Mae datblygiadau diweddar mewn deall gallu cwrel i wrthsefyll tymheredd yn wyneb y môr yn elfen hanfodol o ymdrechion byd-eang i ddiogelu riffiau cwrel.
Mae adolygiad o’r llenyddiaeth yn pwyntio tuag at bwysigrwydd lleihau allyriadau carbon deuocsid byd-eang, yn ogystal â gwarchod neu gynyddu dulliau gwrthsefyll yn wyneb achosion cynyddol o effeithiau newid hinsawdd.
Mae riffiau cwrel dan fygythiad ar fwy nag un gwedd, o ganlyniad i effeithiau newid hinsawdd, gyda'r rhagfynegiadau diweddaraf yn awgrymu bod digwyddiadau ‘diliwio cwrel (pan fydd cwrel yn colli'r algâu symbiotig sydd ei angen arnynt i gynhyrchu egni), eisoes yn digwydd mor rheolaidd nes y bydd yn fwyfwy anodd i gwrel adfer.
Mae gwyddonwyr wedi bod yn astudio'n fanwl sut mae riffiau cwrel yn ymateb i straen amgylcheddol er y digwyddiadau diliwio cwrel o bwys cyntaf yn nechrau'r 1980au. Mae'n amlwg bellach bod tymheredd wyneb y môr uwch o ganlyniad i newid hinsawdd byd-eang, yn gyfrifol am achosion cynyddol reolaidd o ddiliwio cwrel, a bod lleihau allyriadau carbon deuocsid byd-eang yn gyflym yn hanfodol i gadw riffiau cwrel yn y dyfodol.
Mae gwyddonwyr hefyd yn troi eu sylw at astudio faint y gall rhai cwrel wrthsefyll y bygythiadau iddynt o ganlyniad i effeithiau newid hinsawdd, a pha mor gyflym y gallent adfer. Yn draddodiadol, mae gwyddonwyr wedi bod yn astudio adferiad yn nhermau degawdau — ond mae rhagamcaniadau hinsawdd yn awgrymu y bydd diliwio cwrel difrifol, ar gyfartaledd, yn dod yn ddigwyddiad blynyddol erbyn canol y ganrif o dan “busnes fel arfer” ac i rai riffiau bydd hyn yn llawer cynt.
Mae gwyddonwyr yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor, wedi cwblhau adolygiad cynhwysfawr o'r llenyddiaeth ar ddulliau gwrthsefyll ac adfer posibl i gwrel ar draws raddfeydd, o ardaloedd riffiau cwrel i'r lefel ficrobaidd ymhob cwrel unigol.
Gan ysgrifennu yn Current Climate Change Reports, deuant i'r casgliad, mai'r camau gweithredu mwyaf brys sydd eu hangen yw lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, ond hefyd mae angen ystyried technegau rheoli newydd ac ardaloedd riffiau a esgeuluswyd cynt i gymryd camau i'w gwarchod rhag effeithiau newid hinsawdd a ragamcanir.
Eglurodd Dr Ronan Roche, prif awdur y papur:
“Mae ymchwil wedi nodi amrywiad mewn sut y mae digwyddiadau straen thermol yn effeithio ar riffiau a chwrel mewn gwahanol leoliadau. Roedd y dasg y gwnaethom ei gosod i ni'n hunain yn synthesis o'r holl ganfyddiadau newydd fel y gallai gwyddonwyr cwrel, cadwraethwyr a gwneuthurwyr polisïau gael golwg gyffredinol dda o ba feysydd ymchwil sy'n fwyaf addawol wrth i hinsawdd byd-eang barhau i newid.
Er enghraifft, cynt, ystyriwyd bod cwrel a oedd yn tyfu mewn lleoliadau cymylog, 'mwdlyd' wrth y lan, yn aml yn agos at boblogaethau mawr, yn ddiraddedig, ond nawr dangoswyd eu bod hefyd yn gallu gwrthsefyll lefelau o wres sy'n achosi diliwio i gwrel mewn mannau eraill.
Efallai y bydd arnom angen derbyn riffiau cwrel wedi eu newid yn y dyfodol hefyd, wrth i wahanol fathau o gwrel ddangos gallu gwahanol i wrthsefyll. Er enghraifft, mae cwrel 'ymennydd' mwy yn tueddu i allu gwrthsefyll yn well na chwrel 'bysedd' canghennog, ond os byddant yn goroesi neu'n ail-boblogi riff, maent hefyd yn tyfu'n arafach na mathau eraill o gwrel.
Ar lefel ficrobaidd, mae gwyddonwyr wedi nodi gwahanol gyfraddau gwrthsefyll ymhlith y micro-organebau sy'n byw'n symbiotig mewn cwrel. Mae rhai'n gallu gwrthsefyll tymheredd cynyddol, ac efallai y byddent yn gallu goroesi a chystadlu dan dymheredd uwch yn y dyfodol. Nid oes gan bob riff y rhywogaethau o ficro-organebau symbiotig, felly mae gwyddonwyr fwyfwy yn ceisio canfod dulliau o bio-gynllunio i gynorthwyo cwrel i oroesi ac adfer.
Mae ein hadolygiad o'r gwaith a wnaed hyd yma'n datgelu darlun hynod gymhleth, ond nid oes amheuaeth bod riffiau dan fygythiad gwirioneddol. Mae'r cyd-awdur Yr Athro John Turner yn arwain gwaith yn Archipelago anghysbell Chagos Cefnfor yr India, a'r Dr Gareth Williams ar riffiau anghysbell y Môr Tawel, ac mae hyd yn oed y riffiau hyn wedi dioddef effeithiau marwolaeth drwy ddiliwio oherwydd newid hinsawdd, ac maent yn cael eu defnyddio fel safleoedd cyfeirio oherwydd y diffyg effeithiau pobl leol. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o riffiau'n agos at boblogaethau pobl, ac mae miliynau o bobl yn dibynnu arnynt. Mae riffiau cwrel yn gynefin hanfodol, sy'n darparu bwyd, adnodd economaidd, bywoliaeth ac amddiffyniad rhag stormydd a chodiad yn lefel y môr."
Dyddiad cyhoeddi: 22 Ionawr 2018