Mae coedwigoedd eglwysig Ethiopia yn adnodd hanfodol sydd yn haeddu cydnabyddiaeth treftadaeth y byd
Mae bron holl goedwigoedd ucheldir Ethiopia wedi eu colli heblaw am ardaloedd bychain o goedwig gysegredig sydd yn amgylchynu eglwysi unigol Eglwys Uniongred Tewahedo Ethiopia.
Mae’r arolwg cyntaf i asesu gwerth cadwraeth y coedwigoedd hyn wedi dangos bod y coedwigoedd eglwys, fel y’u gelwir, yn chwarae rhan hanfodol wrth warchod nifer o rywogaethau yn yr ardal, sydd wedi ei dynodi’n ardal lle ceir nifer o rywogaethau o bwys byd-eang sydd dan fygythiad. Er bod y coedwigoedd hyn yn cael eu rheoli’n unigol, gyda'i gilydd maent yn ffurfio rhwydwaith pwysig o gynefinoedd ar draws ardal eang o ucheldir canolbarth a gogledd Ethiopia.
Mae’r papur, a gyhoeddir yn y cylchgrawn Science of the Total Environment, hefyd yn nodi prif sialensiau i barhad bioamrywiaeth y coedwigoedd, fel ymyriadau neu newid hinsawdd. Mae’n gwneud argymhellion allweddol o ran eu gwarchod a’u gwella. Maent wedi goroesi oherwydd eu bod yn cael eu cysylltu â gwerthoedd cryfion o ran diwylliant, bywyd ysbrydol a chrefydd. Er hyn, bydd angen gwella polisïau cenedlaethol i gryfhau eu cadwraeth a’u rheolaeth gan yr Eglwys a chymunedau lleol os ydynt am barhau i’r dyfodol.
Meddai John Healey, Athro Gwyddor Coedwigaeth yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth, ac un o awduron y papur:
“Mae coedwigoedd Eglwys Ethiopia yn adnodd o bwys ar raddfa leol a byd-eang. Gallant barhau i roi buddiannau o bwys o ran cadwraeth bioamrywiaeth y byd, a’r cymunedau lleol sydd yn eu defnyddio. Oherwydd eu gwerth neilltuol i’r byd, mae achos da dros ychwanegu’r coedwigoedd at Restr Treftadaeth Byd UNESCO. Maent eisoes yn cyflawni chwech o’r deg o ofynion, lle mai dim ond un sydd ei angen mewn gwirionedd i sicrhau’r statws.”
“Mae coedwigoedd cysegredig fel y coedwigoedd eglwys yn Ethiopia i’w cael mewn sawl diwylliant o amgylch y byd. Maent yn chwarae rhan bwysig wrth gynnal y diwylliant, yn ogystal â diogelu bioamrywiaeth sydd yn ddibynnol ar y cynefinoedd hyn,” fe ychwanegodd.
Mae’r papur yn diweddu fel hyn: “Byddai cynnwys coedwigoedd eglwys Ethiopia ar restr hir i’w hystyried fel safleoedd treftadaeth naturiol a diwylliannol ac, yn y pen draw, eu rhoi ar restr Safleoedd Treftadaeth Byd UNESCO, yn gydnabyddiaeth amserol a haeddiannol o werth crefyddol, naturiol a diwylliannol eithriadol coedwigoedd eglwys Ethiopia. Mae materion yn ymwneud â rheolaeth a pholisi diogelu coedwigoedd eglwys Ethiopia o bwys byd-eang, gan fod llecynnau bach ac ynysig o fforestydd a choed yn dod yn fwyfwy pwysig wrth i ddatgoedwigo a thorri fforestydd barhau ar draws y byd.”
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mawrth 2016