Llwyddiant cerddorol i Cara
Mae merch o Gricieth yn dathlu ar ôl llwyddo i orffen ei gradd yn ogystal â datblygu ar ei gyrfa gerddorol.
Cafodd y fyfyrwraig Astudiaethau Cyfryngau, Cara Braia, 22, flas ar fyd cerddoriaeth wedi iddi ennill cystadleuaeth ar-lein am ail ddehongli cân glasurol grŵp poblogaidd o’r 60au The Kinks. O ganlyniad, mae hi wedi cydweithio gyda gwahanol artistiaid a chynhyrchwyr o bob cwr o'r byd. Mae Cara newydd ddychwelyd yn ôl o LA ble aeth i hyrwyddo ei gyrfa.
Dywedodd Cara, cyn-ddisgybl Ysgol Ardudwy: “Mi wnes i ddechrau datblygu fy hun fel artist. Cafodd fy nghân ‘Maent yn dweud’ ei dewis fel Trac yr Wythnos gan BBC Radio Cymru ac yn cael ei chwarae ar Heart FM/ Capital FM. Rwyf hefyd wedi canu’n fyw ar raglen teledu Heno ar S4C ‘Heno’. Mi wnes i berfformio ar y brif lwyfan yn ngwŷl Glass Butter Beach ym Mhen Llŷn y llynedd - ar yr un llwyfan â Tinchy Stryder a Goldierocks!
“Yn ddiweddar mi es i LA ar fy mhen fy hun, a llwyddo i gyfarfod â chysylltiadau mwyaf ysbrydoledig, gan gynnwys cynhyrchwyr a chyfarwyddwyr castio. Cefais y cyfle i dreulio amser gyda Marki Costello, sef asiant talent yn Hollywood, a bu’n dysgu ni am frandio a chyflwyno ein hunain. Rwy’n gobeithio dychwelyd yn ôl yno ddiwedd yr haf. Hoffwn ymweld ag Efrog Newydd tro nesa gan fy mod i wedi cael cynnig perfformio mewn gwŷl yno a byddai hynny’n brofiad gwych.”
Yn 2010, symudodd i Lundain i astudio yn Italia Conti ac aeth i stiwdio i recordio ei cherddoriaeth yn broffesiynol. Ar ôl llwytho'r gerddoriaeth i SoundCloud, creu tudalennau Facebook a Twitter iddi ei hun fel artist, dechreuodd pobl gysylltu gyda hi er mwyn cydweithio gyda hi.
Dewisodd Cara i astudio gradd mewn Astudiaethau Creadigol ym Mangor gan ei bod eisiau mwy o brofiad yn gweithio y tu ôl i'r llenni, y sgrin ac yn gweithio ar set.
“Mi wnes i deithio nôl a blaen i’r Brifysgol yn hytrach na byw gyda myfyrwyr eraill,. Fe wnes fwynhau modiwlau ysgrifennu i'r sgrîn, Newyddiaduraeth a Chynhyrchu Ffilm fer. Rydw i’n hynod ddiolchgar i’r darlithwyr am eu cymorth a’u cefnogaeth gyda fy nghyrfa gerddorol.”
Mae Cara newydd orffen ei thrac diweddaraf sydd yn cael ei ryddhau fis yma.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Gorffennaf 2014