Llwyddiant i staff y Gyfraith yn seremoni Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr
Roedd llwyddiant i staff Ysgol y Gyfraith Bangor yn gynharach mis yma wrth i ddau aelod derbyn gwobr yn seremoni Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr Prifysgol Bangor.
Enillodd myfyriwr PhD Stephen Clear, sydd yn jyglo’i astudiaethau doethurol gyda swydd fel Swyddog Cynorthwyo Ymchwil Gyfreithiol yn Sefydliad Astudiaethau Cystadleuaeth a Chaffael (yr ICPS) yr Ysgol, y wobr Athro Ôl-radd y Flwyddyn. Mae Stephen yn dysgu ar y modiwl israddedig ‘Legal Skills’ ac yn diwtor ôl-raddedig mewn Cyfraith Gyhoeddus, a hefyd yn Gydlynydd Sgiliau Ffug Lys ar gyfer yr Ysgol.
Mynegodd un o’r enwebiadau ar gyfer Stephen: “Mae dosbarthiadau Stephen yn addysgiadol a difyr. Mae o’n gwrando ar ei fyfyrwyr ac yn gwneud ymdrech i wneud ei bwnc ddod i fyw. Eleni, aeth â ni i Lys y Goron Manceinion cyn ein haseiniad ffug lys, a drefnodd i actorion dod i’n darlithoedd er mwyn gwella ein hyder wrth siarad yn gyhoeddus. Mae ganddo angerdd am yr hyn mae’n dysgu. Mae ymrwymiad Stephen i’w swydd yn mynd yn bellach na’r hyn mae’n rhoi yn yr ystafell dosbarth. Mae ei ddrws ar agor o hyd ac mae’n wir gofalu am ei fyfyrwyr”.
Casglodd Dr Pedro Telles y Wobr Arloesi am ei ymarferiadau addysgu ac aseiniadau arloesol ar y modiwl ‘Startup Law’. Mae’r modiwl hwn yn anelu i roi profiad ymarferol i fyfyrwyr israddedig o sut beth yw o i weithio fel cyfreithiwr trwy roi nhw mewn ffug senario lle gofynnir iddynt roi ar waith eu sgiliau cyfreithiol. Mae Dr Telles hefyd yn Arbenigwr Cyfraith Caffael i’r ICPS.
Mae’r Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr, a rhedwyd gan Undeb Myfyrwyr Bangor ar y cyd â’r Brifysgol, yn dathlu ymrwymiad a gwaith caled staff addysgu a chynorthwyo Bangor. Enwebwyd yr holl wobrau gan y myfyrwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Ebrill 2013