Llwyddiannau Aelwyd JMJ yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd 2019
Y diwrnod gorau erioed yn hanes yr aelwyd.
Mae Aelwyd Urdd JMJ, sef aelwyd neuadd Gymraeg Prifysgol Bangor, wedi cael Eisteddfod yr Urdd nodedig eto eleni, gyda gwobrau yn y prif gystadlaethau corawl yn cael eu cipio gan yr aelwyd a’i haelodau.
Mae Dydd Sadwrn yr Eisteddfod yn adnabyddus am gystadlu brwd ac uchel-ei-safon rhwng aelwydydd yr Urdd ac roedd presenoldeb Aelwyd JMJ yn amlwg, gan iddynt lwyddo i ennill medal mewn chwe chystadleuaeth lleisiol ar gyfer grŵp, parti neu gôr. Profwyd y llwyddiant cyntaf yn y gystadleuaeth Ensemble Lleisiol 14-25 oed - Steffan Dafydd, Ioan Rees, Branwen Roberts, Elain Rhys ac Elin Roberts, gyda threfniant gwreiddiol gan Ioan Rees, myfyriwr Cerdd yn yr ail flwyddyn, o ‘Mardi Gras ym Mangor Ucha’.
Cipwyd y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth Parti Cerdd Dant 14-25 oed, gyda gosodiad gan un o aelodau’r parti, Elain Rhys, myfyrwraig Cerddoriaeth ar ei hail flwyddyn.
Daeth y Parti Merched yn gyntaf dan arweiniad Alistair Mahoney, sydd newydd gwblhau gradd mewn Cerddoriaeth, a chyfeiliant gan Elain Rhys.
Daeth y Parti Bechgyn yn gyntaf o dan arweiniad Nerys Wyn Williams gydag Elain Rhys yn cyfeilio unwaith eto. Cyrhaeddwyd y brig gyda pherfformiad angerddol o’r gân wladgarol ‘Can y Celt’ gan Alaw Meinir Lloyd gyda geiriau Peter Hughes Griffiths a threfniant gan Annette Bryn Parry.
Cipwyd y safle cyntaf ymhob un o gystadlaethau’r corau. Arweinydd y Côr hyd at 40 llais eleni oedd Steffan Dafydd gyda Catrin Llewelyn yn cyfeilio a chafwyd perfformiad teimladwy er cof am Sioned James, cyn-arweinyddes Côrdydd.
Steffan Dafydd arweiniodd y Côr dros 40 llais i fuddugoliaeth.
Dyma flwyddyn gyntaf Steffan fel arweinydd. Meddai’r myfyriwr sydd yn ail flwyddyn ei gwrs gradd Cymraeg a Cherdd:
“Roedd ennill y gamp lawn yng Nghaerdydd ar lwyfan byd-enwog yn coroni blwyddyn anhygoel i'r Aelwyd. Hoffwn ddiolch i bawb yn ddiffuant am eu hymroddiad a'u gwaith caled, yn enwedig i'n cyfeilyddion, cyd-arweinwyr ac aelodau'r pwyllgor. Edrychwn ymlaen yn eiddgar at gystadlu yn Sir Ddinbych y flwyddyn nesaf.”
Yn ogystal â llwyddiannau ym maes y corau a’r partïon canu, cyrhaeddodd un o raddedigion diweddar y Brifysgol y brig yng nghystadleuaeth Medal y Dysgwyr. Graddiodd Elena Sciarrillo, a gafodd ei magu ar aelwyd Eidaleg-ei-hiaith yn yr Wyddgrug, gyda MA mewn Llenyddiaeth Saesneg y llynedd. Dyfarnwyd Jack Wilson yn ail am y Fedal – mae Jack yn wreiddiol o Warrington ac yn astudio Cemeg yn y Brifysgol.
