Llofruddiaeth Dydd Nadolig Caergybi - 1909
Mae ymchwil newydd yn datgelu hanes bywyd dynes a ddioddefodd drais domestig enbyd a aeth yn angof.
Ddydd San Steffan 1909 deffrodd trigolion Caergybi i newyddion dychrynllyd. Y noson flaenorol cafodd dynes 35 oed, Gwen Ellen Jones, ei llofruddio’n giaidd. Mewn un adroddiad papur newydd cignoeth dywedwyd bod ei phen bron iawn wedi'i hollti o'i chorff. Ildiodd ei llofrudd, William Murphy, 49 oed, ei hun i'r awdurdodau a chafodd ei draddodi i sefyll ei brawf ym Mrawdlys Biwmares ar 26 Ionawr 1910.
Mae enw William Murphy wedi ennill drwg-enwogrwydd am mai ef oedd y dyn olaf i gael ei grogi yng Ngharchar Caernarfon. Ond beth am y ddynes a laddodd? Mae ymchwil newydd a wnaed gan Ganolfan Stephen Colclough ar Hanes a Diwylliant y Llyfr, Prifysgol Bangor yn canolbwyntio ar dystiolaeth ysgrifenedig sy'n datgelu bywyd dioddefwr y drosedd dreisgar hon.
Disgrifiwyd Gwen Ellen Jones mewn amryw o ffyrdd mewn papurau newydd - fel cariad Murphy, putain, cardotyn a phedler. Mae Hazel Robbins, Aelod Cyswllt o'r Ganolfan, wedi bod yn ymchwilio i'r gwirionedd am fywyd y fenyw hon.
Dywed Hazel, "110 o flynyddoedd ar ôl ei marwolaeth, mae yn awr yn bryd i Gwen Ellen Jones gael ei chofio fel person yn rhinwedd ei hun yn hytrach na dim ond fel troednodyn yn stori William Murphy."
Yn dilyn ymchwil Hazel, mae cod QR HistoryPoints yn cael ei osod ger Cae Star, yr ardal ym Methesda lle'r oedd Gwen yn byw gyda'i thad a'i phlant ychydig cyn ei marwolaeth, i goffau ei bywyd. Mae project HistoryPoints yn cyflwyno hanes Cymru i ffonau symudol yn y fan a'r lle trwy gyfrwng ap y gellir ei lawrlwytho am ddim.
Ganed Gwen ym Mlaenau Ffestiniog ym 1874, yn ferch i chwarelwr. Yn dilyn marwolaeth ei mam, symudodd y teulu i Lanfairfechan, lle priododd Gwen yn 1898 â Morris Jones, labrwr yn y chwarel gerrig. Symudodd ei thad (a oedd yn wael ei iechyd) a'i chwaer iau atynt i fyw. Hefyd fe fabwysiadodd Gwladys Jones, merch ddyflwydd a aned yn wyrcws Llanrwst ac a adawyd yn amddifad gan ei mam. Roedd Gwen yn amlwg yn ganolog i deulu a ddibynnai arni.
I gael dau ben llinyn ynghyd cymerai Gwen olch i'r cartref, a thrwy hynny cyfarfu â William Murphy. Roedd Murphy, dyn cydnerth a grymus, wedi bod yn y fyddin ac wedi gwasanaethu yn India a De Affrica, ac yn fwy diweddar yn y milisia lleol. Gyda'i gefndir milwrol a'i wasanaeth tramor, efallai iddo ymddangos yn ddyn anturus i Gwen a dechreuodd y ddau berthynas. Ganed mab i Gwen yn 1903, a mwy na thebyg mai Murphy oedd y tad, ac fe’i henwodd yn William John ar ôl ei chariad a’i thad.
Esbonia Hazel: "Roedd cymdeithas yn gondemniol o ymddygiad o’r fath bryd hynny a phan adawodd ei gŵr i fyw gyda Murphy roedd ei chwymp yn gyflawn."
Golygai hyn fod Gwen yn ddibynnol ar Murphy, dyn eiddigeddus a oedd wedi dechrau ei thrin yn dreisgar. Gwnaethant gymryd ystafell mewn 'tŷ llety cyffredin' yng Nghaergybi. Gan nad oedd Murphy bellach yn y fyddin yn llawn amser, byddai'n cymryd gwaith fel labrwr lle bynnag y gallai a gorfodwyd y cwpl yn aml i gardota. Yn 1909, tra’r oedd yn gweithio oddi cartref, ceisiodd Gwen ei adael ac aeth i fyw gyda dyn o’r enw Robert Jones yng Nghaergybi. Efallai iddi droi at buteindra i gynyddu ei hincwm pitw a'i gwneud yn annibynnol ar Murphy.
Pan ddychwelodd Murphy i Gaergybi ym mis Rhagfyr a darganfod bod Gwen yn byw gyda Robert Jones, cafodd eiddigedd y gorau ohono. Dangosodd gyllell a darn o gordyn iddi a rhybuddiodd 'y byddai'n cael y naill neu'r llall' ganddo pe na bai'n dychwelyd i Dde Cymru gydag ef.
Ar noson dyngedfennol 25 Rhagfyr, y tu allan i Dafarn y Bardsey Island, llwyddodd i ddwyn perswâd ar Gwen i fynd am dro gydag ef. Dyma'r tro olaf i Gwen gael ei gweld yn fyw.
Claddwyd Gwen mewn bedd tlotyn heb arwydd yng Nghaergybi ar 29 Rhagfyr. Cymerwyd ei mab a'i merch fabwysiedig i ofal a'u hanfon at wahanol deuluoedd ac nid ydym yn gwybod a welsant ei gilydd byth eto. Gyda marwolaeth Gwen ym 1909, daeth yr uned deuluol fregus, fechan hon, a oedd wedi goroesi tan hynny, i ben.
Ym marn Hazel: "Roedd Gwen Ellen Jones yn berson yn rhinwedd ei hun, gwnaeth gamgymeriadau, ond dangosodd wytnwch a charedigrwydd hefyd. Roedd hi'n bwysig i'w theulu fel mam, merch a chwaer a dyna sut y dylid ei chofio ac nid dim ond fel menyw o 'ddosbarth y pedleriaid' a lofruddiwyd gan William Murphy ar 25 Rhagfyr 1909."
Mae mwy o fanylion am fywyd a marwolaeth Gwen i'w gweld yma: http://colclough.bangor.ac.uk/newyddion/llofruddiaeth-dydd-nadolig-1909-cofio-gwen-ellen-jones-42600
Dyddiad cyhoeddi: 16 Rhagfyr 2019