Llwyddiant i Ysgol Busnes Bangor yng Nghystadleuaeth Busnes IBM
Mae tîm o fyfyrwyr Ysgol Busnes Bangor wedi dod yn ailyn rownd derfynol genedlaethol Her Fusnes Prifysgolion IBM,a gynhaliwyd ym Mhencadlys IBM yn Llundain yn gynharach eleni.
Bu'r myfyrwyr yn gweithio fel bwrdd cyfarwyddwyr i wneud penderfyniadau busnes gan ddangos sgiliau entrepreneuraidd, creadigrwydd a gwaith tîm.
Roedd dros 200 o dimau o fyfyrwyr yn y digwyddiad cenedlaethol. Cyrhaeddodd ail dîm o'r Ysgol Busnes y rownd gynderfynol a gorffen yn yr wythfed safle. Cafodd timau'r Ysgol Busnes eu mentora gan Dr Siwan Mitchelmore.
Mae Her Fusnes Prifysgolion IBM yn gystadleuaethfawreddog a chystadleuol iawn.Mae israddedigion o brifysgolion ledled y Deyrnas Unedig yn cymryd rhan mewn cyfres o senarios busnes realistig er mwyn dangos i ba raddau y maent yn gallu trosi dysgu academaidd yn synnwyr masnachol ar gyfer y byd go iawn.
Llun: ‘IBM 8th’ : Simon Gates, Rong Li, Victoria Wiglusz (Team Leader), Sophia Foster, Wenhao Zhang - 8fed safle.
Llun: ‘IBM winners’ : Benjamin Aaron Murray (Team Leader), Hannah Rose Culleton, Junhui Wang, Nguyen Nhat Ngan Le secured 2il safle.
Dogfennau cysylltiedig:
Dyddiad cyhoeddi: 20 Gorffennaf 2018