Llwyfan Dysgu Cymdeithasol un o raddedigion Bangor yn cyflogi un o raddedigion Bangor
Mae Polina Cowley, a raddiodd gyda MBA Rheoli Gwybodaeth wedi sefydlu LearnerNet, llwyfan dysgu cymdeithasol arloesol wedi ei anelu at fyfyrwyr mewn addysg uwch.
Mae ei phrofiad blaenorol o ddarlithio mewn ffotograffiaeth ddigidol yng Ngholeg Harlech ac ennill MBA mewn Rheoli Gwybodaeth ym Mhrifysgol Bangor wedi eu cyfuno gyda chymorth Busnes Cymru a'r Rhaglen Cyflymu Twf wedi arwain at ddatblygu LearnerNet. Erbyn hyn, trwy raglen Interniaeth Prifysgolion Santander, mae'n cyflogi Matthew Yeen, myfyriwr trydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor sy'n astudio Systemau Gwybodaeth, i gynorthwyo gyda'r busnes.
Cofrestrwyd LearnerNet ym mis Chwefror 2016, gyda'r genhadaeth o roi cyfle i fyfyrwyr ddysgu'n naturiol gan ddefnyddio dewisiadau fel offer adolygu ar ffurf gêm, cyfleoedd i gystadlu, cymdeithasu ac ymweliadau cysylltiedig ag astudio ac ati. Ar yr ochr addysgu, mae'n galluogi tiwtoriaid i osod gwaith cartref parod a asesir yn ddigidol, adolygu cynnydd myfyrwyr a threfnu cystadlaethau ac ymweliadau.
Meddai Polina am ei menter, "Mae'n unigryw yn y maes, yn cynnig cymdeithasu diogelach ar-lein i fentrau addysgol, myfyrwyr a thiwtoriaid yn wahanol i Amgylcheddau Dysgu Rhithwir sydd ddim yn annog cyfathrebu ar draws mentrau. Nodwedd arall yw'r dewis o dasgau gwaith cartref ac adolygu parod ar ffurf gemau cymdeithasol yn hytrach na dulliau traddodiadol a ffurfiol o ddysgu'n unigol. Ceir deunyddiau dysgu personol gyda'r system hon yn wahanol i ddulliau traddodiadol lle mae'n rhaid i bob myfyriwr ddysgu'r un deunydd o fewn pwnc."
Mae'r ddarpariaeth fentora a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru trwy Byddwch Fentrus ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn fuddiol iawn i Polina wrth iddi ddechrau ei busnes ei hun. Meddai am y gwasanaeth, "Roedd yn newid bywyd; mae Chris Walker, y mentor a ddynodwyd i'r project, yn ddyn busnes ysbrydoledig sy'n frwdfrydig am arloesi ac entrepreneuriaeth. Mae ganddo agwedd gadarnhaol iawn tuag at annog pobl ond ar yr un pryd yn tynnu sylw at broblemau posibl. Cefais gefnogaeth adeiladol iawn hefyd gan Fusnes Cymru a'r Rhaglen Cyflymu Twf".
Yn 2015 cafodd Polina fudd hefyd o gymryd rhan fel hwylusydd ôl-radd ar gyfer Menter trwy Ddylunio ym Mhrifysgol Bangor. "Roedd yn chwa o awyr iach, rhywbeth cyffrous a gwahanol. Roedd yn newid mawr o ddysgu oddefol mewn darlithfeydd, adolygu ar eich pen eich hun ac ysgrifennu traethodau'n ddiddiwedd. Roedd yn enghraifft dda o ddysgu cymdeithasol mwy naturiol a oedd yn cynnwys gwylio eraill a thrafod syniadau gyda chyd-fyfyrwyr, darlithoedd ac arbenigwyr mewn awyrgylch cyfeillgar. Roedd yn un o ddigwyddiadau mwyaf cofiadwy y flwyddyn gyfan. Cymerais ran hefyd yn yr ysgol cychwyn busnes 'Gorsaf Arloesi' a gynhaliwyd gan Byddwch Fentrus yn yr haf o'r un flwyddyn. Roedd yn cynnwys llawer o wahanol ymarferion entrepreneuraidd a rhoddodd gyfle i mi ymarfer sgiliau arwain - rhywbeth nad oedd ar gael yn ystod fy astudiaethau arferol.
Caiff gweithgareddau Byddwch Fentrus eu cyllido'n rhannol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid i Gymru.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Gorffennaf 2016