Mae dysgu rhythmau iaith yn fodd i ddod yn siaradwyr rhugl
Wrth i Gymru wynebu gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg, mae'n bwysicach nac erioed bod dysgwyr y Gymraeg yn llwyddo i ddatblygu'n siaradwyr Cymraeg rhugl.
Un o'r rhwystrau i ruglder yw'r anhawster y caiff dysgwyr y Gymraeg i gynhyrchu seiniau'r iaith, nid yn unig "ll" ac "ch" a seiniau eraill sy'n estron i glustiau Seisnig, ond hefyd acen a rhythm yr iaith, sy'n wahanol i rai'r Saesneg ac ieithoedd eraill.
Ceir llawer o wahaniaethau cynnil yn acenion a rhythmau gwahanol ieithoedd a gall siaradwyr iaith gyntaf a phobl ddwyieithog yn eu hatgynhyrchu heb sylweddoli eu bod yn gwneud hynny. Gall atgynhyrchu'r rhythmau hyn fod yn anodd iawn i ddysgwyr a gall fod yn rhwystr gwirioneddol i ddysgu ail iaith yn llwyddiannus, ac mae'n ei gwneud yn anos i siaradwyr iaith gyntaf ddeall dysgwyr yn siarad.
Efallai bod siaradwyr Cymraeg yn sylweddoli bod y pwyslais ym mwyafrif y geiriau Cymraeg ar y sillaf olaf ond un, ac efallai y dywedir hynny wrth ddysgwyr, ond yr hyn efallai na fydd siaradwyr Cymraeg yn ei ddeall yw bod y pwyslais yn cael ei greu mewn ffordd hollol wahanol i'r ffordd y mae'r Saesneg yn rhoi pwyslais ar sillaf. Mae hyn yn ei gwneud yn anos i ddysgwyr adnabod ac atgynhyrchu'r rhythm fel y dylent wrth siarad Cymraeg.
Yn y Saesneg, caiff y pwyslais ei greu'n bennaf trwy draw, lefel y llais a hyd y llafariad. Yn y Gymraeg, caiff y pwyslais ei greu trwy ymestyn y gytsain sy'n dilyn y sillaf lle ceir yr acen.
Gan ddefnyddio'r enghraifft hon fel model, mae arbenigwr ym Mhrifysgol Bangor yn ymchwilio i weld ai anhawster clywedol, sef anhawster clywed y pwyslais mewn gair, anhawster mecanyddol, sef anhawster atgynhyrchu sain a rhythm iaith, ynteu anhawster cofio'r seiniau hynny'n gywir sy'n gyfrifol am hyn.
Bydd canfyddiadau'r ymchwil a gyllidir gan yr Academi Brydeinig ac a gynhelir gan Ineke Mennen, Athro Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor, yn cyfrannu at y ddealltwriaeth ynglŷn â sut mae oedolion yn dysgu ail iaith a pha agweddau sy'n peri anhawster iddynt.
Wrth gwrs, wrth ddeall beth sy'n peri anhawster, daw ateb i'r broblem.
Meddai'r Athro Mennen: "Efallai y byddwn yn canfod bob y broblem yn deillio o anhawster cadw sain benodol yn y cof, fel y byddwn ni, neu bobl eraill, yn gallu creu adnoddau dysgu amlgyfrwng y gellid eu defnyddio i gynorthwyo dysgwyr i adnabod rhythmau ac acenion penodol, ac ymarfer eu hatgynhyrchu.
Meddai Ifor Gruffydd, Cyfarwyddwr Canolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru ym Mhrifysgol Bangor, sy'n cynnig dosbarthiadau Cymraeg i oedolion ledled gogledd Cymru:
"Rydym yn llwyr gydnabod pwysigrwydd sicrhau bod cyrsiau Cymraeg i Oedolion yn ymgorffori'r ymchwil ddiweddaraf am gaffael iaith, nid yn unig er mwyn bodloni anghenion dysgwyr heddiw, ond hefyd er mwyn sicrhau bod ein dulliau dysgu a chynnwys ein cyrsiau mor effeithiol â phosib. Rydym yn ffodus yn y Ganolfan Cymraeg i Oedolion o fod yn rhan o'r brifysgol, gan ein bod yn gallu gweithio gydag ymchwilwyr academaidd ac elwa o ymchwil blaengar ac arloesol a'i ymgorffori yn ein cyrsiau. Mae'r ymchwil diweddaraf hwn yn cynnig cyfle cyffrous i ni at y dyfodol, yn enwedig wrth ddatblygu adnoddau electronig newydd i ddysgwyr."
Esboniad o'r enghreifftiau sain
Yn yr enghraifft gyntaf byddwch yn clywed siaradwr Saesneg iaith gyntaf yn dweud y gair ‘cannon’. Byddwch yn clywed yn glir iawn bod yr acen ar y sillaf gyntaf (canon). Mae'r traw yn amlwg yn uwch yn y sillaf gyntaf, mae'r llafariad yn hwy, ac mae'n uwch na'r ail sillaf.
Yn yr ail enghraifft, byddwch yn clywed y gair ‘canol’. Mae'r synau yn y gair hwn yn debyg iawn i'r synau yn y gair Saesneg 'canon' a glywsom ynghynt. Mae'r acen ar y sillaf gyntaf yn y gair hwn hefyd (gan fod yr acen ym mwyafrif y geiriau Cymraeg ar y sillaf olaf ond un). Ond mae'r hyn rydym yn ei glywed yn wahanol iawn i'r Saesneg. Mae'r traw yr un mor uchel neu ychydig yn uwch yn yr ail sillaf. Mae'r llafariad yn yr ail sillaf ddiacen yr un mor hir â'r llafariad yn y sillaf (acennog) gyntaf. Ac mae'r sillafau yr un mor uchel
Mae hyn yn dangos yn amlwg bod y ffordd y mae'r Gymraeg yn dynodi pwyslais (acen) ar sillaf mewn gair yn wahanol iawn i'r modd y mae'r Saesneg yn dynodi pwyslais.
Mae'n rhaid bod hyn yn anodd i siaradwyr Saesneg iaith gyntaf ei wneud pan fyddant yn dysgu Cymraeg fel ail iaith. Hyd yn oed pan ddywedir wrthynt fod yr acen ym mwyafrif y geiriau Cymraeg ar y sillaf olaf ond un, nid oes neb yn dweud wrthynt fod y ffordd y mae'r Gymraeg yn dynodi acen yn wahanol hefyd. Er mwyn eu helpu, byddwn yn defnyddio ffeiliau sain lle rydym yn gorbwysleisio'r gwahaniaethau hyn er mwyn eu helpu i'w clywed, ac er mwyn eu helpu yn y pen draw i'w hail-greu mewn ffordd sy'n debyg i siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf.
Yn y enghraifft nesaf, rydym wedi byrhau'r /s/ yn y gair ‘mesen’. Gofynnir i'r gwrandäwr gymharu'r sain â’r enghraifft nesaf sydd â synau o'r un hyd â'r rhai a gynhyrchir gan siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf. Yn yr achos hwn, mae'r siaradwr Cymraeg yn dod o Sir Gaerfyrddin.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Rhagfyr 2014