M-SParc yn mynd ‘ar y lôn’
Sefydlwyd M-SParc, Parc Gwyddoniaeth sy’n eiddo i Brifysgol Bangor, er mwyn creu gyrfaoedd gyda chyflogau da yn y rhanbarth, yn y sectorau gwyddoniaeth a thechnoleg. Y math o yrfaoedd nad ydych yn disgwyl dod o hyd iddynt ar Ynys Môn ac yng Ngwynedd a Chonwy, yn talu’n dda ac yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu. Flwyddyn a hanner ers agor ei ddrysau, mae’r cwmni wedi gwneud cymaint o gynnydd fel ei fod yn mynd ar y lôn!
Felly sut mae mynd ag adeilad ar daith? Dyma’r Rheolwr Gyfarwyddwr Pryderi ap Rhisiart i esbonio “Ers Mawrth 1af 2018, pan agorodd yr adeilad, mae M-SParc wedi gweithio’n galed i lenwi'r Parc gyda 30 o gwmnïau tenant sydd bellach wedi’u lleoli yma, ac mae 75% o'r safle wedi’i lenwi.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, rydyn ni wedi gallu helpu i ddod â 40 o yrfaoedd newydd i'r rhanbarth drwy ein gwaith ni ein hunain a’n tenantiaid, ac ni fyddai hynny wedi bod yn bosib fel arall. Hefyd rydyn ni wedi darparu 14 o leoliadau i fyfyrwyr o Brifysgol Bangor gyda ni a’r cwmnïau tenant, er mwyn helpu graddedigion newydd i fod yn fwy cyflogadwy, ac mae mwy o leoliadau ar y gweill. Mae tenantiaid wedi rhoi cyfle gweithio wrth astudio i un myfyriwr Meistr ac un myfyriwr PhD ac rydyn ni wedi darparu gwaith i brentis oedd yn wynebu risg o fod yn ddi-waith. Hefyd rydyn ni wedi cynnal mwy nag 20 o gynadleddau mawr, gyda'r cynadleddwyr yn dod o’r byd academaidd a diwydiant, a 15 digwyddiad ar gyfer plant i ysbrydoli plant am wyddoniaeth a thechnoleg.
O blith yr 14 o leoliadau i fyfyrwyr a grybwyllwyd gan Mr ap Rhisiart, mae 4 wedi cael cynnig gwaith llawn amser gyda'r cwmni ble cawsant eu lleoli. Un o'r rhain yw intern Rhyngrwyd Pethau M-SParc, sy’n helpu ar hyn o bryd gyda datblygu datrysiadau technoleg arloesol ar gyfer y sector amaethyddol.
“Rydyn ni’n teimlo ein bod ni wir yn cyflawni ein cylch gwaith o sbarduno economi Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy. Nid am fod gennym ni adeilad sydd wedi ennill gwobrau y mae pobl eisiau dod iddo mae hyn yn digwydd! Gwaith caled ein tîm ni sy’n gyfrifol am hyn, sydd wir eisiau gweld pob tenant yn llwyddo, a gwneud pob digwyddiad yn llwyddiant. Hefyd, ein tenantiaid ni, sy’n gweithio’n galed ar syniadau newydd ac arloesol bob dydd er mwyn datblygu eu cwmnïau ac ychwanegu gwerth a chyfleoedd gyrfaol at y rhanbarth. A hefyd Prifysgol Bangor, sy’n gwneud yn siŵr bod eu myfyrwyr i gyd yn ymwybodol iawn o’r cyfleoedd sydd ar garreg eu drws, ac yn manteisio arnynt, a bod ein busnes ni’n elwa o hyn.
Dywedodd Ben Scholes, Prif Weithredwr Papertrail, a ddaeth yn denant M-SParc y llynedd “Y budd rydyn ni’n ei gael o M-SParc yw bod gan y bobl sy’n rhedeg y Parc Gwyddoniaeth y meddylfryd cywir sydd ei angen wrth i chi ddatblygu busnes sydd heb fodoli o'r blaen erioed.” I M-SParc, mae eu hymdrech hwy i helpu tenantiaid i ddatblygu yn talu ar ei chanfed pan mae’r tenantiaid yma'n dechrau darparu gyrfaoedd ar gyfer y rhanbarth.
Mae M-SParc yn angerddol am sicrhau eu bod yn creu effaith real, a bod y tair sir i gyd yn teimlo eu bod yn elwa o gael Parc Gwyddoniaeth yn y rhanbarth. Nid dim ond cael gofod ffisegol i bobl ddod iddo sy’n bwysig; mae’n ymwneud â’r math o bobl sy’n heidio i'r gofod i gydweithio ar syniadau, a bod yn rym sy’n sbarduno i sicrhau bod rhywbeth positif yn digwydd. Mae’r cwmni eisiau ysbrydoli pobl ifanc i feddwl am y rhanbarth gyda gobaith, i deimlo’n falch o ble maent yn byw a gwybod bod cyfleoedd iddynt yma wrth iddynt fynd yn hŷn.
