Mae data cydraniad uchel yn cynnig y lluniau manylaf erioed o ôl troed pysgota treillio ledled y byd
Daw tua chwarter o fwyd môr y byd sy'n cael ei ddal yn y cefnfor o dreillio'r gwaelod, dull sy'n golygu tynnu rhwyd ar hyd gwely'r môr ar silffoedd a llethrau cyfandirol i ddal berdys, penfras, pysgod creigiog, lledod chwithig a mathau eraill o bysgod a physgod cregyn sy'n byw ar waelod y môr. Mae'r dechneg yn effeithio ar ecosystemau gwely'r môr, mae'r rhwydi'n gallu lladd neu darfu ar fywyd a chynefinoedd morol eraill yn anfwriadol.
Mae gwyddonwyr yn cytuno y gall treillio helaeth ar waelod y môr effeithio'n ddirfawr ar yr ecosystemau morol, ond anodd iawn oedd ateb y cwestiwn tyngedfennol - sef faint o'r arwynebedd, neu'r ôl troed, sy'n cael ei dreillio ledled y byd.
Mae dadansoddiad newydd sy'n defnyddio data cydraniad uchel ar gyfer 24 o ranbarthau'r môr yn Affrica, Ewrop, Gogledd a De America ac Awstralasia yn dangos mai dim ond 14 y cant o lawr cyffredinol y môr sy'n fasach na 1,000 metr (3,280 troedfedd) sy'n cael ei dreillio. Mae'r rhan fwyaf o'r pysgota treillio'n digwydd o fewn y dyfnder hwn ar hyd y silffoedd a'r llethrau cyfandirol yng nghefnforoedd y byd. Bu'r astudiaeth yn canolbwyntio ar y dyfnderoedd hynny, sy'n cwmpasu tua 7.8 miliwn o gilometrau sgwâr o'r môr.
Mae'r papur, a gyhoeddir [8/10/18] yn Nhrafodion Academi Genedlaethol y Gwyddorau, yn dwyn ynghyd 57 o wyddonwyr o 22 o wledydd, pob un ag arbenigedd mewn mapio gweithgareddau pysgota o ddata monitro lloerennau a llyfrau log pysgota. Mae'n dangos bod yr ôl troed pysgota ar waelod y môr ar y silffoedd a'r llethrau cyfandirol ledled cefnforoedd y byd yn aml wedi ei oramcangyfrif yn ddirfawr.
Bu treillio'n beth dadleuol iawn oherwydd yr effaith ar ecosystemau gwely'r môr, ac nid yw ei ôl troed wedi'i fesur ar gyfer cymaint o ranbarthau ar gydraniad digon uchel.
"Os na wnewch chi fesur dosbarthiad y treillio ar raddfa fân, mi wnewch chi or-amcangyfrif ôl troed y treillio a'r effeithiau ar yr ecosystem sy'n deillio o hynny" meddai'r awdur Jan Hiddink o'r Ysgol Gwyddorau Eigion ym Mhrifysgol Bangor, y Deyrnas Unedig. Roedd Hiddink a Kaiser ym Mhrifysgol Bangor yn rhan o'r tîm rhyngwladol o wyddonwyr a fu'n cynllunio ac yn cydlynu'r astudiaeth.
Bu'r dadansoddiadau blaenorol yn mapio'r treillio ar gridiau 3,000 neu fwy o gilometrau sgwâr, er enghraifft, o'i gymharu â'r gridiau 1- i 3-cilometr-sgwâr a ddefnyddiwyd yn y dadansoddiad hwn.
Mae'r amcangyfrifon o'r ôl troed sydd yn y papur newydd yma hefyd yn fwy cywir na'r rhai sy'n cael eu disgrifio mewn rhai astudiaethau blaenorol, oherwydd maen nhw'n defnyddio gwybodaeth am yr offer y mae'r fflydoedd pysgota'n ei ddefnyddio, esbonia'r awduron. Os ydych chi'n gwybod beth oedd maint y rhwyd treillio, a oedd ei rhychwant yn 10 metr neu'n 100 metr, er enghraifft, mae'n helpu gwella'r amcangyfrif o arwynebedd y môr y bu mewn cysylltiad ag ef.
