Mae Cynllun Arweinwyr Cyfoed Bangor wedi bod yn destun sylw eto
Mae dau o’n huwch Arweinwyr Cyfoed, Ben Pattle o ADNODD a Rhiannon Edwards o’r Ysgol Seicoleg, wedi cynrychioli Bangor yn ddiweddar mewn seminar ym Mhrifysgol Aston o’r enw Peer Mentoring Works!
Fe gawsant fodd i fyw ar y diwrnod a buont yn cymryd rhan mewn gwahanol grwpiau trafod ac yn rhwydweithio â staff a myfyrwyr o sefydliadau eraill. Ar ddiwedd y diwrnod buont yn rhan o banel o arbenigwyr yn ateb ychydig o gwestiynau. Meddai Ben ‘Roedd llawer iawn o ddiddordeb yn y Cynllun Arweinwyr Cyfoed a llawer o adborth cadarnhaol. Buon ni’n brysur iawn yn ateb cwestiynau.’ Ychwanegodd Rhiannon ‘ Beth wnaeth argraff arbennig ar bobl oedd ymrwymiad yr Arweinwyr Cyfoed oedd mor barod i roi o'u hamser. Roedd llawer o ddiddordeb hefyd yn y cynllun optio allan sydd gennym sy’n sicrhau bod ein Harweinwyr Cyfoed ar gael i bawb.’
Mae Bangor wedi gweithio gyda Phrifysgol Aston ar eu project ymchwil How Peer Mentoring Enhances Student Success in Higher Education, sydd yn rhan o’r project What Works a gyllidwyd gan yr Academi Addysg Uwch/Ymddiriedolaeth Paul Hamlyn, ac sy’n edrych ar wahanol agweddau ar lwyddiant myfyrwyr a dal gafael ar fyfyrwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Ebrill 2012