MA Datblygu Cymuned Cyfrwng Cymraeg
Mae'r Ysgol Dysgu Gydol oes yn falch iawn o adrodd bod y rhaglen M.A. hon yn cael ei chynnal yn gyfan gwbl trwy'r Gymraeg eleni. Anodd yw recriwtio nifer ddigonol cyfrwng Cymraeg fel arfer ond llwyddiant bu eleni. Mae cefndir y myfyrwyr yn eang - o fod yn arbenigwr gwyddoniaeth rynglanw sy'n gweithio i Gyfoeth Naturiol Cymru, i swyddog hyfforddiant Mentrau Iaith Cymru, i athro Thechnoleg a swyddog Cymunedau'n Gyntaf o Gaernarfon a mwy! Pob un gyda'r angen i ddatblygu eu gwybodaeth a galluoedd wrth weithio gyda chymunedau led led Cymru a'r byd.
Mae'r ail flwyddyn o'r rhaglen yn un ddwyieithog ac eleni byddant yn teithio i Wlad y Basg ar gyfer eu hastudiaeth maes, gan ganolbwyntio ar astudio gweithio'n gydweithredol a datblygiad rhanbarthol.
Erbyn y Nadolig bydd tri arall wedi gorffen eu traethodau hir a'u cyflwyno ar gyfer ennill yr M.A..
Dyddiad cyhoeddi: 8 Hydref 2015