MACBETH - DIRECTOR’S CUT gan Volcano Theatre yn dychwelyd ar ffurf 21ain Ganrif
ydd Volcano Theatre yn dod i Pontio, Bangor am y tro cyntaf nos Fercher, 16 o Dachwedd.
Mae 18 mlynedd ers i Volcano Theatre o Abertawe gyflwyno ei fersiwn wreiddiol drawiadol o Macbeth, gyda’r is-deitl ‘Director’s Cut’. Gyda’r coreograffi ‘chwantus’ gan Nigel Charnock, ei ddisgyniad ‘strôb-a-chwalu-metel’ i anhrefn llwyr ar ôl llofruddiaeth Duncan, a’i gyfeiriadau gweledol at droseddau erchyll Fred a Rose West, fe’i cydnabuwyd yn gyffredinol fel perfformiad eithriadol ac fe ddenodd ymatebion cryf ar bob rhan o’r sbectrwm o ryfeddod i wylltineb.
Y tymor yma, mae Volcano unwaith eto yn archwilio trasiedi waedlyd a huawdl Shakespeare; gan drosgwlyddo’r rolau canolog o aelodau sylfaen y cwmni i genhedlaeth newydd o berfformwyr. Mairi Phillips o Glasgow ydy’r Arglwyddes Macbeth ac mae ei hegni diddiwedd eisoes wedi bod yn amlwg mewn sawl cynhyrchiad diweddar gan Volcano o Chekhov i A Clockwork Orange. Ei phartner yn y troseddau ydy’r Cymro Alex Harries, sydd yn fwy adnabyddus fel DC Lloyd Elis yn y ddrama ar BBC1 Hinterland.
Dydi’r is-deitl ‘director’s cut’ ddim gymaint yn cyfeirio cymaint at theori cyfarwyddwr ag y mae’n ergyd i’r confensiynau a’r blaenoriaethau sydd yn dominyddu perfformiadau Shakesperaidd yn y theatr a’r sinema prif ffrwd. Mae Macbeth Volcano yn torri’n ôl ar y testun sydd eisoes yn gynnil ac yn ail ddosbarthu llinellau’r cymeriadau eraill rhwng y cwpl llofruddiaethus gyda diffyg parch pwrpasol y gall rhai ei ystyried yn gableddus. Ond mae digon ar ôl, gan gynnwys fersiwn wahanol o Olygfa’r Porthor (wedi’i adfer o’r newydd ar gyfer fersiwn 2016, gyda llawer mwy o hiwmor nag o’r blaen). Y tro hwn, mae cynddaredd erotig y Director’s Cut gwreiddiol wedi ildio i abswrdiaeth chwareus gydag islais o berygl cyhyrog. Mae’r pwyslais wedi symud o angerdd rhywiol dinistriol i gefndir o drais endemig lle mae’r prif gymeriadau yn llithro’n llawer rhy hawdd o gellwair i greulondeb.
Mae’r dyluniad newydd, gan y dylunydd ifanc sydd yn wreiddiol o Beirut ac a hyfforddwyd yng Nghymru, Tina Torbey, wedi cael gwared ar ormodedd baroc a thlodi domestig y fersiwn blaenorol gan eu disodli gyda llwyfan moel hardd o wrthrychau llym a hyblyg, deunyddiau, arfau a nifer o gyrff allai gynrychioli’r Alban yn yr 11eg Ganrif gymaint â Aleppo yn yr 21ain Ganrif, lle mae ‘Each new morn / New widows howl, new orphans cry, new sorrows / Strike heaven on the face’.
Cyfarwyddwr Macbeth ydy Paul Davies, a fu’n chwarae’r prif ran yn y cynhyrchiad gwreiddiol ac sy’n gyd sylfaenydd a Chyfarwyddwr Artistig Volcano. Efallai y bydd cefnogwyr theatr gorfforol yr 1990au yn siomedig nad ydy Davies wedi ceisio atgynhyrchu clasur gwreiddiol Volcano, fel y gwnaeth pan atgynhyrchodd ddarn arall y Cwmni gan Shakespeare gyda choreograffi gan Chernock, L.O.V.E. (llwyfannu’r Sonedau) yn 2012. Ond mae ei amharodrwydd i dderbyn y llwybr hawdd ac i ymlacio i fformiwla yn un o’r pethau sydd wedi cadw gwaith Volcano yn ffres ac yn rhyfeddod mewn tirwedd artistig a gwleidyddol cyfnewidiol. Efallai fod peidio â gwybod beth yn union i’w ddisgwyl wrth fynd i weld drama adnabyddus yn frawychus, ond y wobr yw pleser yn yr annisgwyl gan anwybyddu’r rheolau a cae gwastad rhwng y rhai sydd yn gyfarwydd â mynd i’r theatr a chynulleidfaoedd newydd. Pan fydd Volcano yn mynd i’r ystafell ymarfer, mae unrhyw beth yn bosibl.
Macbeth – Director’s Cut
Nos Fercher, 16 Tachwedd, Theatr Bryn Terfel, 7.30pm
Tocynnau: https://www.pontio.co.uk/Online/mac16 or 01248 38 28 28
Dyddiad cyhoeddi: 14 Tachwedd 2016