Llwyddiant Americanaidd arall i Osian
Mae ffilm ddogfen weithiodd myfyriwr o Brifysgol Bangor, Osian Williams, arni fel gŵr camera a recordydd sain wedi ennill anrhydedd arbennig yng Ngwobrau y New York Festivals yr wythnos hon. Enillodd y cynhyrchiad Boom Pictures Cymru/S4C ‘Fy chwaer a fi’ Fedal Aur Ryngwladol yn y categori Diddordeb Dynol.
Mae ‘Fy chwaer a fi’ yn ffilm ddogfen a grëwyd yn sgil y gyfres deledu Beautiful Lives am hosbis blant Tŷ Hafan. Mae’r ffilm gan yr efeilliaid Catherine a Kirstie Fields, 18, o Lanelli sy'n dioddef o salwch unigryw sydd wedi' eu gwneud yn fud ac yn gaeth i gadeiriau olwyn. Ar ôl blynyddoedd heb lais, daeth dyfodiad peiriannau siarad electroneg a chyfle i'r merched siarad am eu bywydau a rhannu eu hofnau a'u gobeithion gyda'r byd.
Meddai Owain:
"Roedd hwn yn gyfle gwych i mi gael gweithio gyda chynhyrchwyr profiadol iawn. Mae gweithio ar hwn wedi helpu fy astudiaeth unigol ac elfennau eraill o fy ngwaith academaidd. Mae hi'n fraint i mi gael bod yn rhan o'r ffilm hon sydd yn dweud stori unigryw iawn. Mae'r chwiorydd a'u teulu yn haeddu’r holl glod sydd yn dod yn sgil hyn."
Nid dyma’r tro cyntaf i Osian, sy’n 20 oed ac ar ei drydedd flwyddyn o’r cwrs BA Cyfathrebu a’r Cyfryngau dderbyn cydnabyddiaeth i’w waith yn yr Unol Daleithiau. Mae ei ffilmiau hefyd wedi cael eu defnyddio fel rhan o raglen arloesol i drin milwyr yng nghanolfan iechyd meddygol enwog Walter Reed ym Methesda, Maryland.
Mae ‘Fy chwaer a fi’ i’w gweld ar hyn o bryd ar wefan S4C (www.s4c.co.uk/clic).
Straeon perthnasol:
Myfyriwr o Fangor yn edrych ymlaen at wobrau RTS
Myfyriwr Prifysgol Bangor yn herio MTV
Osian Williams - Cyfathrebu a'r Cyfryngau
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ebrill 2013