Macsen yn siarad mwy
Mae deallusrwydd artiffisial (AI) yn mynd yn fwy clyfar bob dydd. Erbyn hyn mae gan lawer o bobl yng Nghymru ddyfeisiau fel Alexa, Siri, a Google Now sy’n medru ateb cwestiynau ar lafar am y tywydd, newyddion a ffeithiau defnyddiol eraill. Maen nhw hyd yn oed yn medru ymateb i lais yn gofyn iddyn nhw gynnau’r golau, troi’r trydan ymlaen neu bethau tebyg. Yn anffodus, dim ond yn Saesneg mae’r rhain yn gweithio, ond rydyn ni gam yn nes at gael system debyg yn Gymraeg gyda Macsen, sy’n ffrwyth gwaith ym Mhrifysgol Bangor, gyda chymorth grant gan Lywodraeth Cymru. Ar y dechrau roedd Macsen yn medru ymateb i orchmynion syml yn unig, ond erbyn hyn mae hefyd yn medru ateb cwestiynau eraill, a mynd i’r erthyglau mwyaf poblogaidd yn y Wicipedia Cymraeg a chael hyd i wybodaeth ddefnyddiol yno. Mae’n ddarllen allan y paragraff cyntaf o erthygl, neu benawdau’r newyddion, gan ddefnyddio llais synthetig.
Bellach, mae cymuned bach o ddatblygwyr a hobïwyr brwdfrydig yn dechrau cydio yn Macsen. Mae’r rhain yn cynnig syniadau newydd am sgiliau ychwanegol i’r system. Un o’r rhain yw’r syniad o wneud teclyn pwrpasol i fod yn ‘gorff’ iddo, yn lle gorfod defnyddio microffon a seinydd ar wahân, a’u cysylltu wrth gyfrifiadur bach Rasbperry Pi, fel mae’n rhaid gwneud ar hyn o bryd. Mi fydd datblygiadau fel hyn yn gaffaeliad nid yn unig i siaradwyr Cymraeg, ond i economi Cymru hefyd, wrth i gwmnïau bach lleol fedru defnyddio’r dechnoleg newydd i ddeall apiau â rhyngwynebau lleferydd Cymraeg.
Datblygiad arall gyda phroject Macsen yw rhaglen drawsgrifio sy’n teipio ar y sgrin beth mae unigolyn yn ei ddweud. Eglurodd Dewi Bryn Jones, prif ddatblygwr y rhaglen yn Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr:
“Mewn gwirionedd mae’r cyfrifiadur yn teipio allan beth mae’n meddwl fod person wedi’i ddweud bob tro y bydd yn rhoi gorchymyn llafar i Macsen. Datblygiad o’r gwaith hwnnw felly yw dangos y testun ar y sgrin. Ond mae geirfa’r trawsgrifiwr yn llawer ehangach nag un Macsen, a bydd yn gwella eto wrth gael ei hyfforddi. Ar hyn o bryd mae’n gweithio’n well gyda lleisiau penodol, ac unigolion sydd wedi defnyddio’u llais i ddysgu’r system.”
Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: “Rydym yn byw mewn byd lle mae technoleg yn datblygu yn hynod gyflym. Mae’n hollbwysig i’r Gymraeg gadw lan gyda’r datblygiadau diweddaraf os ydym am sicrhau ein bod yn cyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Dyna pam rwy’n falch i gefnogi datblygiadau fel Macsen.”
Mae’r cod a’r adnoddau a ddatblygwyd i wneud hyn ar gael am ddim ar y we, drwy’r Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol (http://techiaith.cymru). Gall unrhyw ddatblygwr, cwmni neu hobïwr ddefnyddio’r adnoddau hyn i greu cynnyrch defnyddiol ohonyn nhw, ac maen nhw’n addas hefyd i’w defnyddio mewn clybiau codio Cymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Ebrill 2018