I ategu’r datganiad hwn, mae prosiect blwyddyn yn cael ei gynnal, wrth i M-SParc fynd Ar y Lôn. Bydd y daith yn cychwyn ym Methesda ar y 1af o Dachwedd, gan rannu adeilad gyda Partneriaeth Ogwen ar y stryd fawr, ac ar ôl tri mis bydd yn symud i leoliad yng Nghonwy. Mae hwn yn gyfle gwych i siarad gyda chymunedau newydd o bobl, gweithio gyda chynlluniau presennol a gweld ble gall M-SParc ychwanegu gwerth, yn benodol drwy fanteisio i'r eithaf ar y cysylltiadau ag ymchwil academaidd a graddedigion medrus drwy Brifysgol Bangor.
Dywedodd Meleri Davies, Rheolwr Partneriaeth Ogwen “Rydyn ni fel Partneriaeth yn gweithio er budd economi, amgylchedd a chymunedau Dyffryn Ogwen. Rydyn ni wedi cymryd rhan yn nigwyddiadau M-SParc yn y gorffennol, gan siarad yn EGNI2018, ac rydyn ni’n gwybod eu bod nhw’n rhannu llawer o’n gwerthoedd ni o ran ffocws ar ynni a charbon isel, eisiau gweithio gyda chymunedau, ac wir yn gobeithio darparu rhywbeth positif i bobl. Mae’n mynd i fod yn dri mis cyffrous a bydd gennym ni waddol ar y diwedd gobeithio. Po fwyaf o bobl ddaw i mewn i ddefnyddio’r gofod rydyn ni’n ei rannu, y gorau, ac mae’n bleser cael gweithio gydag M-SParc ar hyn.”
Mae M-SParc yn awyddus i sicrhau bod y bartneriaeth yn effeithiol, ble bynnag fydd y daith yn mynd â hwy. Nid dim ond cyrraedd yn uchel eu cloch yw'r nod, ac wedyn gadael dri mis yn ddiweddarach i geisio gwneud yr un peth eto. Y bwriad yw cael effaith ar y cymunedau maent yn ymweld â hwy, gan greu meddylfryd busnes entrepreneuraidd gyda’i ffocws ar y gymuned.
Nododd Sofie Roberts, ‘Rheolwr Taith’ M-SParc “Gobeithio y bydd y gofod creu, a fydd yn dod ar daith gyda ni, yn ysbrydoli pobl i feddwl yn fwy creadigol am eu syniadau busnes. Yr hyn sy’n digwydd yn aml ar ôl prosiectau fel hyn yw bod y gymuned yn camu i'r adwy, gan gydweithio i gynnal y momentwm ar ôl i’r prosiect ddechrau. Rydyn ni wedi clywed am bobl yn prynu offer ac yn creu eu gofod creu eu hunain, er enghraifft, ar ôl gweld beth sy’n bosib.”
Mae rhan o’r prosiect yn cynnwys gofod creu Ffiws, prosiect sy’n cael ei gyllido gan Arfor. Nododd y Cynghorydd Gareth Thomas, Cyngor Gwynedd “Mae Rhaglen ARFOR yn brosiect ar gyfer Gwynedd, yn treialu prosiectau arloesol i ddatblygu'r economi leol a hybu'r Iaith Gymraeg. Bydd Ffiws yn gyfle i fynd â’r dechnoleg newydd i leoliadau amrywiol, gan ddatblygu syniadau newydd.”
Bydd pobl yn gallu defnyddio’r gofod i weithio wrth ddesg gan ddefnyddio wi-fi am ddim, mynychu unrhyw un o’r digwyddiadau busnes niferus a fydd yn cael eu cynnal, o glinigau cynghori i arbrofion gwyddonol ar gyfer plant, ac wrth gwrs creu prototeipiau a phrosiectau prawf yng ngofod creu Ffiws.
Gall y bwriad o greu parc gwyddoniaeth ac ysgogi'r economi wybodaeth swnio fel breuddwyd gwrach ond, ar lefel ddynol, mae M-SParc eisiau dod â gobaith i’r rhanbarth, tanio uchelgais a bod yn rym sy’n sbarduno newid a datblygiadau positif. Mae’r tîm wir yn angerddol am sicrhau bod gyrfaoedd ar gael, a bod pobl ifanc yn gallu edrych yn falch ar y rhanbarth ble maent yn tyfu i fyny, a theimlo bod rhywbeth i'w cadw hwy yma yn y dyfodol.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Hydref 2019