Llwyddiant Ysgoloriaeth y Gymanwlad i Raddedigion Gwyddor Môr sydd ar eu ffordd i Seland Newydd
Mae tair cyn-fyfyrwraig o Brifysgol Bangor wedi ennill tair allan o wyth Ysgoloriaeth y Gymanwlad a roddir bob blwyddyn.
Mae’r Ysgoloriaethau, neu Comisiynau, ar gyfer astudio ôl-raddedig a datblygiad proffesiynol yn cael eu rhoi i ddinasyddion y Gymanwlad bob blwyddyn, gan roi cyfleoedd i fyfyrwyr o wledydd sy'n datblygu astudio ym Mangor, ac i raddedigion Bangor astudio dramor.
Charli Mortimer, Amrit Dencer-Brown a Helen Cadwallader, graddedigion MSc o Ysgol Gwyddorau Eigion y Brifysgol, sydd wedi ennill tair o'r wyth ysgoloriaeth i gyflawni eu graddau PhD yn Seland Newydd yn 2016.
Ysgrifenna Charli Mortimer hyn am y cyfle:
“Os oes un peth y gallwch ei ddweud yn ddiogel am raddedigion MSc mewn Gwarchod Amgylchedd y Môr a MSc mewn Bioleg Môr Prifysgol Bangor, yw ein bod ym mhobman! Yn enwedig o fy safbwynt i'r dyddiau hyn, ac rwy’n golygu hynny’n llythrennol. Ar hyn o bryd rwy’n eistedd wrth fy nesg yn y Cydbwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC) yn edrych ar du ôl pen un o fy nghyd raddedigion o’r cwrs Gwarchod Amgylchedd y Môr. Does dim dianc! Tase chi wedi dweud wrthyf dair blynedd yn ôl ar ddechrau fy nghwrs MSc yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion y byddwn yn derbyn Ysgoloriaeth y Gymanwlad i astudio am PhD yn Seland Newydd, byddwn wedi bod yn amheus a dweud y lleiaf. (Gyda llaw mae fy ngoruchwyliwr Dr James Bell a dau o'r myfyrwyr PhD y byddaf yn gweithio gyda hwy, a Pennaeth yr Ysgol yno, i gyd wedi ennill graddau ym Mhrifysgol Bangor: a ydych yn dechrau deall y sefyllfa?) Ond gall y cwrs MSc o Fangor wneud hyn i chi. Pan ddechreuais yr MSc, yn nerfus a brwdfrydig a chyda gradd gyntaf mewn Anthropoleg Gymdeithasol, doedd gen i fawr ddim profiad o Fioleg Môr. Fodd bynnag, yn y tair blynedd ddiwethaf, rwyf wedi ymchwilio i storfa garbon ym mangrofau Dwyrain Affrica ac wedi gweithio i Brifysgol Bangor fel ymchwilydd tramor ar broject Ardal Fôr Warchodedig Ynysoedd y Cayman, a ariennir gan Fenter Darwin. Rwyf hefyd wedi helpu i gydlynu project monitro riff cwrel ar ynys anghysbell yn Indonesia ac wedi gweithio i sefydliad sy'n cynghori'r llywodraeth ar faterion yn ymwneud â chadwraeth fôr yn nyfroedd arfordirol gwledydd Prydain. Yn fyr, rwyf wedi bod yn brysur!
Fis Chwefror nesaf, byddaf yn dechrau ar PhD ym Mhrifysgol Victoria Wellington, yn gweithio ar sbyngau ar riffiau cwrel yn y Môr Tawel/Cefnfor India, a gallaf ddweud yn onest mai’r dysgu a chymorth o ansawdd uchel a dderbyniais gan fy narlithwyr yn ystod fy MSc (ac am beth amser ar ôl hynny) sydd wedi gwneud hyn i gyd yn bosibl. Rwy'n edrych ymlaen at dair blynedd nesaf fy ngyrfa mewn Bioleg Môr a’r graddedigion di-ri o Brifysgol Bangor y byddaf yn sicr o gyfarfod â nhw ar y daith.”
