Llys Prifysgol Bangor yn mynegi pryder dwys ynghylch toriadau cyllid arfaethedig i addysg uwch yng Nghymru
Yn ystod cyfarfod blynyddol Llys Prifysgol Bangor heddiw (15 Ionawr, 2016) mynegwyd pryder dwys ynghylch y gostyngiad sylweddol yn y cyllid i brifysgolion yng Nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016/17, a'r goblygiadau i economi a chymdeithas Cymru’n ehangach.
Penderfynodd y Llys gefnogi swyddogion y Brifysgol yn eu hymdrechion i gynnal a chryfhau sefyllfa ariannol Addysg Uwch yng Nghymru, a Phrifysgol Bangor yn benodol.
Daw'r penderfyniad wrth i addysg uwch yng Nghymru wynebu toriadau na welwyd mo’u tebyg o’r blaen i gyllid yn y gyllideb addysg uwch arfaethedig ar gyfer 2016-17. Gallai’r toriad arfaethedig o £41.4m (32%) mewn buddsoddiad i brifysgolion yng Nghymru o 2016-17 fod yn ychwanegol at doriadau sylweddol sydd yn cael eu gwneud eleni. Byddai toriadau o hyd at £61m i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW - y corff sy’n gyfrifol am ariannu addysg uwch yng Nghymru) yn ychwanegol at chwe blynedd yn olynol o doriadau mawr i'r gyllideb addysg uwch, gyda chyfanswm y gostyngiad yn £365m neu 81% ers 2010/11.
Meddai yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Canghellor Prifysgol Bangor:
"Mae ein prifysgolion yn cael effaith economaidd sylweddol, ac yn gwneud cyfraniad gwerthfawr, i Gymru a'r byd. Fodd bynnag, os caiff y toriadau hyn eu gwireddu, bydd prifysgolion yn cael eu gorfodi i wneud dewisiadau anodd. Mae darpariaeth ran-amser, pynciau cost uchel ac ymchwil o ansawdd i gyd yn feysydd anhepgor i ffyniant Cymru yn y dyfodol, ond bydd dewisiadau anodd iawn yn wynebu rhai o'n sefydliadau yn y meysydd hyn a meysydd eraill. "
"Yma ym Mhrifysgol Bangor, rydym wedi bod yn buddsoddi yn ein darpariaeth i fyfyrwyr, ac yn cydnabod bod myfyrwyr yn haeddu bargen deg am eu ffioedd dysgu."
Dyddiad cyhoeddi: 15 Ionawr 2016