Llysgennad Prydain i Tsiena ac Is-ganghellor Prifysgol Bangor yn mynd i Seremoni Agoriadol Canolfan Ymchwil ar y Cyd CSUFT-Prifysgol Bangor, CSUFT 2016
Yn ddiweddar bu llysgennad Prydain i Tsiena, Barbara Woodward, ac Is-ganghellor Prifysgol Bangor, Yr Athro John G Hughes, yn seremoni agoriadol Canolfan Ymchwil ar y Cyd CSUFT-Prifysgol Bangor, yn Changsha, Tsiena. Yn bresennol hefyd roedd Prif Gonswl Prydain yn Guangzhou, Matthew Rous, Is-gyfarwyddwr Materion Tramor Tsieineaidd, Swyddfa Llywodraeth y Bobl yn Nhalaith Hunan, Qiu Aihua, etc. Arweiniwyd y seremoni gan Hu Changqing, Ysgrifennydd Cyffredinol y Central South University of Forestry & Technology. Cafwyd araith bob un gan Barbara Woodward, John Hughes a Llywydd CSUFT, Liao Xiaoping.
Dywedodd Barbara Woodward ei bod yn ddigon hapus i fod yno yng Ngholeg Bangor, sy'n bartneriaeth hanesyddol a sefydlwyd yn 2014 rhwng y Central South University of Forestry and Technology a Phrifysgol Bangor. Hwn oedd y sefydliad addysg uwch cyntaf ar y cyd rhwng y Deyrnas Unedig a Tsiena yn Nhalaith Hunan. Trwy gydweithio ar gwricwlwm ar y cyd mewn gwahanol ddisgyblaethau, gall Prifysgol Bangor a CSUFT gyda'i gilydd gynnig gwell dewis o gyrsiau a mynediad at athrawon ac adnoddau o'r safon uchaf. Roedd yn hynod falch o ddeall bod y bartneriaeth hon wedi bod yn un hynod gynhyrchiol a bod y Cyngor Prydeinig wedi rhoi Coleg Bangor yn Tsiena ar restr fer am wobr Partneriaeth Sefydliadol Addysgol y Flwyddyn 2016.
Dywedodd Barbara Woodward ei bod yn gweld y math yma o bartneriaeth yn allweddol i berthynas ehangach rhwng y DU a Tsiena, nid yn unig ar lefel sefydliadol ond hefyd ar lefel bersonol rhwng pobl, gyda staff dysgu a myfyrwyr yn cymysgu â'i gilydd. Bydd y rhaglen ar y cyd mewn Coedwigaeth a Rheolaeth Amgylcheddol a gynhelir yng Ngholeg Bangor yn Tsiena yn sicrhau y bydd y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr o Brydain a Tsiena yn cydweithio i fynd i'r afael â sialensiau newid hinsawdd byd-eang.
Dywedodd Yr Athro John G Hughes bod Coleg Bangor penodedig a oedd yn cynnig graddau llawn yn Tsiena yn ddatblygiad cyntaf o'r fath i'r brifysgol. Mae'n broject strategol bwysig i Fangor a bydd yn para am ddegawdau. Ar y cyd â CSUFT, mae Prifysgol Bangor yn cynnig pedair rhaglen, yn cynnwys BSc mewn Bancio a Chyllid, BSc mewn Cyfrifeg a Chyllid, BSc mewn Peirianneg Electronig a BSc mewn Coedwigaeth a Rheolaeth Amgylcheddol. Mae 439 o fyfyrwyr wedi'u cofrestru â Phrifysgol Bangor o fis Medi 2016. Yn eu plith roedd 63 o fyfyrwyr wedi dewis trosglwyddo i Fangor eleni i gael profiad o astudio dramor ym Mhrydain. Unwaith eto, pwysleisiodd Yr Athro Hughes mai uchelgais dymor hir Prifysgol Bangor oedd gwneud Coleg Bangor yn Tsiena yn ganolfan astudio dramor i fyfyrwyr Bangor, yn gyfrwng cyfnewid dwy ffordd a fydd yn cyfoethogi'r profiad dysgu i bawb. Bydd sefydlu Canolfan Ymchwil ar y Cyd newydd rhwng y ddwy brifysgol yn ysgogi'r cydweithio ym maes ymchwil ymhellach rhwng y ddau sefydliad a helpu i ddatblygu cyrsiau ôl-radd a PhD ar y cyd.
Nododd Liao Xiaoping fod Coleg Bangor wedi datblygu tîm addysgu rhyngwladol rhagorol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae dros 60 o athrawon o Brifysgol Bangor wedi cael eu hanfon i ddysgu myfyrwyr yng Ngholeg Bangor yn Tsiena. Ar wahân i gyfnewidiadau a chydweithio rheolaidd, mae athrawon o Brifysgol Bangor wedi bod yn ymwneud ag athrawon yn CSUFT i gynnal ymchwiliadau gwyddonol a gweithgareddau academaidd. Bu hyn yn sylfaen gadarn i sefydlu Canolfan Ymchwil ar y Cyd CSUFT-Prifysgol Bangor. Ar ôl yr areithiau fe wnaeth Barbara Woodward, Qui Aihua, Liao Xiaoping a John Hughes ddadorchyddio plât enw'r ganolfan newydd gyda'i gilydd.
Er 2014 mae Coleg Bangor wedi cael llwyddiannau mawr gydag ansawdd dysgu a meithrin doniau ac mae'r myfyrwyr wedi cael eu cydnabod gan y ddwy ochr. Felly, cyflwynodd John Hughes lythyrau derbyn i fyfyrwyr Gradd 2015 a oedd wedi'u cofrestru ym Mhrifysgol Bangor.
Rhan olaf seremoni agor Coleg Bangor, CSUFT 2016 oedd perfformiad celfyddydol gwych a gyflwynwyd gan athrawon a myfyrwyr yng Ngholeg Bangor a Choleg Cerddoriaeth CSUFT.
Mae CSUFT, a sefydlwyd yn 1958, yn brifysgol allweddol a gefnogir gan Weinyddiaeth Coedwigaeth Wladol Tsiena a Llywodraeth Talaith Hunan. Mae wedi cael ei hawdurdodi i roi graddau doethur a meistr a hefyd i argymell eithrio myfyrwyr o'r arholiad mynediad i gyrsiau ôl-radd. Cafodd sgôr "RHAGOROL" yng ngwerthusiadau Gweinyddiaeth Addysg Tsiena o ansawdd addysgu israddedig ac ôl-radd yn Nhalaith Hunan.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Hydref 2016