Llwyddiant yn Arolwg NSS i'r Ysgol Llenyddiaeth Saesneg
Mae canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr (NSS) 2016 yn dangos llwyddiant aruthrol i Astudiaethau Saesneg ym Mangor, sydd bellach yn safle rhif 1 yn y DU.
Cafodd yr Ysgol Llenyddiaeth Saesneg sgôr boddhad cyffredinol anhygoel o 100% am ei BA mewn Saesneg a'i BA mewn Saesneg gyda Ysgrifennu Creadigol.
Mae llwyddiant yr Ysgol Llenyddiaeth Saesneg yn ategu llwyddiant Prifysgol Bangor yn ei chyfanrwydd, a gafodd sgôr o 90% am foddhad cyffredinol, sy'n gosod y Brifysgol ymysg y 15 prifysgol uchaf anarbenigol, sef y sefydliadau traddodiadol sy'n cynnig ystod eang o bynciau, yn y DU.
Daw’r canlyniadau o’r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr, sef arolwg o oddeutu hanner miliwn o fyfyrwyr sy’n graddio o bob prifysgol yn y DU ac sy’n rhoi’r adborth mwyaf cynhwysfawr ar brofiad myfyrwyr ym mhob sefydliad.
Dywedodd Pennaeth yr Ysgol Dr Andy Webb, 'Mae'r holl staff yma'n gweithio'n galed iawn i ddarparu'r profiad academaidd gorau posib mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, ac mae’n wych gweld hynny'n cael ei gydnabod gan ein myfyrwyr. Rydym yn cynnig modiwlau cyffrous a llawn her i'n myfyrwyr mewn meysydd sy'n cynnwys ffuglen drosedd, llenyddiaeth y byd, ffilm Gothig, ysgrifennu trawsddiwylliannol, ac addasiadau o Shakespeare.
Mae staff profiadol yn dysgu’r israddedigion o ddiwrnod cyntaf yr wythnos gyntaf, ac felly byddwn yn dod i adnabod ein myfyrwyr fel unigolion yn gyflym iawn, sy'n ein galluogi i deilwra ein cefnogaeth, er enghraifft mewn sgiliau ysgrifennu'.
Mae'r Ysgol Llenyddiaeth Saesneg wedi cael llwyddiannau mawr yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf ym meysydd ymchwil a chyrhaeddiad myfyrwyr ac mae'r canlyniadau NSS diweddaraf hyn yn goron ar y cyfan. Mae'r holl staff yn yr Ysgol bellach yn edrych ymlaen at groesawu myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd i Fangor yn yr Hydref.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Awst 2016