Llwyddiant cerddorol ‘Bodedern’
Yng nghymanfa ganu Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym Modedern eleni, daeth llwyddiant i ran un o gyn-ymchwilwyr yr Ysgol Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor.
Dyfarnwyd y wobr gyntaf am gyfansoddi emyn-dôn i’r Dr Godfrey Wyn Williams o Bontcysyllte ger Llangollen, cyn-fyfyriwr doethurol o’r Ysgol Cerddoriaeth, Prifysgol Bangor. Brodor o Bentre Broughton, ger Brymbo ydyw, yn un o saith o blant a dreuliodd flynyddoedd lawer yn mireinio’i grefft fel cyfansoddwr tonau cynulleidfaol. Yn dilyn llwyddiant yn Eisteddfodau Llandefgan, Llanrwst, Bancffosfelen, Mynytho, Y Tymbl Treuddyn a Llanbedr Pont Steffan daeth ei osodiad hyfryd o eiriau’r Prifardd Cen Williams, cyn-gyfarwyddwr Canolfan Bedwyr y Brifysgol, i’r brig yn ystod y gwasanaeth a ddarlledwyd nos Sul, Awst 6ed eleni. Enw’r dôn oedd ‘Bodedern’ a’r gobaith yw y caiff ei mabwysiadu’n ddiymdroi gan gynulleidfaoedd led led Cymru.
Wedi ymddeol, fe gychwynodd y Dr Godfrey Williams ei yrfa fel ymchwilydd a bu’n astudio ‘Cerddoriaeth y traddodiad Ymneilltuol yng ngogledd-ddwyrain Cymru a Lerpwl’. Mae’n organydd profiadol, yn gyn-Gyfarwyddwr cwmni radio ‘Sain y Gororau’ ac yn aelod gweithgar o nifer o gorau cymunedol yn nghyffiniau Wrecsam.
Estynnwn ein llongyfarchiadau cynhesaf iddo.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Awst 2017