr Huw Meirion Edwards o'r Adran Gymraeg.
Bwriedir i hyn fod yn ddigwyddiad blynyddol gydag Aberystwyth yn cynnal y digwyddiad y flwyddyn nesaf.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Gorffennaf 2011