Llongyfarchiadau i Dîm University Challenge Prifysgol Bangor
Llongyfarchiadau i dîm Prifysgol Bangor ar guro Prifysgol Aberystwyth yn rownd gyntaf o’r gyfres newydd o University Challenge: y cwis teledu mwyaf anodd, yn y rhaglen a ddarlledwyd neithiwr (BBC 2 Llun 14 Hydref).
Perfformiodd y Tîm yn dda gan ddangos eu gwybodaeth ar draws y celfyddydau, gwyddorau, chwaraeon a gwybodaeth cyffredinol gan ennill y cwestiynau ychwanegol drwy fod yn sydyn iawn i ymateb yn y cwis yn erbyn yr ‘hen elyn’.
Mae’r tîm yn dilyn tîm llwyddiannus y llynedd, a gyrhaeddodd rownd gynderfynol University Challenge. Mae tîm y llynedd, wedi trosglwyddo’i masgot, Rhodri’r Ddraig, i dîm y flwyddyn hon, a bydd yn ymddangos gyda’r Tîm newydd
Tîm eleni yw: Catriona Coutts (capten), Owain Wyn Jones, Daisy Le Helloco ac Anna Johnson, gyda Tom White fel aelod wrth gefn.
Meddai Antony Butcher, Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor: “Roedd yn wych gweld Bangor yn curo Aber, ein partneriaid ‘varsity’ ar deledu cenedlaethol. Gwyliais y tîm ac rwy’n falch o ba mor dda oedd eu perfformiad.”
Nid Rhodri yw’r unig aelod â phrofiad o University Challenge, gan mai Capten y Tîm, Catriona Coutts, o’r Gaerwen, Ynys Môn, oedd yr aelod wrth gefn y llynedd. Mae hi’n 24 oed, yn astudio Llenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol ac yn gyn-ddisgybl o Ysgol David Hughes, Porthaethwy.
Meddai Catriona, “Roedd cymryd rhan yn brofiad gwych; yn gynhyrfus, yn frawychus a hefyd yn swrreal, fel ei gilydd! Roedd hefyd yn ddiddorol gweld sut roedd pethau’n gweithio yn y stiwdio. Roedd pawb oedd yn gweithio ar y rhaglen yn ffeind iawn ac yn ymdrechu i’r eithaf i wneud i ni deimlo’n gartrefol.”
Dyma aelodau eraill y tîm: Owain Wyn Jones, sy’n 26 oed ac yn astudio ar gyfer Doethuriaeth yn Hanes Cymru’r Canol Oesoedd. Mae’n gyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Gŵyr ac yn dod o Abertawe. Nid oedd wedi cynhyrfu am y profiad o gymryd rhan yn y rhaglen; meddai, “Yn bersonol, mwynheais y cinio am ddim.”
Mae Daisy Le Helloco yn 25 a hefyd yn astudio ar gyfer PhD, ei phwnc hi yw Llenyddiaeth Saesneg. Mae Daisy yn gyn-ddisgybl o Ysgol Thomas Hardye, Dorchester ac yn dod o’r dref.
Mae Anna Johnson, 22, yn astudio ar gyfer gradd gyntaf a fydd yn arwain at Radd meistr mewn Bioleg Môr. Mae hi’n dod o Chippenham ac yn gyn-ddisgybl o Ysgol Abbeyfield.
Meddai Anna am y profiad, “Treuliais yr holl amser yn syllu ar y geirosgop mawr sy’n rhan o’r set.”
Tom White yw’r aelod wrth gefn; mae’n 21 ac yn astudio ar gyfer gradd Meistr trwy ymchwil mewn Ecoleg. Mae’n gyn-ddisgybl o Academi Wayland ac yn gyn-fyfyriwr o Goleg Chweched Dosbarth Swaffham. Mae’n dod o East Wretham. Meddai, “Rwy’n aelod hanfodol o’r Tîm!”
Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2013