Llwyddiant mewn Cemeg i ŵr lleol
Mae cyn-ddisgybl o Ysgol Tryfan yn falch iawn o fod yn graddio'r wythnos hon ar ôl tair blynedd o waith caled.
Roedd Toby Ellis, 23, o Dregarth, yn graddio gyda gradd BSc Cemeg yr wythnos hon, ddeng mlynedd wedi i'w fam, Sarah Tomlinson, raddio mewn Llenyddiaeth Saesneg, y ddau'n graddio o Brifysgol Bangor.
Dechreuodd Toby ar ei addysg uwch ym Mhrifysgol Birmingham, ond nid oedd yn rhy hapus yno. Gan fod yna brifysgol ar garreg ei ddrws, daeth i Ysgol Cemeg Prifysgol Bangor ar ddechrau ei ail flwyddyn, ac nid yw'n difaru dim.
Meddai Toby: "Rwyf wedi mwynhau fy amser ym Mangor yn aruthrol, ac roedd yna grŵp gwych o fyfyrwyr yn fy mlwyddyn i.
"Mwynheais fy mhroject Cemeg cyfrifiadurol yn fy nhrydedd flwyddyn. Doeddwn i ddim wedi disgwyl y byddwn yn defnyddio cyfrifiaduron i efelychu sut mae adweithiau cemegol yn digwydd, ond roedd yn rhan wych o'r cwrs.
"Mae Prifysgol Bangor yn cynnig cefnogaeth wych i'w myfyrwyr, ac rwy'n ddiolchgar iawn i Lorrie Murphy, fy nhiwtor personol, a roddodd imi'r gefnogaeth a'r hyder i lwyddo.
"Cymrais ran yng nghynllun Byddwch Fentrus y brifysgol, lle cefais y cyfle i sefydlu fy nghwmni crysau-t fy hun a'u gwerthu yn ffair Nadolig y brifysgol, ac mewn ffeiriau lleol. Rhoddodd hyn brofiad amhrisiadwy imi o sut mae busnes yn gweithio.
"Ar ôl cael profiad gwaith drwy'r brifysgol, rwyf nawr wedi cael swydd gydag Ymddiriedolaeth Tir Cwm Harry fel technegydd labordy, a byddaf yn defnyddio'r sgiliau a ddysgais yn ystod y tair blynedd ddiwethaf."
Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2013