Llyfrwerthwyr Cymru yn troi at rwydweithio cymdeithasol
Bydd ymchwil newydd yn Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau Prifysgol Bangor yn ceisio annog llyfrwerthwyr o Gymru i wneud gwell defnydd o rwydweithio cymdeithasol.
Mae Dr. Eben Muse, Dirpwry Bennaeth yr ysgol, wedi derbyn grant gan y Rhaglen Cyd-ddealltwriaeth Strategol i gydweithio â Chyngor Llyfrau Cymru dros y misoedd nesaf.
Fe fydd yn gweithio gyda D. Phil Davies, Cyfarwyddwr Gwybodaeth a Hyrwyddo Cyngor Llyfrau Cymru drwy gydol y gwanwyn.
Fe fydd yr ymchwil yn ystyried agwedd llyfrwerthwyr at rwydweithio cymdeithasol, y modd y maen nhw’n ei ddefnyddio a beth sy’n eu rhwystro rhag gwneud hynny.
“Y nod yw helpu i lyfrwerthwyr o Gymru symud i’r 21ain ganrif. Mae rhai ohonyn nhw’n ofn y dechnoleg newydd, neu heb unrhyw brofiad o’i ddefnyddio,” meddai Eben Muse.
“Mae rhai siopau llyfrau eraill, fel Palas Print yng Nghaernarfon, eisoes yn gwneud defnydd helaeth o’r rhyngrwyd.”
Ysbrydoliaeth o America
Teithiodd Eben Muse o amgylch taleithiau Massachusetts a Rhode Island y llynedd er mwyn gweld sut yr oedd llyfrwerthwyr yno yn gwneud defnydd o rwydweithio cymdeithasol.
Roedd ei dad Ben Muse Jr. yn cynnal siop lyfrau Parnassus Book store yn Yarmouth Port, Massachusetts am fwy na 50 mlynedd.
Ef oedd un o’r perchnogion siopau llyfrau cyntaf i wneud defnydd o’r rhyngrwyd – prynodd ei gyfrifiadur cyntaf yn 1981.
“Yn ystod fy nhaith i’r Unol Daleithiau cefais y cyfle i gyfweld llyfrwerthwyr ynglyn â beth oedd yn gweithio a ddim yn gweithio, a chasglu eu harbenigedd nhw,” meddai Eben Muse.
“Mae defnyddio’r rhyngrwyd yn mynd yn fwy a mwy pwysig, yn enwedig yn sgil dyfodiad yr e-lyfr. Mae angen iddyn nhw allu cystadlu â chwmnïau mawr gan gynnwys Amazon.”
Bydd yr ymchwil yn cael ei gyhoeddi mewn adroddiad gan Gyngor Llyfrau Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Ionawr 2014