M-SParc ar pwl lwcus
Mae M-SParc, Parc Gwyddoniaeth gyntaf ymroddedig Cymru, a agorodd ar y 1af o Fawrth 2018 yng nghanol pwl lwcus! Yn ddiweddar, enillodd y prosiect Prosiect Adeiladu Digidol y Flwyddyn 2018 yn y Gwobrau Adeiladu Rhagoriaeth Genedlaethol, contract newydd i sefydlu Canolfan Fenter mewn partneriaeth â Menter Mon, a hefyd threfnwyd a chynhaliodd yr Uwchgynhadledd Ynni cyntaf ar gyfer dathlu llwyddiant cwmnïau ynni yn y rhanbarth Gogledd Orllewin Cymru.
Ym mis Gorffennaf, enillodd M-SParc prosiect adeiladu y Fllwyddyn yn y gwobrau Adeiladu Rhagoriaeth Cymru. Mae'r gwobrau mawreddog hyn yn dathlu llwyddiant yn y diwydiant adeiladu. Yna, aeth M-SParc ymlaen i'r Gwobrau Cenedlaethol Adeiladu Rhagoriaeth, lle cystadlwyd yn erbyn enillwyr o bob rhanbarth y DU, ac aethant ymlaen i ennill Prosiect Adeiladu Digidol y Flwyddyn 2018.
Mae ennill Prosiect Adeiladu Digidol y Flwyddyn yn y gwobrau hyn yn golygu mai M-SParc yw'r prif brosiect ar draws y wlad yn Adeiladu Digidol yn 2018. Roedd y gwobr yn cydnabod eu gwaith yn maesydd cydweithio'n ddigidol ar brosiect adeiladu, gan rannu gwybodaeth trwy'r holl dimau dylunio, modelu 3D arloesol, datblygu app, Modelu Gwybodaeth Adeiladu, Datblygiad Rhithwir Realiti, ac uwchraddio'r gadwyn gyflenwi.
Dywedodd Rheolwr Cyfarwyddwr Pryderi ap Rhisiart "Ynghyd â chontractwyr Willmott Dixon, a'r penseiri FaulknerBrowns, yr ydym mor falch bod yr holl waith caled yn ystod y cyfnod adeiladu wedi cael ei gymeradwyo. Rydym yn brosiect arloesol ac roedd mor bwysig inni ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf a gwthio ein hunain i wneud yn well. Mae'n gamp anhygoel i bawb. Mae hefyd yn dangos i’r byd y gall Gogledd Cymru adeiladu adeiladau eiconig. "
Wrth barhau â'r buddugoliaethau, cyhoeddodd M-SParc ddydd Iau (22 Tachwedd) eu bod wedi ennill £1m i gefnogi entrepreneuriaid ar draws Gogledd Cymru, mewn partneriaeth â Menter Môn.
Sefydlir y Ganolfan Fenter er mwyn cefnogi cannoedd o fusnesau newydd a bydd yn gweithio ar draws Ynys Môn, Gwynedd, Conwy a Sir Ddinbych, gyda'r adeilad M-SParc yn gweithredu fel hwb.
Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn, Mr Dafydd Gruffydd:
"Bydd yr hwb yn gyfle i fusnesau a'r gymuned ddod ynghyd mewn amgylchedd creadigol a chydweithredol i ddatblygu a thyfu syniadau, gan adeiladu cymuned o entrepreneuriaid i hybu'r economi leol. Credwn fod sgiliau a gwasanaethau Menter Môn a M-SParc yn dod â'r prosiect hwn at ei gilydd, ac mae'n gyfle gwych i ddatblygu partneriaethau newydd mewn gwahanol sectorau. Dyna 'da ni eisiau gweld!"
Ychwanegodd:
"Ni waeth pa gam o'r daith y mae pobl arni neu beth yw eu maes diddordeb penodol, byddwn yn sicrhau bod ganddynt ddigon o gefnogaeth ac arweiniad i helpu eu busnes i dyfu a ffynnu."
Meddai Pryderi ap Rhisiart, Cyfarwyddwr M-SParc:
"Rydym wrth ein bodd o fod yn gweithio gyda Menter Môn ar y contract hwn ac mae'n gyfle gwych i fusnesau ac entrepreneuriaid ddod at ei gilydd i wneud y mwyaf o'r cyfleusterau gwych sydd gennym ar gael yma yn M-SParc.”
I bennu'r wythnos, cynhaliodd M-SParc 'EGNI2018' - Uwchgynhadledd Ynni gyda siaradwyr o gorfforaethau mawr gan gynnwys Wood a Horizon i brosiectau ynni lleol bach gan gynnwys Ynni Ogwen ac YnNi Glân. Mynychodd dros 130 o bobl, gyda phlant o Ysgol Corn Hir ymhlith y rhai a ddaeth i'r ystafell arddangos i ddangos eu prosiect ynni Lego diweddaraf.
Dywedodd Mr ap Rhisiart:
"Ac i goroni'r cyfan, gynhaliwyd yr Uwchgynhadledd Ynni! Y bwriad oedd arddangos a dathlu rhanbarth Gogledd Orllewin Cymru o ran y prosiectau ynni cyffrous sydd yn y rhanbarth; nid ydym yn gwneud hyn ddigon! Roedd y gynulleidfa a'r siaradwyr yn wir dathlu hyn, gyda theimlad cadarnhaol iawn i'r diwrnod cyfan, digon o gyfleoedd rhwydweithio brwdfrydig, ac adborth gwych gan bawb dan sylw.
Dyma'r union beth ddaru M-SParc cael ei adeiladu i wneud, a buom yn gweithio gyda Chynghorau Ynys Môn a Gwynedd ar hyn, gan ein bod yn wir yn credu bod cydweithio yn allweddol i lwyddiant. Edrychwn ymlaen at barhau â'n gwaith o ddatblygu a chefnogi busnesau a phrosiectau yn y rhanbarth er budd yr economi leol. "
Dyddiad cyhoeddi: 27 Tachwedd 2018