Mae Bangor yn golygu busnes yn y Ffair Yrfaoedd flynyddol
Mewn marchnad swyddi sy'n gynyddol gystadleuol, nid yw hi byth yn rhy gynnar i fyfyrwyr ddechrau meddwl am eu hopsiynau gyrfa.
Mae mynd i'r brifysgol bellach ynghylch mwy na darlithoedd a thraethodau: mae hefyd ynglŷn â pharatoi at fyd cyflogaeth, ac mae rhwydweithio, profiad gwaith a CV cryf i gyd yn elfennau allweddol yn arfogaeth unrhyw fyfyriwr sy'n chwilio am swydd.
Yn Ysgol Busnes Bangor, mae'r Ffair Yrfaoedd a Chyflogadwyedd flynyddol yn cynnig cyfle anhepgor i ddatblygu'r cymwyseddau hyn ac achub y blaen ar chwilio am swydd ar ôl graddio.
Cafodd y ffair ei chynnal yng Nghanolfan Rheolaeth Prifysgol Bangor ar 12 Hydref, a chafodd myfyrwyr o bob lefel astudio gyfle i gwrdd â recriwtwyr rhanbarthol a chenedlaethol yn cynrychioli ystod eang o lwybrau gyrfa, yn cynnwys cyfrifyddiaeth, y gwasanaeth sifil, recriwtio a marchnata - llawer ohonynt â chynlluniau i raddedigion, interniaethau a swyddi gwag i'w hyrwyddo.
Wrth esbonio pwysigrwydd digwyddiadau o'r fath, dywedodd Clare Brass, Cydlynydd Cyflogadwyedd ym Mhrifysgol Bangor: "Mae Ffeiriau Gyrfaoedd yn cynnig cyfleoedd amhrisiadwy i fyfyrwyr ddysgu am lwybrau ac opsiynau gyrfa, cysylltu â chyflogwyr a recriwtwyr a chael gwybodaeth hollbwysig am ofynion sefydliadau a thechnegau recriwtio.
"Mae cael yr holl arbenigedd hwn dan un to yn ysbrydoliaeth, a gall hefyd fod yn wir hwb i hyder myfyrwyr pan ddaw at geisiadau am swyddi a chamu i'r byd proffesiynol".
Er mwyn ceisio ychwanegu mwy o werth i'r ffair swyddi draddodiadol, roedd digwyddiad Ysgol Busnes Bangor hefyd yn cynnig clinig CV, sesiynau trafod arbenigol a phanel cwestiwn ac ateb gyda chyn fyfyrwyr, gan gynnig cipolwg gwerthfawr i'r garfan bresennol ar siwrneiau graddedigion o'r ystafell ddosbarth i'r ystafell fwrdd.
Efallai mai’r nodwedd fwyaf cyffrous oedd y Gêm Recriwtio, lle ymgymerodd myfyrwyr a gyrhaeddodd y rhestr fer â heriau tebyg i'r Apprentice am gyfle i ennill interniaeth neu leoliad gwaith cyflogedig gydag un o dri busnes: 75point3, Dafydd Hardy a Zip World.
"Fel sefydliad a gaiff ei lywio gan ymchwil, mae ein rhaglenni yn tynnu ar ddadansoddiad praff ac arbenigol o faterion o bwys a dadleuon perthnasol", dywedodd yr Athro Jonathan Williams, Pennaeth Ysgol Busnes Bangor. "Mae hyn - ynghyd â'n cydweithio â phartneriaid busnes lleol, cenedlaethol a byd-eang ar ddigwyddiadau megis y Ffair Yrfaoedd - yn rhoi mantais gystadleuol i'n myfyrwyr a fydd yn gwella eu cyflogadwyedd."
Mae Ysgol Busnes Bangor yn dymuno diolch i bawb a gymerodd ran:
- 75point3
- ACCA
- Bloomberg
- Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogaeth, Prifysgol Bangor / Careers and Employability, Bangor University
- CCI Legal
- Chartered Banker Institute
- CIMA
- CIM
- Coleg Cymraeg Cenedlaethol
- Cyngor Gwynedd Council
- Dafydd Hardy
- Hays
- Mandarin Consulting
- Mills & Co
- Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru / North Wales Economic Ambitions Board
- Yr Awyrlu Brenhinol / RAF
- RSM
- Santander
- Ysgol Addysg, Prifysgol Bangor / School of Education, Bangor University
- Williams Denton
- Zip World
- Alumni: Fiona Anderson, Dr Edward Jones, Oana Lazar, Tan Bich Ngoc, Ross Starkie
Dyddiad cyhoeddi: 4 Tachwedd 2016