Llongyfarchiadau i dros 300 o fyfyrwyr Prifysgol Bangor sy'n graddio yn Tashkent
Hoffem longyfarch dros 300 o fyfyrwyr Prifysgol Bangor sydd wedi graddio yn Tashkent yr wythnos ddiwethaf. Mae'r myfyrwyr wedi gweithio ar gyfer eu graddau Prifysgol Bangor yn y Management Development Institute of Singapore (MDIS) Tashkent yn Uzbekistan. Mae gan Brifysgol Bangor berthynas ers bron i 15 mlynedd yn gweithio gyda MDIS ac mae wedi cynnig graddau Prifysgol Bangor yn Uzbekistan ers dros ddegawd. Daw rhaglenni Prifysgol Bangor a gyflwynir yn Tashkent o Ysgol Busnes Bangor ac yn fwy diweddar o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig. Mae'r rhaglenni hyn yn boblogaidd ac yn cael eu hastudio gan fyfyrwyr o bob rhan o Uzbekistan yn y bartneriaeth hynod lwyddiannus hon sy'n ehangu'n gyflym.
Yn ei araith a oedd yn ysbrydoli ac a gafodd derbyniad da, disgrifiodd yr Athro Turnbull y cysylltiadau gwyddonol a llenyddol maith sydd wedi bodoli rhwng y DU ac Uzbekistan, gan ddathlu pwysigrwydd rhyngwladoliaeth mewn addysg a thu hwnt.
Llun: Yr Athro Oliver Turnbull - Dirprwy Is-ganghellor, Prifysgol Bangor gydag un o'n myfyrwyr sy'n graddio a rhywun fydd yn graddio yn y dyfodol gobeithio.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2019