Llwyfannau digidol newydd yn cynnig cyfleoedd i’r Gymraeg
Mae llwyfannau digidol yn cynnig cyfleoedd i'r iaith Gymraeg fod yn rhan ehangach o fywydau pobl Cymru bob dydd.
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor yn awyddus i glywed sut mae pobl yn defnyddio'r Gymraeg ar lwyfannau digidol, ac yn cynnal dau arolwg i'r cyhoedd.
Mae Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, ar y cyd gydag Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, yn gweithio ar nifer o brosiectau ymchwil yn edrych ar sut mae’r Gymraeg yn cael ei ddefnyddio ar lwyfannau digidol. Mae’r modd y mae unigolion yn defnyddio ffonau symudol, cyfrifiaduron llechen a’r we yn gyffredinol yn newid y ffordd rydym yn cael mynediad at wybodaeth a chynnwys ar-lein. O ganlyniad mae dwy fyfyrwraig o Ysgol Gwyddorau Cymdeithas wedi derbyn ysgoloriaethau KESS i ymchwilio i’r maes hwn, mewn cydweithrediad a chwmnïau masnachol adnabyddus.
Mae Natalie Jones yn cael ei noddi gan S4C i astudio’r ffactorau sy’n amgylchynu’r newidiadau mewn arferion gwylio'r gynulleidfa Gymreig.
Dywed Natalie “Mae fy ymchwil i yn edrych ar y ffordd y mae arferion gwylio pobl wedi newid yn sgil datblygiadau eang mewn gwylio ar lein. Fwy na thebyg mae gennym i gyd brofiad o wylio rhaglen ar lwyfan fel gwefan ac ap S4C, a BBC iPlayer yn ogystal â defnyddio dyfais ddigidol fel iPad neu ffôn clyfar i wylio rhaglenni. Ar ben hyn, mae’r twf mewn defnydd o wefannau rhwydweithio cymdeithasol, fel Twitter, yn golygu bod gwylwyr yn ei ddefnyddio er mwyn ehangu eu profiad gwylio. Wrth wylio rhaglen, mae gwyliwr yn gallu defnyddio ail ddyfais ddigidol er mwyn rhwydweithio gydag eraill sy’n gwylio’r un rhaglen, neu eu defnyddio i gynnal tasgau eraill fel siopa ar-lein. Mae’n ddiddorol gweld sut mae’r newidiadau hyn wedi effeithio gwylwyr Cymraeg ei iaith.”
Meddai Carys Evans, Arweinydd Tîm Data a Dadansoddi; "Mae'r ffordd mae ein gwylwyr yn cysylltu â ni wedi newid yn sylweddol, gyda thwf yn y nifer sy'n gwylio cynnwys S4C ar lwyfannau digidol. Yn 2015/16 bu 46% o gynnydd mewn gwylio S4C ar-lein. Felly, mae'n bwysig i ni ddeall sut mae pobl yn dewis gwylio cynnwys Cymraeg ac mi fydd yr ymchwil yma yn cyfrannu at hynny."
Mae Shân Pritchard yn derbyn nawdd gan Cwmni Da i werthuso llwyddiant deunyddiau digidol ac apiau Cymraeg neu ddwyieithog.
Eglurai Shân: “Y dyddiau hyn, mae gan bron pawb ffonau clyfar sydd a’r gallu i lawr lwytho a defnyddio apiau. Mae’r apiau hyn wedi dod yn rhan arferol o fywydau beunyddiol eu defnyddwyr, sydd a’r gallu i weithredu pob math o dasgau amrywiol, fel i gymdeithasu, canfod gwybodaeth a chwblhau tasgau ymarferol. Mae dyfodiad apiau Cymraeg neu ddwyieithog yn darparu cyfle ychwanegol i hybu’r defnydd o'r Gymraeg ym mywydau pobl Cymru. Diben yr ymchwil felly, yw gwerthuso'r hyn sy’n gwneud apiau Cymraeg neu ddwyieithog llwyddiannus, yn enwedig ar gyfer cynulleidfa Cwmni Da. Drwy ymdrech gydlynol gan ddarparwyr, bydd modd ehangu perthnasedd y Gymraeg, a normaleiddio defnydd o’r iaith o fewn y byd digidol.”
Dywed Phil Stead, cynhyrchydd digidol Cwmni Da; “Fel mae mwy a mwy o bobl yn cyfathrebu drwy blatfformau digidol amrywiol, mae’n oll-pwysig fod yr iaith Cymraeg yn cael ei weld, ac yn cael ei ddefnyddio cymaint ag mae’n cael ei siarad ar lafar. Er mwyn cynnig gwasanaethau a theclynnau digidol o safon, mae’n angenrheidiol ein bod yn deall ein cwsmeriaid. Bydd ymchwil Shân yn helpu ni i ddatblygu cynnwys a meddalwedd sydd yn cwrdd ag anghenion ein defnyddwyr.”
Yn ôl Dr Cynog Prys, Goruchwyliwr PhD Shân a Natalie, mae cael gweithio gyda’r cwmnïau hyn yn hynod gyffroes.
“Mae cael cydweithio efo Cwmni Da a S4C yn hynod o gyffroes gan fod y ddau gwmni ar flaen y gad wrth i ni ystyried datblygu deunyddiau digidol ar gyfer adloniant ac addysg yng Nghymru. Mae’n bwysig iawn bod y Gymraeg yn rhan o’r chwyldro technolegol presennol er mwyn sicrhau parhad y Gymraeg fel iaith fodern a pherthnasol i’r dyfodol.”
Cam nesaf ymchwil y ddwy fyfyrwraig yw casglu data drwy holiadur i'r cyhoedd. Os y dymunwch i gymryd rhan, mae holiadur y ddwy ar gael isod.
Holiadur Natalie:
Sut ydych chi'n gwylio S4C ac a ydych chi yn gwylio rhaglenni ar-lein ac ar ddyfeisiau amrywiol? Rhowch wybod i mi am eich arferion yn yr arolwg yma.
Holiadur Shân:
Byw yng Ngwynedd? Siarad Cymraeg? Defnyddio apiau? Hoffwn wybod beth yw eich arferion chi!
Cyllidir ysgoloriaethau ymchwil Natalie a Shân dan Raglen Ysgoloriaeth Sgiliau ar gyfer yr Economi Wybodaeth (KESS). Mae KESS II yn rhaglen Gydgyfeirio Ewropeaidd o bwys dan arweiniad Prifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru. Fe'i cyllidir KESS II yn rhannol gan Gronfeydd Cymdeithasol Ewropeaidd (ESF) cydgyfeirio ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd, mae KESS yn cefnogi projectau ymchwil cydweithredol (Meistri Ymchwil a PhD), gyda phartneriaid allanol, wedi’u lleoli yn Ardal Gydgyfeirio Cymru (Gorllewin Cymru a’r Cymoedd). Mae elfennau’r Meistri Ymchwil a PhD wedi’u cyfuno â rhaglen hyfforddi mewn medrau uchel eu safon, gan arwain ar Gymhwyster Ôl-radd mewn Datblygu Sgiliau. Bydd KESS II yn parhau tan 2022, ac yn darparu 600+ o leoedd PhD a Meistr Ymchwil ar draws Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Hydref 2016