Rhaid hefyd llongyfarch Osian Owen ar ddod yn drydydd yng nghystadlaeaeth y Gadair, ac i Caryl Bryn, am gyrraedd y trydydd safle yng nghystadleuaeth y Goron. Mae’r ddau yn astudio MA mewn Cymraeg ag Ysgrifennu Creadigol.
Bu myfyrwyr y Brifysgol a’r Aelwyd hefyd yn weithgar gyda chystadlaethau eraill, gan gynnwys y cystadlaethau gwaith cartref:
- Barddoniaeth dan 25 oed - 1af Ceinwen Jones
- Addasu Sgript dan 25 oed - 2il Buddug Watcyn Roberts
- Rhyddiaith dan 25 oed - 3ydd Ceinwen Jones
Cafodd Cai Fôn Davies, myfyriwr yn ei flwyddyn gyntaf yn Ysgol y Gymraeg, sawl llwyddiant yn yr Eisteddfod eleni. Daeth yn drydydd gyda’r Ddeuawd Cerdd Dant 19-25 oed gyda Bethan Elin Wyn Owen sy’n astudio gradd Addysg Gynradd ac yn gyntaf yn y Llefaru Unigol 19-25 oed. Llongyfarchiadau mawr hefyd i Cai ar gyrraedd rhestr fer cystadleuaeth Ysgoloriaeth Bryn Terfel.
Wrth ymateb i’r llwyddiant diweddaraf yma i Aelwyd JMJ, meddai Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor, Gethin Morgan:
“Mae Aelwyd JMJ yn parhau i sicrhau llwyddiannau cenedlaethol ac roedd angerdd yr holl fyfyrwyr yn dyst i’r hyn y mae’r Aelwyd, UMCB a Phrifysgol Bangor yn ei olygu i’r myfyrwyr. Mae hi wedi bod yn flwyddyn arbennig iawn i’r aelwyd a hoffwn ddiolch yn bersonol i’r criw sydd wedi bod wrth y llyw eleni.”
Dywedodd Yr Athro Jerry Hunter, Dirprwy Is-ganghellor (Cyfrwng Cymraeg a Chysylltiad â’r Gymuned):
“Rydym ym Mhrifysgol Bangor yn hynod falch o Aelwyd JMJ. Mae eu llwyddiant mewn cystadleuaeth ar ôl cystadleuaeth yn dyst i ddawn ac ymroddiad y grŵp arbennig hwn o fyfyrwyr. Mae cymaint o wahanol agweddau ar fywyd cyfoethog cymuned Gymraeg Bangor, a'r hyn sy'n wych am Aelwyd JMJ yw'r ffaith eu bod nhw'n gallu dangos yr egni diwylliannol hwnnw i weddill y byd.”
Daw’r llwyddiannau hyn wedi i Aelwyd JMJ ennill gwobr genedlaethol yng ngwobrau’r National Societies Awards 2019, lle dyfarnwyd tlws y ‘Best Arts Society’ iddynt mewn seremoni wobrwyo a drefnwyd gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS).
Dyma ddoleni i’r cystadlaethau ar YouTube Eisteddfod yr Urdd:
Côr Aelwyd JMJ - Côr S.A.T.B. 14-25 oed (dros 40)
Côr Aelwyd JMJ - Côr S.A.T.B 14-25 oed (dim mwy na 40)
Côr Bechgyn Aelwyd JMJ - Côr Meibion Tri Llais 14-25 oed
Côr Merched Aelwyd JMJ - Côr Merched S.S.A. 14-25 oed
Parti Cerdd Dant Aelwyd JMJ - Parti Cerdd Dant (Aelwyd) 14 - 25 oed
Bethan a Cai – Aelwyd JMJ - Deuawd Cerdd Dant 19-25 oed
Cai Fôn Davies – Aelwyd JMJ - Llefaru Unigol 19 - 25 oed
Straeon perthnasol:
Eidales o’r Wyddgrug yn cipio Medal y Dysgwyr
Llwyddiant a chynabyddiaeth i Aelwyd JMJ
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mehefin 2019