Mae aelod o staff Prifysgol Bangor yn y “the toughest foot race on earth”ym mis Ebrill
Mae aelod o staff Prifysgol Bangor yn paratoi i redeg dros 150 o filltiroedd yn y Sahara mewn ras sydd yn cael ei disgrifio fel “the toughest foot race on earth”.
Penderfynodd Alan Edwards o Gaernarfon, Pennaeth Gwasanaethau Myfyrwyr Rhyngwladol ym Mhrifysgol Bangor, fod yr amser wedi cyrraedd i ymosod ar yr Marathon Des Sables, ar ôl iddo ddarllen erthygl amdano nôl yn 2005. Bydd yn un o 900 o gystadleuwyr sy'n cymryd rhan yn yr her eithafol ym Mis Ebrill a bydd gofyn iddo redeg 156 o filltiroedd mewn 6 diwrnod, a hynny yn niffeithwch y Sahara ym Morocco - mewn tymheredd a all gyrraedd 45 gradd Celsius!
Dywedodd Alan, sydd yn wreiddiol o'r Bala: “Mae'n rhaid i ni fod yn hollol hunangynhaliol yn ystod y 6 diwrnod gan gario ein holl offer ar ein cefnau mewn rycsac. Mae hyn yn cynnwys bwyd, dŵr, offer coginio, offer cysgu, dillad a phecyn cymorth cyntaf (gan gynnwys pwmp 'anti-venom' rhag ofn i ni gael brathiad gan scorpionau neu nadroedd!) Yr unig gefnogaeth sydd ar gael yw bod y trefnwyr yn gosod pebyll ar ddiwedd pob dydd a bod gwasanaeth meddygol brys ar gael mewn argyfwng.”
Mi fydd Alan yn un o 250 o gystadleuwyr o Brydain a fydd yn hedfan i Foroco ddiwedd mis Mawrth ac mae’n bwriadu gwisgo draig goch ar ei het, gan obeithio denu cystadleuwr arall o Gymru. Mi fydd yn cychwyn y ras ar yr 2ail o Ebrill ac yn gorffen ar y 7fed, ac yn hedfan yn ôl i Gymru ar yr 11eg o Ebrill.
“Roeddwn â diddordeb cymryd rhan ers 2005, ond mae’n anodd sicrhau lle yn y ras gan mai nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael. Ond ges i’r ‘dewrder’ i roi cais fewn yn 2008 a chael lle ar gyfer ras 2011” meddai Alan.
Ychwanegodd: “Yr ysbrydoliaeth oedd gweld os allwn gwblhau’r fath sialens a gwneud hynny fy hun, yn hytrach na bod yn rhan o dîm, a gweld os oedd gennyf y cryfder meddyliol i ysgogi fy hun i ymarfer cymaint â gorffen y ras.”
Gyda’i ferch, Cara, ddim ond yn 4 mis oed, mae cael amser i ymarfer cyn y ras wedi bod yn her yn ei hunain, esboniodd Alan.
“Rwyf wedi bod yn ymarfer go iawn ers mis Ionawr, hynny yw rhedeg rhwng 50 i 80 milltir yr wythnos. Dwi wedi bod yn ymarfer rhedeg gyda rucsac ar fy nghefn (yn pwyso tua 10kg), rhedeg i gwaith ac yn ôl rhedeg ar dwyni tywod traeth Llanddwyn yn Ynys Môn, a rhedeg oddeutu 50 milltir pob penwythnos.
“Mae hi wedi bod yn anodd iawn cael yr amser i redeg gymaint – yn enwedig gyda boreau a nosweithiau tywyll – a’r tywydd gaeafol/eira ym mis Ionawr! Yn ogystal, mae fy ngwraig a finnau newydd gael hogan fach – y cyntaf –Cara, ac mae hyn wedi gwneud hi’n anodd mynd i redeg am oriau ar ôl gwaith ac ar y penwythnosau – dwi’n teimlo fy mod yn esgeuluso fy nyletswyddau fel tad -er bod Bethan yn gefnogol o’r holl fenter… ac yn meddwl mod i’n wirion!”
Un o’r sialensiau mwyaf yn ystod y ras bydd ymdopi a’r gwres, a all gyrraedd 40 gradd. O fis Mawrth ymlaen, mi fydd Alan yn dechrau ymfarfer mewn Siamber Wres sydd ar gael o fewn yrYsgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer. Mae arbenigwyr o fewn y Brifysgol wedi ei gynghori i ymarfer ychydig wythnosau cyn y ras i’w gorff gael cynefino gyda gwres uchel fel a fydd ym Moroco yn ystod y ras.
Her arall yw ceisio sicrhau nad ydw i’n cael swigod yn y tywod a all gael mewn i’r esgidiau a bod fel ‘sandpaper’ yn rhwbio yn erbyn croen y traed. Swigod yw un o’r prif resymau pam mae cystadleuwyr yn gorfod tynnu allan.
Ond y rhan anoddaf yw rheoli’r bwyta ac yfed yn ystod y ras. Dywedodd Alan: “Mae’n hanfodol mod i’n bwyta digon o galorïau i adennill yr hyn ‘rwy’n ei golli wrth redeg – er mwyn gwneud yn siŵr bod gennai ddigon o egni i barhau. Mae hwn yn gamp anodd ei gael yn iawn – rhaid cael digon o fwyd a diod addas, ond y mwya’ mae rhywun yn ei gario, y tryma’ yw’r rucsac…a felly mae’n anoddach i redeg!”
Ar ôl dod yn ôl, mae Alan yn edrych ymlaen at wario mwy o amser gyda Cara a Bethan a rhoi ei draed fyny… tan yr her nesaf!
Mi fydd Alan yn codi arian ar gyfer elusen Mencap a gallwch ei noddi drwy ymweld â’i wefan, neu trwy e-bostio alanbala37@hotmail.com
Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2011