Bu Helen Cadwallader yn astudio'r berthynas rhwng gwrachod glanhau a siarcod dyrnu yn ystod ei MSc ym Mhrifysgol Bangor. “Rwy’n gweithio ar ecoleg symudiad y Stingray gynffon fer mewn aberoedd yn Seland Newydd ac effeithiau dynol ar hynny. Lleolir y gwaith yng Ngorsaf Faes Arfordirol Prifysgol Waikato yn Tauranga yn y Bay of Plenty. Mae fy mhroject yn rhan o’r Apex Predator Project newydd yn yr orsaf ( www.apexpredator.co.nz). Rwyf hefyd wedi bod yn treulio amser yn gweithio ar longau siarter pysgota a nofio efo dolffiniaid yma yn Seland Newydd cyn dechrau ar y cwrs PhD. Ni allwn fod wedi dod i’r fan hyn, na chwaith ennill Ysgoloriaeth y Gymanwlad, heb gymorth y cwrs MSc Bioleg Môr ym Mhrifysgol Bangor. Rwyf wedi dysgu cymaint o sgiliau ymchwil ac ysgrifennu yr wyf bellach yn eu defnyddio drwy'r amser, ac mae fy nyled yn fawr i’r staff a oedd yn rhoi cymaint o gefnogaeth i mi ac sy’n parhau i wneud hynny.”
Ar hyn o bryd mae Amrit Dencer-Brown yn gweithio fel Cynorthwywr Ymchwil ym Mhrifysgol Napier Caeredin:
“Rwy'n edrych ymlaen yn arw at symud i Seland Newydd a gwneud fy ymchwil PhD yno. Mae fy ymchwil yn ymwneud ag agweddau ar ecoleg gymdeithasol mangrofau. Byddaf yn astudio yn yr Auckland University of Technology, sydd â grŵp gweithgar yn ymchwilio i fangrofau. Byddaf yn edrych ar ganfyddiadau lleol ynghylch y ffordd mae gwahanol grwpiau yn defnyddio’r mangrofau a sut mae'r arferion rheoli presennol yn effeithio ar ecoleg yr ardal.
“Wrth astudio'r MSc Bioleg Môr ym Mhrifysgol Bangor, gwnes fy mhroject ymchwil ar fangrofau yn Zanzibar. Yno dois i nabod y cydweithwyr o Gaeredin sy'n gweithio efo Bangor yn Kenya. Dechreuais weithio ar fy liwt fy hun ar adolygiad o lenyddiaeth ar gyfer pennod o lyfr ar wasanaethau mangrof ac mae hyn wedi troi’n swyddogaeth lawn amser i mi ym Mhrifysgol Napier Caeredin ac rwyf bellach yn gyd-awdur y bennod. Rwyf hefyd wedi bod yn gweithio gydag academyddion ar draws y brifysgol ar brojectau Cymrodyr Dysgu, sy'n cynnwys profiad y myfyrwyr, ac rwy’n cynnal labordy i’r flwyddyn gyntaf mewn Bioleg Amgylcheddol. Mae staff Prifysgol Bangor wedi bod yn ysbrydoliaeth i mi, o ran eu hymchwil a’u dysgu, ac rwyf yn gobeithio y bydd cyfleoedd lu i gydweithio yn y dyfodol.
Dywedodd Dr John Turner, Cyfarwyddwr Cyrsiau Ôl-radd Hyfforddedig ac Ymchwil Ôl-radd yn Ysgol Gwyddorau Eigion y Brifysgol:
“Er mwyn ennill Ysgoloriaeth y Gymanwlad, rhaid i fyfyriwr gysylltu â goruchwyliwr doethuriaeth posibl, datblygu cynnig project a derbyn cynnig o le yn y brifysgol o’u dewis yn Seland Newydd ac yna gwneud cais am Ysgoloriaeth. Mae cystadleuaeth fawr am y grantiau, ac mae llwyddiant Charli, Helen a Amrit eleni yn dyst i’r profiad y maent hwy, a llawer eraill, yn ei gael wrth astudio ym Mhrifysgol Bangor, ac yn aml drwy weithio ar ein projectau ymchwil ar draws y byd wedi iddynt raddio.
Mae gan yr Ysgol gysylltiadau cryf â phrifysgolion Seland Newydd, megis Victoria University of Wellington, lle mae dau o'n graddedigion bellach yn staff uwch (yr Athrawon Cysylltiol Simon Davy a James Bell). Rydym yn darparu cyflenwad cyson o fyfyrwyr PhD rhagorol o’n cyrsiau MSc (Laura Wicks, Gareth Williams, Katie Hillyer, Joe Marlow). Mae hon yn broses ddwyffordd mae’n rhaid cofio - gwnaeth Dr Gareth Williams ei broject ymchwil MSc ym Mangor cyn dilyn PhD yn Seland Newydd. Wedi cyfnod o waith ôl-ddoethurol yng Nghalifornia, mae wedi dychwelyd i Fangor fel aelod newydd o staff yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion!”
Dyddiad cyhoeddi: 5 Ionawr 2016