Llwyddiant Dwbl i Xavier
Wrth i 2013 dynnu at y terfyn, gall un aelod o staff Ysgol y Gyfraith ei hystyried fel blwyddyn arbennig o lwyddiannus.
Nid yn unig mae Xavier Laurent yn aelod staff llawn-amser o Sefydliad Astudiaethau Cystadleuaeth a Chaffael Ysgol y Gyfraith, ond mae hefyd newydd gwblhau PhD mewn Seicoleg a Chyfryngau Newydd.
A phe na bai hynny'n ddigon o gamp, fe wnaeth Xavier hefyd gwblhau'r triathlon Ironman hynod galed ym Medi. Roedd yn cynnwys nofio am 2.4 milltir, taith feicio o 112 milltir a rhedeg am 26.2 milltir.
Ysbrydolwyd Xavier i ddechrau cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored gan olygfeydd a thirwedd Gogledd Cymru, lle mae wedi byw ers symud yma o Ffrainc yn 2002. Cymerodd ran yn Ras yr Wyddfa, Marathon Eryri a gwahanol rasys mynydd, cyn ymroi i rai triathlonau lleol. Ar ôl blynyddoedd o gystadlu a gwella ei sgiliau nofio a beicio, roedd yn barod i gymryd rhan yng nghystadleuaeth Ironman Cymru yn Ninbych y Pysgod eleni.
"Roedd yr Ironman yn brofiad gwirioneddol dda ac roedd yr awyrgylch yn Ninbych y Pysgod yn wirioneddol wych - fel parti mawr," meddai Xavier, sy'n hanu'n wreiddiol o Bordeaux. "Dwi'n bwriadu gwneud triathlon arall yn Ffrainc y flwyddyn nesaf er mwyn ail-fyw’r profiad a hefyd wella fy amser eleni, sef 14 awr a 15 munud." Hefyd yn cynrychioli Prifysgol Bangor roedd Lee Evans o'r Uned Argraffu, athletwr profiadol a ddywedodd mai'r Ironman oedd un o'r rasys caletaf sydd i'w cael yn unman.
Cadwodd Xavier gydbwysedd rhwng ei ymarfer cyson a chwblhau ei PhD ar ‘Impact of Selective Attention and Action on Episodic Memory’. Gorffennodd ei thesis ym mis Medi yn dilyn viva llwyddiannus. Mae'n awr yn gweithio ar gywiriadau i'w thesis, ond mae'n edrych ymlaen at raddio yn 2014. Nid yw'n sicr pa drywydd y bydd yn ei ddilyn wedyn. "Efallai yr hoffwn i wneud ymchwil ôl-ddoethurol neu ddarlithio, neu efallai fynd ymlaen i swydd uwch ym maes e-ddysgu," meddai.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2013