Mae darlithydd o Brifysgol Bangor yn rhyddhau dau CD
Mae Dr Xenia Pestova, o’r Ysgol Cerddoriaeth, yn rhyddhau dau CD ym mis Hydref a mis Tachwedd. Bydd “John Cage: works for two keyboards, volume 1” ar gael ar Naxos Records a “Shadow Piano”, ei halbwm unawdol cyntaf, i’w ryddhau ar Innova Records.
Mae’r ddau recordiad yn dangos Xenia yn chwarae offerynnau llawfwrdd anarferol, megis y piano tegan (gwaith clasurol John Cage, sef “Suite for Toy Piano” o 1948 a darnau ar gyfer piano tegan gydag effeithiau electronig gan y cyfansoddwyr o America, Lou Bunk a Derek Hurst), a’r “piano wedi’i baratoi”, sy’n gofyn i’r perfformiwr osod rhai gwrthrychau, megis bolltydd metel, darnau arian a darnau o bren rhwng llinynnau’r piano, gan ei droi’n offeryn tebyg i offeryn taro.
Mae ei disg unawdol yn adfyfyrio ar ochr dywyllach bywyd, ac yn cynnwys cerddoriaeth ar gyfer piano a phrosesu electronig sy’n cyffwrdd â syniadau marwolaeth ac atgof, gan Katharine Norman, Scott Wilson a John Young, yn ogystal â chan yr Athro Andrew Lewis, o Brifysgol Bangor ei hun.
Bu Xenia hefyd yn cydweithredu â’r ffotograffydd a’r artist digidol Veronika von Volkova, sydd wedi’i lleoli ym Montréal, i greu llyfr o ddelweddau i gyd-fynd â’r CD.
Meddai Xenia: “Rwy’n hapus iawn i allu rhannu recordiad o’r gerddoriaeth hon. Ysgrifennwyd yr holl ddarnau ar fy nisg unawdol gan gyfansoddwyr yr wyf mor ffodus â’u galw’n ffrindiau imi. Mae dod â nhw ynghyd ar un albwm hefyd yn crynhoi profiadau a gefais ar adeg benodol, pryd y dechreuais archwilio technoleg cerddoriaeth a gwneud llawer o ymchwil yn y maes, ac rwy’n falch fod y cynnyrch creadigol hwn gennyf i ddangos ôl fy ngwaith.”
Bydd Xenia yn lansio’r disgiau mewn digwyddiad sydd i’w gynnal ar y cyd â Dr Zoë Skoulding, o’r Ysgol Dysgu Gydol Oes, sy’n dathlu cyhoeddiad ei llyfr newydd, ar 26 Tachwedd ym Mar y Teras, am 6 pm.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2013