Llwybr rhan-amser at gymhwyster ôl-radd
Yn yr amseroedd anodd hyn, mae astudio am gymhwyster ôl-radd yn rhan amser, gan ddal ati i weithio, yn ddewis ym Mhrifysgol Bangor.
Mae John Jones, sy’n gweithio i Aqua Cure, cwmni bach ym Mangor, ymysg nifer gynyddol o bobl sy’n dewis cyplysu astudio pellach gyda’u gwaith bob dydd.
Mae John yn astudio’n rhan-amser am Ddoethuriaeth yn Ysgol Cemeg Prifysgol Bangor. Yn wreiddiol o Ddeganwy, enillodd John radd MSc mewn Cemeg Amgylcheddol ym Mangor. Tra oedd yn astudio ar gyfer ei broject MSc daeth i ymddiddori mewn glanhau dŵr gwastraff, ac mae rhywbeth a ddechreuodd fel gwaith project bellach wedi dod yn sail i yrfa ddiddorol a llewyrchus mewn gwyddoniaeth.
Mae John yn astudio am ei PhD dan gyfarwyddyd Dr Chris Gwennin yn yr Ysgol Cemeg.
Roedd project MSc John yn canolbwyntio ar dynnu haearn o ddŵr gwastraff. Arweiniodd ei ddiddordeb yn y maes yma at swydd gydag Aqua Cure, sydd yn ddiweddar wedi ymuno mewn partneriaeth â Modern Water, gan ddatblygu technolegau trin dŵr. Modern Water sy’n cyllido gwaith Doethuriaeth John. Ar gyfer ei ddoethuriaeth, mae John yn gwneud ymchwil i electro-geulo, gan ddod i ddeall y dulliau gorau o dynnu halogyddion o ddŵr gwastraff gan ddefnyddio gwyddor electrogemegol.
“Yn fy ngwaith bob dydd gallaf fod yn y labordy yn cynnal profion neu allan yn y maes yn edrych ar safleoedd sydd wedi’u llygru a mynd â samplau yn ôl i’r labordy i’w profi. Gelwir hyn yn dechnoleg ‘werdd’ gan fy mod i’n gweithio ar sut i ddadlygru dŵr heb orfod ychwanegu unrhyw gemegau eraill ato.
“Mae gwastraff cynnyrch llaeth, er enghraifft, yn cynnwys ffosffadau a gall y rhain achosi blŵm algaidd a all ladd systemau afon cyfan, petaent yn cael eu rhyddhau i’r amgylchedd naturiol. Mae diwydiannau cloddio a diwydiannau cynhyrchu ceir yn creu dŵr gwastraff sydd wedi’i lygru efo metelau trwm. Bydd electro-geulo yn gallu bod o ddefnydd i’r diwydiannau hyn gan olygu bod eu dŵr gwastraff a llygredd yn cael eu lleihau drwy ddefnyddio technolegau glanach.”
Mae John yn teithio’r byd gyda’i waith ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ar brojectau yn Barcelona a Paris. Meddai ymhellach:
“Fe ddois yn ôl i Fangor gan fy mod yn caru’r ardal ac yn teimlo mor lwcus i gael byw a gweithio’n lleol, ond mae teithio ar hyd a lled Ewrop yn sialens gyffrous ac rwy’n gobeithio helpu gwledydd eraill ledled y byd efo’u dulliau trin dŵr gwastraff yn y dyfodol. Mae’n wych cael gweithio ar dechnolegau newydd a fydd o gymorth i sicrhau adnodd mor werthfawr.”
Cynhelir Ffair Cyrsiau Ôl-radd nesaf Prifysgol Bangor ddydd Gwener, 18 Chwefror 2011 rhwng 12.30 a 2.30. Mae croeso cynnes i unrhyw un sydd â diddordeb mewn astudio’n ôl-radd ym Mangor i ddod a manteisio ar y cyfle i gael gwybod mwy am y nifer fawr o wahanol raglenni ôl-radd sydd ar gael ar hyn o bryd. Gellwch gofrestru ymlaen llaw ar-lein ar gyfer yr achlysur drwy wefan y Brifysgol yn: http://www.bangor.ac.uk/pgfair/contactus.php.cy
Dyddiad cyhoeddi: 16 Chwefror 2011