Llwyddiannau ein llenorion yn Eisteddfod Sir Conwy
Bu’n wythnos i’w chofio i Brifysgol Bangor ar faes yr Eisteddfod eleni gyda rhai o brif wobrau llenyddol yr ŵyl yn cael eu cipio gan uniogolion sydd â chyswllt agos â’r sefydliad. Yn eu plith, Dr Gareth Evans Jones, sy’n gyn-fyfyriwr is-raddedig a doethurol yn Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ac sydd bellach yn ddarlithydd ym maes Athroniaeth a Chrefydd yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas. Yn cystadlu dan y ffugenw ‘Gwylan’, Gareth ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama, a hynny gyda sgript a ddenodd glod arbennig gan y beirniaid. Wrth draddodi ar lwyfan y brifwyl ddydd Iau, meddai Bethan Marlow ar ran ei chyd-feirniaid:
“Does dim dwywaith nad oes gan Gwylan glust at ddeialog, rhythm a iaith. Mae yma hiwmor a chlyfrwch dweud ac mae adeiladwaith y stori’n grefftus ac yn mynnu sylw o’r dechrau hyd y diwedd.
Mae’r ddrama’n llifo...[ac] mae ôl gofal a meddwl amlwg yn y broses o greu ac ysgrifennu...”
Yn ogystal â bod yn ddeilydd sawl gwobr arall ym maes y ddrama a llenyddiaeth, cyhoeddodd Gareth ei nofel gyntaf, Eira Llwyd, y llynedd, gan dderbyn adolygiadau clodwiw am ei bortread o dri Iddew yn profi erchyllterau’r Holocost.
Elfen arall a wnaeth Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019 yn un i’w chofio oedd llwyddiant rhyfeddol y llenor o Drefor, Guto Dafydd, cyn-fyfyriwr arall Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd a ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth y Goron ac yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen, gan gyflawni ‘dwbl’ nodedig – ac yn wir, cyflawni ‘dwbl-dwbl’, gan iddo ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2014 a Gwobr Goffa Daniel Owen yn 2016 gyda’i nofel, Ymbelydredd.
Wrth ymateb i’r llwyddiannau’r cyn-fyfyrwyr hyn, meddai Pennaeth Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Yr Athro Peredur Lynch:
“Dyma brawf diamheuol fod Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Bangor yn parhau i arwain ac arloesi ym myd llenyddiaeth Gymraeg ac ysgrifennu creadigol. Mae campau Gareth a Guto hefyd yn dangos ein bod yn parhau i feithrin doniau creadigol newydd ac i hybu creadigrwydd ein myfyrwyr. Rydym yn ymfalchïo yn eu llwyddiannau ac yn eu llongyfarch yn fawr.”
Yn ychwanegol at y llwyddiannau yng nghystadlaethau’r brifwyl, cafwyd cyfraniadau ac achosion dros ddathlu o du sawl aelod o staff a myfyrwyr. Roedd Dr Llion Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr, sef Canolfan Gwasanaethau, Technoleg ac Ymchwil Cymraeg Prifysgol Bangor, yn un o feirniaid cystadleuaeth Y Gadair eleni ac ef a draddododd y feirniadaeth o’r llwyfan yn ystod seremoni lenyddol olaf yr wythnos. Derbyniwyd Osian Owen, sy’n fyfyriwr ôl-radd yn Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn aelod o Orsedd Cymru, a’r wisg werdd yn gydnabyddiaeth yn gipio’r Gadair yn Eisteddfod yr Urdd 2018.
Yn ogystal, bu stondin y Brifysgol ar y maes yn cynnal llu o ddigwyddiadau amrywiol yn ystod yr wythnos; yn eu plith, trafodaeth ar sefyllfa newyddiadura cyfoes, cyflwyniadau ar brojectau ymchwil ym maes dementia, ymweliadau gan wleidyddion, sesiynau holi ac ateb gyda staff a myfyrwyr o lên-garwyr ac, wrth gwrs, bu’n llwyfan i aduniad blynyddol ein graddedigion ar brynhawn y dydd Mercher.
Ewch i’n gwefannau cymdeithasol i weld detholiad o luniau o’r wythnos ar y maes yn Llanrwst!
Dyddiad cyhoeddi: 15 Awst 2019