Mae caethwasiaeth yn drosedd- nid cyfrifoldeb prynwyr yw ei wrthwynebu
“Nid dewis y prynwr yw cefnogi caethwasiaeth. Mae ’n drosedd yn erbyn y ddynoliaeth.” Dyna eiriau Dr Nicola Frith, Darlithydd mewn Ffrangeg ac arbenigwraig mewn Astudiaethau Ôl-drefedigaethol a Chaethwasiaeth Ffrengig yn Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Bangor.
Mewn erthygl yn The Conversation heddiw ( 5 Gorffennaf) mae Dr Frith yn dadlau nad y prynwr sydd â chyfrifoldeb ond yr archfarchnadoedd a’u cadwyni cyflenwi, gan fod y ddeddfwriaeth yn ddigon clir bod caethwasiaeth yn drosedd amlwg, ac nad oes ganddynt unrhyw gyfiawnhad dros beidio ag ymateb i unrhyw gamdriniaeth neu droseddau fel y rhai a amlygwyd gan The Guardian yn ddiweddar.
Darllenwch yr erthygl lawn yma:
Dyddiad cyhoeddi: 4 Gorffennaf 2014