Llyfr i gwmpasu cerddoriaeth Cymru
Mae project a fydd yn arwain at gyhoeddi cyfeirlyfr awdurdodol o’r enw Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru yn cael ei lansio heddiw (1 Awst 2011) ar stondin Prifysgol Bangor ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Nod y Cydymaith fydd cwmpasu holl gerddoriaeth Gymraeg a Chymreig.
Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor sy’n arwain y project, gyda chefnogaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Fel yr esbonia cydlynydd y prosiect, Dr Pwyll ap Siôn, uwch-ddarlithydd yn Ysgol Gerdd, Prifysgol Bangor:
“Mae’r gyfrol am geisio cynnwys a chyfeirio at bob arddull o gerddoriaeth o’r cynnar at y cyfoes; o'r traddodiadol i'r modern. Bydd yn cynnwys cofnod manwl ar bob arddull o ganu, o ganu gwerin i ganu pop. Bydd yn rhoi sylw i gantorion, cerddorion, unawdwyr opera a cherddorfeydd ac i ganolfannau, cymdeithasau a gwyliau cerdd sydd wedi bod yn ganolog yn natblygiad cerddoriaeth Cymru. Bydd yn edrych hefyd ar gyfryngau newydd megis traciau sain ar gyfer y sgrin a'r sinema, ac yn y blaen. Yn wir, bydd yn cwmpasu pob math o gerddoriaeth sydd wedi cael ei fwynhau gan glustiau’r Cymry, neu’n cael ei fwynhau ar hyn o bryd.”
Bydd Dr Ap Siôn yn cydweithio gydag ysgolheigion, cerddoregwyr, haneswyr, cyfansoddwyr, cerddorion a chymdeithasegwyr mewn rhai o sefydliadau addysg uwch Cymru er mwyn cyflawni’r Cydymaith - a’r bwriad yw ei gyhoeddi yn 2013-14.
Meddai Wyn Thomas, Dirprwy Is-ganghellor, Cyfrwng Cymraeg a’r Gymuned, Prifysgol Bangor:
‘Dyma gyhoeddiad blaengar fydd yn cyfuno arbenigedd Prifysgolion a Sefydliadau Addysg Uwch Cymru, yn arwyddbost amlwg o ymrwymiad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i'r maes, ac ar yr un pryd yn adlewyrchu'r ystod eang o ymchwil sydd i'w weld yng Ngherddoriaeth Cymru ar hyn o bryd.’
Meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:
“Mae'n holl-bwysig ein bod yn adeiladu corff o waith ysgolheigaidd yn y Gymraeg fel fod gan fyfyrwyr ac ymchwilwyr y deunyddiau craidd priodol ar gyfer eu gwaith ymchwil o ddydd i ddydd. Edrychwn ymlaen fel Coleg at gydweithio gyda Pwyll ap Siôn a'r tim mewn perthynas â'r prosiect pwysig hwn a fydd yn gwneud cyfraniad pwysig at gynyddu'r corff o gyhoeddiadau Cymraeg.”
I ddarganfod mwy am y project cyffrous yma dewch i’r lansiad ar Stondin Prifysgol Bangor ddydd Llun, 1 Awst 2011 am 11am.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Gorffennaf 2011