Llew a’r Crydd, sioe Nadolig i blant
Pontio a Theatr Clwyd yn cyflwyno sioe Nadolig i blant, Llew a’r Crydd, fel eu cyd-gynhyrchiad cyntaf
Mae Emyr John wedi ysgrifennu a chyfarwyddo sioe newydd yn yr iaith Gymraeg i’w pherfformio ym Mangor a’r Wyddgrug.
Be sy’n digwydd i storïau unwaith maent wedi eu hadrodd? Lle maen nhw’n byw? Lle maen nhw’n mynd?
Ymunwch â ni y flwyddyn hon i gael yr atebion wrth i Pontio a Theatr Clwyd gyflwyno eu sioe Nadolig newydd sbon, Llew a’r Crydd.
Mae dau frawd yn teithio’r byd yn casglu storïau er mwyn osgoi mynd ar goll. Un Noswyl Nadolig, a hwythau methu cysgu gan wybod bod Sion Corn ar ei ffordd, maent yn dweud stori, stori am Llew, hen grydd blin, corach hud, a thywysoges sy’n ysu i gael dawnsio. Ymunwch â ni ar antur hudolus, wedi ei hadrodd drwy gerddoriaeth, dweud stori a phyped digon od yr olwg.
Llew a’r Crydd yw cyd-gynhyrchiad cyntaf theatrau blaenllaw Gogledd Cymru. Bydd yn agor yn Pontio, Bangor ar ddydd Mawrth 18 Rhagfyr tan Sadwrn 22 Rhagfyr cyn symud i Theatr Clwyd, 2-6 Ionawr.
Dywedodd Tamara Harvey, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Clwyd: “Dyma ein cyd-gynhyrchiad cyntaf gyda Pontio, sy’n garreg filltir i’r ddwy theatr ac mae hyd yn oed yn fwy arbennig gan y byddwn yn cydweithio dros gyfnod y Nadolig. Rydym yn angerddol dros greu theatr deiniadol, llawn dychymyg yn yr iaith Gymraeg ac yn methu aros i ryfeddu plant a’u teuluoedd ar draws Gogledd Cymru a thu hwnt.”
Dywedodd Elen ap Robert, Cyfarwyddwr Artistig Pontio: “Mae ein partneriaeth newydd a chyfforus gyda Theatr Clwyd yn un yr ydym yn eich chroesawu yn gynnes. Rydym yn teimlo’n angerddol dros bwysigrwydd cynnig profiadau theatrig o safon uchel yn yr iaith Gymraeg i blant a’u teuluoedd – ac yn edrych ar adeiladu ar lwyddiant cyd-gynhyrchiad gyda Cwmni Murmur y llynedd sef Caban Hud. Yn agos atoch a hudolus, mae sioe Nadolig Llew a’r Crydd wedi rhoi cyfle i dîm creadigol Pontio weithio yn agos gydag ein cydweithwyr profiadol yn Theatr Clwyd, ac rydym wedi mwynhau'r daith hon gyda’n gilydd yn fawr.”
Mae Emyr John, Cyswllt Ymgysylltu Creadigol Theatr Clwyd yn ysgrifennwr, actor a chyfarwyddwr sydd wedi bod yn gweithio yng Nghymru dros y 25 mlynedd diwethaf.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2018