Lucy Owen yn cyflwyno Gwobrau Caffael Cenedlaethol Cymru
Cymerodd le yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, ar Fawrth 20, 2015. Wedi ei drefnu gan Sefydliad Cystadleuaeth ac Astudiaethau Caffel, Prifysgol Bangor, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, cafodd y Gwobrau eu cyflwyno gan Lucy Owen, BBC, gydag anerchiad gan Weinidog Cyllid & Busnes Llywodraeth, Jane Hutt AC. Yn cadeirio y Panel Beirniaid Rhyngwladol roedd yr Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Bangor.
Wrth siarad am y Gwobrau, dywedodd Jane Hutt, Gweinidog Cyllid: “Mae Gwobrau Caffael Cenedlaethol Cymru yn gyfle arbennig i ddathlu y gwaith canmoladwy sy’n cymryd lle o fewn caffael sector gyhoeddus ar draws Cymru. Mae rhain yn storïau o lwyddiant, ac wrth rannu arfer gorau, gallwn barhau i adeiladu ar hyn. Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr a’r rhai â enwebwyd.”
Fe gyflwynodd y Gweinidog y Gwobrau ochr yn ochr â Frank Brunetta, Ombwdsman Caffael Canada; Mark Roscrow o’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol, a nifer o feirniaid cenedlaethol a rhyngwladol, yn ogystal.
Roedd y Gwobrau yn nodi diwedd Wythnos Gaffael, cynhadledd gaffael ryngwladol pum niwrnod, wedi ei threfnu gan Brifysgol Bangor, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Mae’r gefnogaeth yma yn gwireddu’r Gwobrau yma, ac yn wir, yr Wythnos Gaffael, ac yn denu nifer amrywiol o arbenigwyr cenedlaethol a rhyngwladol i gyfarfod a thrafod y datblygiadau diweddaraf mewn arfer caffael cyhoeddus a moderneiddio.
Cafodd yr Wythnos Gaffael, yn awr yn ei 4ydd Blwyddyn, anerchiadau gan y Gweinidog, Jane Hutt AC, a hefyd Alun Cairns AS, Gweinidog yn Swyddfa Cymru, a ymwelodd â’r arddangosfa Arloesedd i weld arddangosfa technegol cychwynnol. Yn ystod yr wythnos, fe lansiodd y Gweinidog Cyllid eTrading Wales, rhaglen fydd yn cynnig cefnogaeth amhrisiadwy i gyrff sector gyhoeddus a chyflenwyr i drawsnewid eu prosesau busnes i alluogi masnachu electroneg di-dor, gan leihau’r gost o wneud busnes efo’r sector gyhoeddus Gymreig. Yn ogystal, cyhoeddodd y Gweinidog y bydd adolygiad o’r Datganiad Polisi Caffael Cyhoeddus Cymreig yn fuan.
Yr Wythnos Gaffael yw, erbyn hyn, un o’r cynadleddau mwyaf, a’r mwyaf helaeth, yn y Deyrnas Unedig, ac sydd, yn yr wythnos ddiwethaf yn unig, wedi dod â dros 852 o gynrychiolwyr i Gaerdydd ar gyfer yr Wythnos. Cafwyd pynciau yn amrywio o fentrau caffael Smart Cities o gwmpas y byd, i glywed am sut mae dinasoedd eraill yn moderneiddio eu amgylchedd trefol drwy gael technolegau newydd i wella bywyd y dinasyddion; i adolygu datblygiadau diweddar yng nghaffael cyfraith a menter Ewrop.
Fe gyflwynwyd y Gwobrau gan Lucy Owen, BBC, gyda phanel y Beirniaid cenedlaethol a rhyngwladol yn cael ei gadeirio gan yr Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor, sydd hefyd yn arwain y Sefydliad ar gyfer Cystadleuaeth ac Astudiaethau Caffael. Wrth annerch y Seremoni Gwobrwyo, rhoddodd yr Athro Cahill longyfarchiadau i’r enwebiadau a’r enillwyr, a dywedodd fod caffael Cymreig ar hyn o bryd yn codi proffeil mewn amgylchedd lle mae sefydliadau yn sylweddoli yn gynyddol am fuddiannau moderneiddio caffael, ac er fod llawer mwy i’w wneud, mae tystiolaeth sylweddol fod pethau yn symud i’r cyfeiriad cywir i wella tirwedd caffael.
