Llwyddiant cyllido triphlyg i Dr Gillian Jein drwy Grwsibl Cymru
Trwy raglen Crwsibl Cymru 2016 mae Dr Gillian Jein wedi derbyn cyllid ar gyfer ymchwil ar dri phroject rhyngddisgyblaethol gwahanol. Bydd yn gweithio fel Prif Ymchwilydd ar The Portable Ocean, mewn cydweithrediad â Dr Stephanie Wilson, Gwyddorau Eigion. Project yw hwn lle defnyddir celf fel cyfrwng i ddysgu plant ysgol am bwysedd yn nyfnder y môr.
Bydd Gillian hefyd yn ymchwilio fel Cyd-ymchwilydd ar Migration, Moral Panics and Meanings, project sy'n edrych ar y ffordd y cyflwynir mewnfudwyr yn hanesyddol mewn tri rhanbarth ar draws Cymru a'u heffaith wedi Brexit yn y mannau hynny. Gwneir y gwaith hwn mewn cydweithrediad â Dr Dawn Manny (Prif Ymchwilydd) o Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Caerdydd, Dr Rhys Dafydd Jones o'r Ysgol Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ym Mhrifysgol Aberystwyth, a Dr Angharad Saunders, darlithydd mewn daearyddiaeth ddynol ym Mhrifysgol De Cymru.
Yn y project olaf, Grasping Physical Activity, bydd Gillian yn gweithio fel cyd-ymchwilydd gyda nifer o ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol John Moores Lerpwl. Mae'r project hwn yn dwyn ynghyd arbenigwyr o feysydd gwyddorau chwaraeon, ymwneud â'r cyhoedd, peirianneg, bioleg symudiad a'r celfyddydau, gan archwilio'r berthynas rhwng ffisioleg, technoleg a hunaniaethau personol a chymdeithasol plant drwy ddefnyddio gwrthrychau printiedig 3-D sy'n mapio'u gweithgaredd corfforol. Arweinir y project hwn gan Drs Melitta McNarry a Kelly Mackintosh o'r Ganolfan Ymchwil Technoleg Gymhwysol Gwyddor Chwaraeon a Meddygaeth yn Abertawe.
Roedd Dr Jonathan Ervine, pennaeth Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern Prifysgol Bangor, yn hynod falch o lwyddiant Dr Jein yn sicrhau tri chais llwyddiannus am gyllid. Nododd ei ‘bod yn wych o beth i weld academyddion o’r Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern, ynghyd â Choleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn gyffredinol, yn elwa o fod yn rhan o Grwsibl Cymru.’ Ychwanegodd ei ‘bod hyn yn oed yn fwy cyffrous gweld y math o gydweithio rhyngddisgyblaethol arloesol sy’n deillio o gymryd rhan yn y cynllun hwn sydd wedi ennill sawl gwobr’.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Tachwedd 2016