Er i'r awduron ganfod bod 14 y cant o ardal gyfunol yr astudiaeth yn cael ei dreillio, roedd gwahaniaethau daearyddol mawr. Er enghraifft, dim ond 0.4 y cant o lawr y môr oddi ar Dde Chile sy'n cael ei dreillio. Mae mwy nag 80 y cant o lawr y môr yn y Môr Adriatig, sy'n rhan o'r Môr Canoldir, yn cael ei dreillio, a dyna lle mae'r ôl troed mwyaf dwys.
Yn ogystal, roedd ôl traed y treillio'n cwmpasu llai na 10 y cant o lawr y môr yn nyfroedd Awstralia a Seland Newydd, ac yn Ynysoedd Aleutia yng ngogledd y Môr Tawel, Môr Dwyrain Bering a Gwlff Alaska, ond roedd yn uwch na 50 y cant mewn rhai moroedd Ewropeaidd.
Roedd yr astudiaeth hefyd yn cynnig tystiolaeth ar gyfer buddion amgylcheddol cysylltiedig - o ran lle mae ôl troed y treillio'n llai - a'r arferion pysgota'n gynaliadwy, eglurodd y cyd-awdur Simon Jennings o'r Cyngor Rhyngwladol ar gyfer Archwilio'r Môr.
"Yn y rhanbarthau hynny lle’r oedd ôl traed treillio gwaelod y môr yn llai na 10 y cant o ardal llawr y môr, roedd cyfraddau pysgota'r stoc bysgod ar waelod y môr yn unol â'r meincnodau cynaliadwyedd rhyngwladol bron yn ddiwahân. Ond pan mae'r ôl troed yn fwy nag 20 y cant, yn anaml iawn y cânt eu bodloni," meddai Jennings.
Mae'r awduron yn cydnabod nad oedd rhai rhanbarthau lle gwyddom fod llawer o dreillio'n digwydd wedi eu cynnwys yn yr astudiaeth hon oherwydd nad oedd data ar gael i greu darlun cyflawn o'r gweithgareddau pysgota. Mae De-ddwyrain Asia yn un o'r rhanbarthau hynny.
Er hynny, mae'r papur newydd yma'n cynnig y darlun mwyaf cynhwysfawr erioed o weithgareddau treillio ledled y byd, esboniodd y cyd-awdur, Ray Hilborn, athro y gwyddorau dyfrol a physgodfeydd ym Mhrifysgol Washington. Mae hefyd yn disgrifio ffordd o amcangyfrif ôl troed treillio mewn rhanbarthau lle mae mesuriadau'r offer, cyflymder y llongau a chyfanswm yr oriau treillio'n hysbys, ond mae data ynglŷn ag union leoliad y cychod yn brin ac y mae rhai fflydoedd bellach yn casglu'r data hwnnw.
"Gallwn ddefnyddio'r dull yma i wneud amcangyfrifon rhesymol dda o ôl troed treillio mewn mannau lle nad oes gennym ddata gofodol manwl," meddai Hilborn.
Awdur arweiniol y gwaith oedd Ricardo Amoroso, a gwblhaodd yr ymchwil fel ymchwilydd ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Washington yn Ysgol y Gwyddorau Dyfrol a Physgodfeydd. Ymhlith yr ymchwilwyr eraill a fu'n ymwneud â chynllunio'r astudiaeth mae Michel Kaiser o Brifysgol Bangor yn y Deyrnas Unedig a Chyngor Stiwardiaeth y Môr; Roland Pitcher o CSIRO Oceans ac Atmosphere yn Awstralia; Adriaan Rijnsdorp o Ymchwil Morol Wageningen yr Iseldiroedd; Robert McConnaughey o Ganolfan Gwyddoniaeth Pysgodfeydd Alaska; Ana Parma o Centro Nacional Patagónico yn yr Ariannin; Petri Suuronen o Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig a Sefydliad Adnoddau Naturiol y Ffindir; Jeremy Collie o Brifysgol Rhode Island; a Jan Hiddink o Brifysgol Bangor. Mae rhestr lawn o'r cyd-awduron ar gael yn y papur.
Mae'r grŵp hefyd yn cloriannu effaith treillio ar y planhigion a'r anifeiliaid sy'n byw ar waelod y môr, a sut mae'r newidiadau y mae'r planhigion a'r anifeiliaid hyn yn eu profi'n effeithio ar rywogaethau allweddol o bysgod.
Ariannwyd yr astudiaeth hon yn bennaf gan Sefydliad David a Lucile Packard a Sefydliad Teulu Walton. Mae rhestr lawn o'r ffynonellau cyllid ychwanegol ar gael yn y papur.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Hydref 2018