Enillwyd Gwobr Mabwysiadu e-Gaffael gan dîm Gyngor Sir Penfro, gyda Paul Ashley Jones yn arwain. Nododd y Panel Beirniadu – “Mae’r enwebiad yma yn hynod bwysig gan ei fod yn atgyfnerthu dichonolrwydd eGaffael, hyd yn oed mewn gofod bychan daearyddol, sydd fel arfer efo timau gyda rhifau cyfyngedig. Mae hyn yn ysbrydoliaeth ar gyfer dwysau ac ehangu defnydd teclynnau fel hyn.”
Aeth Gwobr Cyflenwr y Flwyddyn i New Directions Education, darparwr recriwtio a hyfforddi ar gyfer y sector addysg yng Nghymru, sydd yn cefnogi athrawon ac ysgolion efo’u anghenion cyflenwi. Yn 2012, enillodd y sefydliad statws cyflenwr dewisol ar gyfer darpariaeth staff i’r sector addysg drwy gydol Cymru.
Cafodd Gwobr ar gyfer Cyflenwr Wedi Gwella Fwyaf ei dderbyn gan Donald Woosnam, Cyfarwyddwr Woosnam Dairies, cwmni laeth deuluol wedi ei leoli yng Nghaerffili. Wedi ei sefydlu yn 1978, mae’r cwmni wedi mynd o nerth i nerth, i ddod yn un o laethdai manwerthu annibynnol mwyaf poblogaidd yr ardal.
Cartrefi Cymunedol Gwynedd enillodd Wobr Buddiannau Cymunedol. Cafodd Cartrefi Cymunedol Gwynedd ei sefydlu ym mis Ebrill 2010, gyda’r dasg o uwchraddio 6,300 o eiddo Cyngor Gwynedd, yn dilyn pleidlais “Ia” gan denantiaid. Yr angen i gyflenwi gwelliannau Tai Cymreig Safonol i gartrefi tenantiaid oedd y prif reswm am newid yng Ngwynedd. Fe nododd y Beirniaid fod y prosiect yma yn “arddangos aliniad clir o gaffael efo amcanion cymdeithasol eang, gyda’r sefydliad yn defnyddio ei weithgaredd caffael i uchafu’r adenillion cymdeithasol ar ei fuddsoddiad.”
Gyda gwybodaeth glir a thystiolaeth manwl wedi ei ddarparu, gan arddangos y buddion mesuradwy ac arwyddocaol yn nhermau gwella canlyniadau, gwerth am arian, a chynilion, ynghyd â rhai esiamplau gwirioneddol dda o arfer gorau y gall sefydliadau eraill ddysgu ohonynt, oedd y rhesymau paham for y Gwobr ar gyfer y Sefydliad Caffael Mwyaf Blaengar wedi ei ennill gan dîm sydd yn cael ei arwain gan Mark Roscrow o Bartneriaeth Rhannu Gwasanaethau GIC Cymru.
Roedd enillwyr eraill ar y noson yn cynnwys:
- Cyngor Dinas Caerdydd – Tîm Comisiynu a Chaffael dan arweiniad Steve Robinson, yn ennill Gwobr Arloesiad Drwy Gaffael;
- GD Environmental Services Ltd yn ennill Gwobr am Gyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol;
- Person Ifanc Proffesiynol y Flwyddyn wedi ei wobrwyo i Matthew Perrott o Bartneriaeth Rhannu Gwasanaethau GIC Cymru;
- Rhoddwyd Gwobr am Gyfraniad Pwysig i dîm Caffael Cyngor Sir Bwrdeistref Caerffili; a
- Rhoddwyd Gwobr am Gaffael Cydweithiol i Dan John, Cyngor Sir Penfro.
Fe gyflwynwyd y Gwobrau gan Lucy Owen, BBC, gyda phanel y Beirniaid cenedlaethol a rhyngwladol yn cael ei gadeirio gan yr Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor, sydd hefyd yn arwain y Sefydliad ar gyfer Cystadleuaeth ac Astudiaethau Caffael. Wrth annerch y Seremoni Gwobrwyo, rhoddodd yr Athro Cahill longyfarchiadau i’r enwebiadau a’r enillwyr, a dywedodd fod caffael Cymreig ar hyn o bryd yn codi proffeil mewn amgylchedd lle mae sefydliadau yn sylweddoli yn gynyddol am fuddiannau moderneiddio caffael, ac er fod llawer mwy i’w wneud, mae tystiolaeth sylweddol fod pethau yn symud i’r cyfeiriad cywir i wella tirwedd caffael.
Am wybodaeth pellach am eTrading Wales, ymwelwch â:
www.prp.wales.gov.uk/eTrading-Wales
Am wybodaeth pellach am Wobrau Caffael Cenedlaethol Cymru, ymwelwch â www.welshprocurementawards.org.uk
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mawrth 2015