Llwyddiant yr Orsaf Arloesi
Aeth deuddeg o fyfyrwyr Prifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai ar siwrnai ddeuddydd i ymchwilio i'r broses o ddechrau busnes. Roedd dull gwaith rhaglen eleni yn wahanol i ysgolion dechrau busnes blaenorol ac yn canolbwyntio mwy ar ymddygiad a gweithgareddau sy'n gysylltiedig â chreu busnes trwy ennill profiad wrth wneud tasgau.
Dechreuodd yr 'Orsaf Arloesi' gyda'r myfyrwyr yn cael eu croesawu fel 'teithwyr' ac yn cynnig pitsh i'r cyfranogwyr eraill er mwyn rhannu’n dimau. Roedd y diwrnod cyntaf yn cynnwys fideos i ysbrydoli, cymorth ymarferol, sesiwn ar gynhyrchu syniadau a datblygu pitsh ar 'risiau symudol' gyda’r timau'n cyflwyno pitsh da a phitsh drwg. Cyflwynwyd y myfyrwyr i dasg ffeirio yn seiliedig ar 'Her y Clip Papur Coch' Kyle McDonald lle mae clip papur yn cael ei gyfnewid dro ar ôl tro am eitemau o werth cynyddol.
Cafwyd trafodaethau ar swyddogaeth a’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol ar yr ail ddiwrnod gan edrych ar y camau ymarferol o ddechrau busnes gan gynnwys cymryd safbwynt y cwsmer a chyfleu rhinweddau gwerthu unigryw.
Roedd y pwyslais drwyddi draw ar ddysgu adfyfyriol fel bod y cyfranogwyr yn meithrin ymwybyddiaeth o sut yr oeddynt wedi datblygu a sut i gymhwyso'r hyn roeddynt wedi'i ddysgu wrth symud ymlaen.
Cyflwynodd y ddau dîm eu syniadau i banel Ffau’r Ddraig. Barnwyd y timau yn ôl meini prawf ymarferoldeb syniad, cystadleuaeth ac ymchwil i'r farchnad, sgiliau pitsio, gwaith tîm a ffactor ‘waw’. Roedd y panel beirniaid yn cynnwys Diane Roberts, Rheolwr Cangen Santander y Brifysgol, Dr Andy Goodman o Arloesi Pontio ac Emlyn Williams o Gyngor Dinas Bangor.
Dywedodd Analisa Salamanca, o'r tîm buddugol, sydd newydd orffen gradd mewn Busnes a Rheolaeth: 'Er fy mod wedi wynebu heriau yn y coleg, roeddwn hefyd wedi dod i deimlo'n gyffyrddus ac yn ddiogel gyda'm cydweithwyr a'm tiwtoriaid, tra bod camu i'r 'orsaf arloesi' yn golygu gadael fy nghynefin cysurus o'r foment gyntaf, ond gwnaeth delio â hynny helpu i roi hyder i mi. Gwnaeth ennill y pitsh o flaen tîm o arbenigwyr roi gwir syniad i ni o gymaint o baratoad sydd ei angen cyn dechrau busnes. Nid yn unig wnes i herio fy ngwendidau a gorchfygu fy ofnau ond mae fy ngwendidau bellach wedi troi’n gryfderau.'
Dywedodd Eirian Jones: 'Mae'n ymddangos bod y myfyrwyr sydd wedi bod yma wedi cael budd mawr o brofiadau'r deuddydd diwethaf. Roedd o gymorth i'r myfyrwyr hynny sydd eisiau datblygu syniadau busnes i sylweddoli eu bod angen cefnogaeth bellach. Gall Byddwch Fentrus barhau i'w cefnogi i ddatblygu eu syniadau.'
Hwyluswyd yr achlysur gan Tim Ashcroft, Chris Walker ac Eirian Jones.
Mae’r myfyrwyr yn ennill pwyntiau profiad (pp) Gwobr Cyflogadwyedd Bangor am gymryd rhan yn yr ysgol ddeuddydd ac yn yr holl weithgareddau a gydlynir gan Byddwch Fentrus.
Trefnwyd y cystadlaethau ar ran Prifysgol Bangor gan Byddwch Fentrus, a dderbyniodd gyllid trwy Ganolbwynt Rhanbarthol Gogledd-Orllewin Cymru.
Cyllidir Canolbwynt Rhanbarthol Gogledd Orllewin Cymru yn rhannol gan Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru i weithredu'r Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid i Gymru.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Gorffennaf 2015