Mae Byddwch Fentrus yn cyhoeddi enillydd Gwobr Prifysgolion Santander - Rhagoriaeth mewn Menter.
Trwy Brifysgolion Santander, mae tîm Byddwch Fentrus yn falch o gyhoeddi bod myfyriwr israddedig Bl. 3 mewn Busnes a Rheolaeth, Bogdan Pop, wedi ennill gwobr o £1,000 am ei gyfranogiad mewn gweithgareddau menter ac arloesi trwy gydol ei amser ym Mhrifysgol Bangor.
Cyflwynwyd y wobr gan Luke Ellis, Cyfarwyddwr Cysylltiadau’r DU ar gyfer Prifysgolion Santander, yn y dathliadau BEA a gynhaliwyd yn ddiweddar. Cyhoeddir ail wobr o £1,000 yn ddiweddarach yn y flwyddyn i fyfyriwr sydd wrthi’n cychwyn ei b/fusnes ei hun. Mae Prifysgolion Santander yn cyflwyno’r ysgoloriaethau hyn er mwyn rhoi cymorth i fyfyrwyr neilltuol o dda, fel y gallant wella eu rhagolygon a dod yn arweinwyr y dyfodol.
Ers ei flwyddyn gyntaf, mae Bogdan yn cymryd rhan mewn gweithgareddau Byddwch Fentrus, y sesiynau mentora busnes un-i-un am ddim a gweithdai profiad megis ‘How to be a Consultant’. Ar ben hynny, bu’n cynnal stondin ym Marchnad Nadolig Myfyrwyr Byddwch Fentrus, lle gwerthodd gynhyrchion gofal y corff oedd wedi’u gwneud â llaw. Mae hefyd wedi manteisio ar gyfleoedd i fentro mewn rhannau eraill o’r Brifysgol, megis Her Busnes IBM o fewn yr Ysgol Busnes a Chystadleuaeth Fuddsoddi Bloomberg. Yn sgil yr holl weithgareddau hyn, ef enillodd y nifer mwyaf o bwyntiau xp BEA am weithgareddau menter ac arloesi. Mae mwy na 500 o fyfyrwyr wedi cofrestru eu cyfranogiad mewn gweithgareddau menter trwy Wobr Cyflogadwyedd Bangor, a Bogdan a gyfranogodd fwyaf o blith y rhain. Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Bogdan “Rwy’n synnu ac yn hapus fy mod wedi ennill y wobr. Mae’n golygu llawer iawn i mi, am ei bod yn cydnabod fy nghyfranogiad mewn cymaint o weithgareddau a chystadlaethau busnes. Rwy’n bwriadu defnyddio’r wobr hon i’m marchnata fy hun mewn ceisiadau am swyddi yn y dyfodol, am y bydd yn dangos fy mod wedi datblygu medrau mentro ochr yn ochr â’m hastudiaethau academaidd”.
Eleni, roedd Bogdan yn aelod o’r tîm buddugol ar gyfer y cwrs amlddisgyblaethol arloesol Menter trwy Ddylunio http://www.bangor.ac.uk/news/latest/bubble-challenge-for-enterprise-by-design-18618 ac roedd hefyd yn aelod o dîm rhaglen UK FLUX a ddaeth yn ail yn ddiweddar ym Mhrifysgol Caerhirfryn (Lancaster) (http://www.bangor.ac.uk/news/latest/enterprising-bangor-students-flux-success-18570).
Meddai Rheolwr BEA, John Jackson, “Mae Bogdan wedi gwneud yn wych yng nghategori Mentr ac Arloesi cynllun BEA, ac yn llawn haeddu’r Wobr Ragoriaeth hon. Nid yw chwaith wedi cyfyngu ei weithgareddau allgyrsiol i entrepreneuriaeth, ac yntau wedi cymryd rhan mewn llawer iawn o weithgareddau diddorol a phrofiadau gwaith, a bydd yn ennill Gwobr BEA 200 pan fydd yn graddio yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Hoffai Tîm BEA ddymuno’r gorau iddo ar gyfer y dyfodol.”
Meddai Ceri Jones i dîm Byddwch Fentrus, “Mae Bogdan i’w longyfarch ar y llwyddiant hwn ac ar ei ymrwymiad i ddatblygu ei fedrau mentro o ddechrau ei fywyd fel myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor. Mae hyn yn sicr o fod yn baratoad da iddo pan fydd yn chwilio am waith yn y farchnad swyddi hon sydd mor gystadleuol.”
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2014