Llwyddiant Myfyrwyr Mentrus Bangor yng Nghystadleuaeth FLUX
Daeth tîm o Brifysgol Bangor yn ail drwy Brydain yn y Gystadleuaeth FLUX bwysig a gynhaliwyd yn ddiweddar. Hon yw'r gystadleuaeth entrepreneuriaeth fwyaf yn y sector addysg uwch. Gosodwyd eu her iddynt gan Costain, grŵp adeiladu a pheirianneg rhyngwladol, gyda'r bwriad o roi prawf ar eu sgiliau busnes a masnachol.
Un o'r sialensiau a gawsant oedd canfod atebion tymor byr a thymor hir pe bai pont allweddol yn system un-ffordd Lancaster yn gorfod cau oherwydd problemau diogelwch. Cafodd y myfyrwyr a gymerodd ran help gan fentoriaid ac arbenigwyr busnes wrth iddynt ymdrin â'r sialens hon.
Collodd y tîm y wobr ariannol o £500, a roddwyd gan IBM, o drwch blewyn, ond fe wnaethant sicrhau rhai cysylltiadau gwerthfawr gyda chyflogwyr yn y digwyddiad.
"Roedd hwn yn gyfle rhagorol i fyfyrwyr ddod i gysylltiad â busnesau amlwg, beirniaid a mentoriaid o IBM, Deloitte, a hefyd lawer o fusnesau llai yn y sectorau adnoddau dynol, cyllid, y gyfraith, ymgynghoriaeth a darparu gwasanaethau - meysydd lle gall graddedigion gael dylanwad gwirioneddol," meddai Chris Little, Pennaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd ym Mhrifysgol Bangor.
Roedd tîm Bangor yn cynnwys yr israddedigion Seicoleg, Kate Isherwood, Daniel Taylor ac Alex Hopkins, yr israddedigion Busnes Bogdan Pop a Cassie Zhao a myfyriwr ôl-radd mewn Seicoleg, Louise Ainsworth. Roedd y tîm wedi cwblhau her Menter drwy Ddylunio ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar a rhoddodd hynny'r hyder iddynt gystadlu ar lwyfan rhyngwladol. Fe wnaeth y cwrs 10 wythnos ym Mangor roi cyfle iddynt weithio'n effeithiol mewn tîm amlddisgyblaethol, defnyddio amrywiaeth o ddulliau dysgu arloesol i ddatblygu atebion creadigol i broblemau mewn bywyd go iawn a chynnig syniadau i banel o weithwyr proffesiynol.
Meddai Kate Isherwood, un o dîm Bangor, "Roedd Flux yn brofiad gwych. Roedd yna gystadlu brwd ond hynod bleserus ac roedd y gefnogaeth a gawsom yn rhyfeddol! Mae'n sicr yn ychwanegiad pwysig i'w roi ar y CV."
Meddai un arall o'r tîm, Daniel Taylor, "Roedd FLUX yn gyfle rhagorol i gael blas o'r byd go iawn tra ydym yn dal yn y brifysgol. Roedd yn ddiddorol iawn deall sut bydd yr hyn rwy'n ei ddysgu ar hyn o bryd yn berthnasol a defnyddiol i'm gyrfa yn y dyfodol."
Meddai Charlotte Hey, Rheolwr Ansawdd a Pherfformiad yn Costain, am y digwyddiad:
"Cefais fy rhyfeddu gan ymroddiad llwyr yr holl fyfyrwyr a'r awch i lwyddo a'r fenter a ddangoswyd ganddynt drwy gydol y gystadleuaeth. Fe wnaeth pob un o'r beirniaid o Costain ganmol y myfyrwyr am eu brwdfrydedd a'u penderfyniad i gwblhau'r sialens."
Dyma oedd gan Abu Saleh o Deloitte, un o noddwyr yr achlysur a beirniad ar y panel, i'w ddweud:
"Mae yna alw cynyddol ar raddedigion i ddangos bod ganddynt sgiliau datrys problemau ac ymwybyddiaeth fasnachol. Mae digwyddiadau fel FLUX yn gyfleoedd gwych i'r rhai sy'n cymryd rhan ddangos bod ganddynt sgiliau o'r fath."
Noddwyd tîm FLUX Bangor gan Lywodraeth Cymru drwy Ganolbwynt Rhanbarthol Gogledd Orllewin Cymru sy'n bartneriaeth rhwng Prifysgol Bangor a Grŵp Menai-Llandrillo. Cafodd y cais ei gydlynu gan Lowri Owen, Ceri Jones ac Eirian Jones o'r Tîm Byddwch Fentrus sy'n rhan o'r bartneriaeth hon.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2014